PLANT TRAWSFYNYDD, 1914
[an error occurred while processing this directive]

PLANT TRAWSFYNYDD, 1914

HOLI'N wan amdanoch - fore a hwyr
Mae y fro adawsoch;
Yntau y cryf gorwynt croch
Eto syn cofio atoch.

Er oedin wasgaredig - hyd erwau
Y tiroedd pellennig,
Duw oi ras a lanwoch trig
A diala'r Nadolig.

Rhai or hen bererinion, - oedd unwaith
Yn ddiddanwch Seion,
Aethant o'n hardal weithion
I'r wlad well dros feryl don.

Eraill aeth dros y gorwel - i feysydd
Difiwsig y rhyfel;
Uwch eu cad boed llewych cêl
Adenydd y Duw anwel.

Rhai ohonoch geir heno-hwnt y môr
Glasfant maith sy;n cwyno;
Efo'r gwynt tros ei frig o
Caf hiraeth yn cyfeirio.

Draw i afiaith y trefydd, - llu eraill
A yrrwyd o'n broydd;
Uwch eu llwyd hen aelwydydd
Acen salm y ddrycin sydd.

Er hynny, bell garennydd, - un ydyw'n
Dymuniadau beunydd;
Ni all pellter Iwerydd
Lwydo'r hen deimladau rhydd.

Er y siom trwy'r henfro sydd, - a'r adwyth
Ddifroda'n haelwydydd;
Hwyrach y daw cliriach dydd
Tros fannau hoff Trawsfynydd.

<<<<<<<<

>>>>>>>>




Hanes Dolgellau
Dolgellau History

Hanes Dolgellau Dolgellau History