AF allan i wyneb y ddrycin
I grwydro hyd lethrau y bryn;
Disgynned y glaw ar fy nillad,
A chaned y gwynt fel y myn.
Af allan i wyneb y ddrycin,
Does undyn yn unman am clyw;
Does neb am oleuo fy llwybyr
Ond y mellt yn ehangder Duw.
|
Af allan i wyneb y ddrycin
Hyd erwau y ddafad ar oen;
Griddfanned y storm ar fynyddoedd
Fel darn o ogoniant poen.
Gorwyntoedd gwallgof y bryniau
Syn canu telynau o frwyn,
O cludwch, o cludwch fy ngriddfan
At rywun a wrendy fy nghw^yn. |