CEISIO GLOYWACH NEN gan Hedd Wyn
[an error occurred while processing this directive]

CEISIO GLOYWACH NEN

I

CRWYDRAF trwy gylchoedd ymfudol fyd;
Trwm yw'm llygaid dan bwys drycinau,
Merwina 'nghlust dan atswn brwydrau,
A chryn y gwynt dan bwys dolefau
Yr ynni a gerdd at y wawr o hyd;
Clywaf yn hiraeth y mynyddoedd,
A phererindod tonnau'r moroedd,
Yn sw^n cerddediad athrist oesoedd
Ymson cerddgar am belldiroedd hud.

Onid oes gri anneall o hyd
Yn codi'n floesg o'r ddrycin erch,
Fel alaw boenus athrist serch,
Mewn ymchwil am brydferthach byd?
Mae holl leisiau'r cread mawr erioed
A'u su fel ffrydiau lleddfus pell,
Yn llawn o fiwsig broydd gwell,
Y gwobrau aur, a'r perorol goed.

O bobman hedfanna gweddi wen,
Fel murmur clwyfus hwyrol wynt,
A'i fflam ddyhewyd ar ei hynt
Yn llwybyr tân tua gloywach nen;
Ddiderfyn weddi y cread mawr!
Clywaf dy lais, trwy lif y gwynt,
Wrth ymdaith ar dy ddieithr hynt
Gan furmur cerddi gororau'r wawr.

Y myrddiwn blodau wylofus prudd
Sua dan awel yr hwyr a'r wawr
Alaw alltud rhyw fore mawr
Wridan dyner atgof ar eu grudd,
Clywch yng ngherdd yr adar yn y coed
Fiwsig rhyw fyd pêr - lawen pell,-
Faledau rhyw dymhorau gwell
Na theimlodd daear eu swyn erioed.

Rhyw siffrwd athrist beunydd a gawn
Yn crwydro'n drist ym machlud haul,
Tros lynnau prudd a chlwyfus ddail,
Fel cerddi adar ar drymllyd nawn;
Gwêl acw'r mynyddoedd mawr mor brudd
Yn wylo am adenydd aur
I ffoi am y gorwelion claer
A phorthladdoedd yr anfarwol ddydd.

Pa beth yw'r ddaear, y lloer, a'r sêr,
Ond llongau'n ymdaith o'r cyhudd,
Yn llawn meddyliau alltud prudd
Am fro y thus, a'r myrr, a'r heuliau têr.
Moriant yng ngolau'r ystorm o hyd,
Gwelaf eu hwyliau'n yr wybr laith,
Wrth ymdaith tros y moroedd maith
At loywach nen a thanbeitiach byd.

II
Trof eto o gylchoedd natur brudd
I fyd ofnadwy gofid dyn
Lle mae ystormydd ar ddi - hun
O gynteddau'r wawr hyd derfyn dydd
Mae'r heuliau'n alltud uwch niwlog len,
A dyn yn grwydryn blin di hoen;
Prif ffaith ei fywyd ydyw Poen,
A'i freuddwyd - "Ceisio gloywach nen".

Wyla rhywrai fyth am riain dlos
A'i gwallt yn ysgwyd yn y gwynt,
A myrdd atgofion o'r oriau gynt
Yn dyfod a mynd ar lanw'r nos;
Clywaf fyth o'r coed eu hunig gri,
Fel aethlef Islwyn ddieithr brudd
Pan aeth ei fun am Loywach Dydd,
Yntau'n wylo wrth ei dilyn hi.

Och! blant y mynydd, a phlant y dref,
Mae lliwiau cysgod haul yn eich trem;
Gwewyr ac afar tymestl lem
Sy'n pylu llygad eich oes ddi - nef;
Barrau haearn rhyw ormeswr sydd
Yn bwyta twf eich adenydd aur,
Gan gadw y gorwelion claer
Yn freuddwyd ing i'ch calon brudd.

Och! drueni a thlodi fy oes!
Ddued anobaith llawer mil!
Lawned o boen ac ing yw'mhil
Anghofia'i gwynfyd dan bwys ei chroes!
Cerddwn fel cerdda'r perorol lif
O ororau'r mynyddoedd mawr,
Gan ymdaith at dynerach gwawr
Dyffrynnoedd esmwyth o ros di - rif.

Mae'n rhaid i obeithion bywyd fyw,
Mae'n rhaid i fywyd ado'i boen,
Tyf popeth i wynfaol hoen,
Medd llais y ddaear, medd Ysbryd Duw.
Brwydra 'mlaen, ddynoliaeth, dan dy loes,
Mae clust seneddau ar dy gri,
Mae Duw yn gwrando arnat ti,
Adar gwawr a gân ar bwys dy groes.

lll
Dos ar d'adenydd, feiddgar ddyn,
Fe dremia y mellt ar dy hynt,
Fel y tremia'r blodau'n ôl y gwynt;
Cadw dy ffydd o hyd ar ddi-hun;
Dy wahodd fy'n nodiadau'r miwsig pell
A lifa o fro yr anwel ffin,-
A dardd o fron rhaeadrau gwin,-
At nennau gloyw'r goleuni gwell.

Erys dyn ar y mynyddoedd mawr
I agor ffyrdd i'r heuliau cudd
I ymdaith ar anfarwol ddydd
Tros y du wybrennau maith di - wawr;
Cyfeiria'i deyrnwialen i'r glas uwchben;
O'i ôl mewn cadwyni mae'r mellt;
Tremia oddi ar glogwyni dellt,
Yng ngwisg concwerwr, am Loywach Nen.

Feddwl beiddgar, 'rwyt fel môr o ddydd;
A chyfrinachau'r ffiniau claer
Ddaw dros dy gerddgar donnau aur
I loywi nennau'r gororau prudd.
Diflanna dy alaw ymchwilgar wen
I fyny twy'r wybrennau oer,
I fyny tu hwnt i haul a lloer,
Mewn ymchwil fyth am y Loywach Nen.

Mae meddwl ofnadwy dyn ar daith
O hyd yn ceisio gloywach gwawr;
'D yw oesau ond ei gamre mawr,
A'r bydoedd yn ddim ond darn o'i iaith;
Deffry gwirioneddau'n sw^n ei droed,
O'i adain llif blaen dywyn dydd
Nes dawnsia gororau'r broydd prudd
Gan londer na bu ei fath erioed.

IV
"Marchog, Iesu, yn llwyddiannus"
Tros fynyddoedd oes gynhyrfus,
"Swn dy eiriau" melys, melys
Ddaw fel gwyntoedd dros y bannau;
Mae aroglau'r pell ardaloedd
Fyth yn llifo o dy wisgoedd,
Deyrn y sanctaidd dlws wynfaoedd,
Farchog cryf y diwygiadau.

Ar dy ôl daw Plant y Gaethglud,
Tinc cadwyni'n llanw'u bywyd,-
Nerth tragwyddol yn eu symud
I wynfaoedd rhydd y golau;
Mae tymhestloedd y goleuni
Ar eu hwyneb gwelw yn tonni;
Newydd nerth sy'n llanw'u gwythi
Gwedi nos y "pell ardalau".

At wynfaoedd o sancteiddrwydd
Teithia myrddiwn bro halogrwydd,
Gwedi oesau o wallgofrwydd;
Llamant megis gwynt y mynydd
Am yr wybren ieuanc loyw
Wrida ngwaed yr Hwn fu farw
Gynt ym mreichiau tywydd garw;
Deffry bywyd idd ei wawrddydd.

Wrth ymdeithio i fywyd Iesu
Mae y byd yn gwynnu, gwynnu,
Ac yn troi yn fôr o ganu
Heb un cwmwl uwch ei wyneb;
Teithio, teithio mae yr oesau
At y purdeb mawr dilannau,-
At y Crist sy'n cadw'r nennau
Fyth yn wyrddion gan dlysineb.

V
Fe safaf eto yng nghynteddau angau;
O'm cylch saif cofgolofnau bywyd
Fel adfail storm ysbrydion alltud
A ddiangasant dros y porffor ffiniau;
Draw, draw ymhell Mae'r wybrau gloywon,
A'r coed yn îr tan lesni tirion,
Ond yma mellt ymhleth am gerrig beddau.

Gwêl acw un yn marw gyda'i lygaid
Yn cau wrth deimlo pwys adenydd
Ei enaid mawr yn gado stormydd
Cynhyrfus fyd am las y broydd cannaid;
Pâ beth yw marw? medd fy nagrau,
A'i rhwyflong wen yn gado'r glannau
Am wybren euraid, dlos, y ffiniau tanbaid?

O freichiau stormydd angau ar y ddaear
Ewch, seintiau annwyl calon dyner,
I'r wybren glir uwch stormydd amser;
Cewch lanw'ch hwyliau gyda'r gwyntoedd cerddgar;
Daw'r wawr i'ch derbyn o'ch blinderau
Fel cawod euraid o rosynnau
Yn ernes o'r gorwelion prydferth hawddgar.

Mae'n rhaid i bopeth farw, meddai bywyd;
Mae'n rhaid i bopeth fyw, medd angau;
Efe rydd adain i greadau
Gyfeirio adref o'u crwydriadau alltud;
Byth ni bydd farw dyn na daear,
Car ddau gydfywn dragwyddol hawddgar
Dan nennau ieuainc glasliwr anfarwolfyd.

Gwêl wirioneddau trist yn dod o'u beddau-.
Oesau'n codi ar amnaid gwawrddydd,-
A Christ ar lanw yr wybrennydd
Mor wyn â lili olchir gan ewynnau;
A than ei drem Mae'r atgyfodiad
Yn rhoi adenydd i'r holl gread
I hedfan i'r anfarwol ffurfafennau

<<<<<<<<

>>>>>>>>




Hanes Dolgellau
Dolgellau History

Hanes Dolgellau Dolgellau History