Rhyfel gan Hedd Wyn
[an error occurred while processing this directive]

RHYFEL

GWAE fi fy myw mewn oes mor ddreng,
A Duw ar drai ar orwel pell;
O'i ôl mae dyn, yn deyrn a gwreng,
Yn codi ei awdurdod hell.

Pan deimlodd fyned ýmaith Dduw
Cyfododd gledd i ladd ei frawd;
Mae sw^n yr ymladd ar ein clyw,
Ai gysgod ar fythynnod tlawd.

Maer hen delynau genid gynt
Yng nghrog ar gangau'r helyg draw,
A gwaedd y bechgyn lond y gwynt,
Au gwaed yn gymysg efor glaw.


>>>>>>>>




Hanes Dolgellau
Dolgellau History

Hanes Dolgellau Dolgellau History