TROS waun a gallt yn alltud
Y nos aeth fel teyrnas hud;
Ac fel breuddwyd, rhyw lwyd lain
Oeda ar lawnt y dwyrain.
Y sêr or wybrennau syn - a droant
Gyda'r ieuanc dywyn;
 eu mil lliwiau melyn,
Fanllu aur, o ddwfn y llyn.
O hud gwawl â hediaid gwyll
I'w hendref mewn main candryll.
O'i dw^r ba nos aderyn
Ofwya'r gwawl fore gwyn?
Cwsg yn brudd, ar wawr ruddaur
Wthiar nos âi tharian aur.
Bore fel bwa arian
Gorona bell gern y ban;
Tybiais fod melfin ffiniau
Y deyrnas hud ar nesáu,
Gan dlysed a hardded oedd
Hyd erwaur ucheldiroedd.
Unlliw i mi Fentyll Mair
A dysglau o win disglair;
Tuar trist gyfddydd distaw
Deuair haul dros fryniau draw;
Mwyn ei wedd, uwch mynyddoedd
Eryr aur yr awyr oedd;
Y nen drôi oi hynod wrid
Yn ororau mererid;
Hudol pob cwmwl gloywdeg
UnIliw tud o emrallt teg. |
Swil, unig, bell, las lynnoedd - a
loywai
Dan lewych y nefoedd;
Gwaed y wawr drwy'u llygaid oedd,
Au hewynnau fel gwinoedd.
Ir awel fore melyn
O wele glws niwl y glyn,
Fel adfail eursail wersyll
Tylwythau gêl hudlath gwyll.
Ha! ddifyr goedd fore gwyn,
Is yr awyr oes rhywun
Wylai pan byddo melyn
Firagl haul ar ddwfr y glyn?
Acw bun ieuanc bennoeth
Ir waun â ar fore noeth
Sydd megis pêr leufer li
Hyd ei heurwallt yn torri.
Ëi llygaid unlliw eigion
Ar bore hardd ar ei bron;
Ac ar ei min dyfnlliwr gwinoedd
Neu ewyn aur yn chwerthin oedd.
Yr hen w^r fu oriau'n wan
O'i gell ddoi'n ddiddig allan.
Heddiw doi'r bore rhuddaur
Ar ei wallt fel eiry aur.
Llais awel bell a suai:
Henwr hoff, maeth oes ar drai;
Yf o deg dangnef y dydd
Di, iarll hen, hyd hwyr llonydd. |