BLODWEN
|
|
DYMA Blodwen wen heini - a'i grudd
Fel gardd fwyn o lili;
A'i tywyllwch mantelli
Y gwyll teg yw ei gwallt hi?
Dwy wefus liw gwrid afal,- a llygaid
Lliw eigion o risial;
Boed iddi glyd fywyd fal
Nefoedd o swyn anhafal. |
|
DYMUNIAD
|
|
DYMUNWN fod yn flodyn - a'r awel
Garuaidd yn disgyn
Arnaf i yn genlli gwyn
Oddi ar foelydd aur-felyn. |
|
CYFDDYDD
|
|
Y WAWR gu yn y pellter gawn,- ar dydd
Ar ei dwf anghyflawn,
Lliw gwrid y gwyddfid a'r gwawn
Yn llosgi mewn gwyll ysgawn. |
|
HAUL AR FYNYDD
|
|
CERDDAIS fin pêr aberoedd - yn nhwrf swil
Nerfus wynt y ffriddoedd;
A braich wen yr heulwen oedd
Am hen wddw'r mynyddoedd. |
|
YR HAF
|
|
YR haul ar las orielau, - a gweunydd
Fel gwenyg o flodau,
A chwa bêr o rhyw iach bau
Yn yngan ar las gangau. |
|
NOS OLAU LEUAD
|
|
WELE y dlos leuad lân - yn dyfod
O'i hystafell weithian;
A chwery ei braich arian
Am yddfau cymylau mân.
O lys y wawr pa olau syn - yw hwn?
Mor ddi-dannau'r dyffryn!
Ple mae ffel seiniau telyn
Adar hoff y doldir hyn? |
|