Blodau Coffa 4
[an error occurred while processing this directive]

BLODAU COFFA

Cadwaladr Roberts
I'w hynt aeth Cadwaladr Roberts yntau,
Hoffus a breiniol Orpheus y bryniau,
Gw^r ai faton fu'n dihuno'n doniau
Yn fiwsig aur ar wefus ei gorau;
Torrodd trwy anhawsterau—ar hynt ddrud
I fri ei dud, a Chalfaria'i dadau.

Cwympo Blaenor
Cwympodd blaenor rhagorol ;—gwyddai faint
Gweddi fer bwrpasol;
Rhuddin gwir oedd yn ei gôl
A barn bybyr 'r hen bobol.

Ni all erw dywyll irad—y glyn oer
Gloi naws ei gymeriad;
Bydd clych aur calonnau'r wlad
Yn adsain llais John Richad.

Gwas Diwyd
Oes dawel y gwas diwyd—a dreuliodd
Yn drylwyr trwy'i fywyd;
A'i oes fer eto sieryd
O gloriau bedd ar glyw'r byd.

Os yma cafwyd siomiant,—ei enaid
Yn rhinwedd yr Haeddiant
Drwy nos ing aeth adre'n sant
I Ganaan y gogoniant.

Beddrod Dafydd
Carodd yr hen gorlennydd—ac erwau
Y corwynt ar gelltydd;
Carodd y bęr aber rydd
Gymuna 'ngrug y mynydd.

Ni fu enaid yn fwynach—yn y Cwm
Nac un yn siriolach;
Hwn dyfodd heb nwyd afiach
Yn ei gorff gewynnog iach.

Yn heddwch y mynyddoedd—yn ddedwydd
Breuddwydiai wynfaoedd;
A thân aur gobeithion oedd
Yn torri ar eu tiroedd;

Eithr angau dieithr ingol—a wywodd
Yr addewid swynol;
Heddiw Prysor berorol
Wylan ddwys o lain i ddôl.

Heno uwch ei lwch llonydd—oeda gwaedd
Gofid gwynt y mynydd;
A sw^n serch yn ymson sydd
Hyd ifanc feddrod Dafydd.

<<<<<<<<

>>>>>>>>




Hanes Dolgellau
Dolgellau History

Hanes Dolgellau Dolgellau History