Ellis Wyn
Yntau a aeth yn blentyn—oddi yma
Trwy ryw ddamwain sydyn;
Ond trwy y gwynt ar ewyn
Hola serch am Ellis Wyn.
Does neb all osod blodau—yr haf aur
Ar ei fedd di-eiriau;
Huned, a phruddaidd seiniau
Tonnau a gwynt troston gwau.
Dynes Dda
Dynes fu lawn daioni,—a'i rhydd fron
Mor ddi-frad âr lili;
Dylai bro wen ei geni
Roi llech aur ar ei llwch hi.
Ar Fedd Gwraig Weddw
Cwsg is hon, wraig dirionaf,—yn y bedd
Nid oes boen nac anaf;
Uwch dy lwch daw awel haf
A gwewyr llawer gaeaf.
|
Ar Faen Bedd
Annedd i weddi fu calon ddiddig
Yr addfwyn, isel, beraidd fonesig;
O wawr ei heinioes hyd ei hwyr unig
Gwasgarai hudol naws gysegredig;
Ar enw'r sant forwynig—rhoes rhinwedd
Ei nefol nodwedd anniflanedig.
Eirwyn
Adwyth sydd am y blodyn—a wywodd
Mor ieuanc a sydyn;
Ond mewn gwlad hwnt min y glyn
Anfarwol yw nef Eirwyn.
Eldorado
Tir hud yw Eldorado,—a'n Rhobert,
Wr hybarch, aeth yno;
A Mair wen, ei gymar o,
Yw bronfraith y bęr wenfro.
|