Yr Arwr gan Hedd Wyn
[an error occurred while processing this directive]

YR ARWR

I Yr Eneiniog
    
WYLO anniddig dwfn fy mlynyddoedd
A'm gwewyr glyw-wyd ar lwm greigleoedd
      Canys Merch y Drycinoedd - oeddwn gynt:
Criwn ym mawrwynt ac oerni moroedd.

Dioer wylwn am na welwn fanwylyd,
Tywysog meibion gwlad desog mebyd,
      Pan nad oedd un penyd hyd - ein dyddiau,
Ac i'w rhuddem hafau cerddem hefyd.

Un hwyr pan heliodd niwl i'r panylau
Rwydi o wead dieithr y duwiau,
      Mi wybum weld y mab mau - yn troi'n rhydd
O hen fagwyrydd dedwydd ei dadau.

Y llanc a welwn trwy'r gwyll yn cilio
I ddeildre hudol werdd Eldorado,
      O'i l bu'r coed yn wylo, - a nentydd
Yn nhawch annedwydd yn ucheneidio.

Y macwy heulog, paham y ciliodd?
Ba ryw hud anwel o'm bro a'i denodd?
      Ei oed a'i eiriau dorrodd , - ac o'i drig
Ddiofal unig efe ddiflannodd.

A'i rhyw ddawn anwar oedd yn ei enaid?
Neu ynteu hiraeth am lawntiau euraid?
      O'i l mae bro'i anwyliaid - dan wyll trwch
Heb ei wn a'i degwch pur bendigaid.

Minnau o'i l yng nghymun awelon,
Troais i gwfert drysi ag afon,
      A churiwyd rhychau oerion - i'm deurudd,
Is tawch cywilydd a thristwch calon.

Twrf anniddan y gwynt ar fynyddau,
A gawr allwynin y wig ar llynnau,
      Udent ym mhyrth fy nwydau, - oni throes
Gerddi feinioes yn darth a griddfannau.

Un nos oer hunais yn sur ewynnau,
A gwenau aethus y lloergan hithau
      Hyd fy hirwallt fu oriau, - a'r crych pr
Yn wylon dyner fel henoed dannau.

Yno mi gerddais tros drumau gwyrddion
I bau hir-ddedwydd ym mraich breuddwydion;
      Hiraeth nid oedd yr awron, - canys caid
Heulwennau euraid a thelynorion.

Yn y bau loyw hon roedd teml ysblennydd
O liwiau breuddwyd a haul boreddydd;
      Ac ar ei rhosliw geyrydd - roedd hwyliau
O wyn lumannau fel niwl y mynydd.

Oddi fewn gwelwn orsedd o fynor
Ac arni ogonaid ddi-gryn gynnor;
Ei lais mwyn fel su y mr, -    a'i dalaith
O wneuthuriad perffaith rhyw hud porffor.

Yno roedd duwiau cerdd a dyhewyd
A hoen ac asbri pob ieuanc ysbryd;
      Nid oedd w^r annedwydd hyd - y wenfro,
Ac ni bu yno o'r drwg nai benyd.

A dull y gwron di-wall a gerais
Ger allor heulog ar y llawr welais,
      Ac yn ei lyfn ysgawn lais - yr awron
Hud ag alawon uwch gwybod glywais.

Cans rhyw dduw rhin ei fedr dewinol
I'w ganaid wefus roes egni dwyfol;
      A rhoed lliw disglair hudol - i'w enaid
O hafau euraid yr oes anfarwol.

A rhoed dyhewyd hendre y duwiau
Yn hud anorfod i'w danllyd nerfau,
      A chrisiant serch yr oesau - fel haen ddrud
O ryfedd olud ar ei feddyliau.

Ei law fynoraidd gariai lafn eurad
A heriai dras pob diras ei doriad,
      Ac ar ei harddaf safiad - gwelwn ddelw
Un allo farw i ennill ei fwriad.

Yna rhyw faddon o dn rhyfeddol
Welid yno trwy olau dewinol;
      Wedi hyn y mab denol - o'i fynwes
I hwnnw a fwries y duw anfarwol.

Codwyd y macwy, ac ymhen ennyd
Doi nodau hudol y duwn dywedyd:
      Y mab hwn fydd grym y byd, - a'i eiriau
Yn win y duwiau, yn dn dyhewyd.

"Gwn y bydd creulon droeon i'w drywydd,
A du iawn adwyth a byd annedwydd;
      Eithr efe athro a fydd, - yn nysg gl
Y dyddiau anwel ar oed ddihenydd.

"Didlawd felyswawd y dwyfol oesau
Au gloywaf fiwsig lif o'i wefusau;
      Ac yn asur dig nosau - pawb a'i gwl
Yn lloer dawel ac yn allur duwiau.

"Merchyg fel drycin ar flaen y trinoedd,
A baidd 'i anadl ysgwyd byddinoedd;
      Ei wy^s a chwl lynghesoedd, - a'i nerth maith
Ofwya'n oddaith ar wyllt fynyddoedd.

"Geilw ar fywyd o'i benyd a'i boenau
I fyd didranc yr ieuanc foreau,
       Ar oes wen liw rhosynnau - ddaw yn l
Ar li anfarwol ei nwyf a'i eiriau.

"Er i helynt y gerrynt ei guro,
A bwrw ei hirnych o'r wybyr arno,
      Ni wl hwn ddim a'i blino, - canys bydd
Awen y gwynddydd pellennig ynddo.

Rhyw ddydd llachar ofwya'r tyrfaoedd
I'w oed urddasol 'rl dadwrdd oesoedd;
      Yna holl wae ei drinoedd - dry'n nerfus
Gn ar wefus moliannus ganrifoedd.

Tros wefus ddi-wrid y pyramidiau
Efe a lefair am ddwyfol hafau;
      Ac o'i lyfn gofgolofnau - efe fydd
Duw a thywysydd gorymdaith oesau."

Gwelwn y macwy mwy yn tramwyo
I'w henwlad irad yn l i dario;
    Ond ar hyd Eldorado - llu mwynllais
Yn dawnsio welais, a'r duw'n noswylio.

Galwyd finnau o 'mreuddwyd mawreddog
Gan wyntoedd oerfin cethrin ysgythrog;
      A chanai crych ewynog - ar y traeth
Ogonedd hiraeth fy mron gynddeiriog.

II Y Gw^r Gofidus.

Y gw^r mwynllais gerais gynt
Guriodd o gof i'r gerrynt,
Ac aeth o gof atgof oed
Moliangerdd mil o wingoed.

Rhyw welw rwyg rywelwr oedd
Ar hyn yn dod o'r trinoedd:
Nid oedd hud na golud gwyn
I'w grwm olwg, w^r melyn.
Yn ei wallt roedd chwaon hwyr
A nos enaid i'w synnwyr.
A thrwy'r fro oedd yno'n wen
Gan eira, freugaen oerwen,
Nid oedd w^r na channaid ddyn
I'w arddel, ledfyw furddyn.
Lliw drysau llwyd yr oesoedd
Hyd y trwm gardotwr oedd;
A chan ei dristed, dwedyd
Bwy oedd nid allai y byd;
I'w wedd roedd agwedd dreigiau
Welodd fil o ymladdfu;
A thwrf alaeth rhyfeloedd
Yn y chwa o'i amgylch oedd.

Eithr o'i ing aruthr yngo
A diwyd iaith dwedai o:
"I'w hoed mewn cyflawn adeg
Y gelwais bob dyfais deg;
Ban gawn gynt ar helynt rwydd
Eurglod goruwch pob arglwydd,
Trigais yng nghanol golud
Aneddau aur bonedd hud,
Ac yn serch pob gwenferch gain
Lledais fy ngwenlliw adain;
Tithau a'm bwriaist weithion
O oedfa rwyg serch dy fron.
Heddiw 'rwyn dlawd anniddos,
Yn rhan o wynt chwerw y nos.

"Daear anghyffwrdd duwiau
Ac aml bell ddigwmwl bau
Lle na bu y gwyll yn bod
Diriais o'm mebyd erod
Erwau Valhala'r arwyr
Ar deg Eldorado w^yr.

"Sgrifennais a welais i
A phwyntil haul a phaent lili;
Gwisgais bob traith ag iaith gl
Cewri'r pellterau cwrel,
A byd hardd pob gwybod hen
Dramwyais i drwym hawen;
A thrwy fil o athrofu
Heliais i ti feddyliau;
Erod pob rhyw wybod ros
Anwyd om deall dinos.
Enwau'r sr au niferoedd
A'u lliw yn nail fy lln oedd;
A thrwy drwm a dieithr drais
Erod pob gwyddor huriais.

"Fy nerthoedd tymestl oeddynt
Yn huodl gerdd Handel gynt;
Cenais drom oerlom hirlef
Uffern, a hoff eiriau nef,
A llawer clir gywir gn
O hawddfyd dyn a'i riddfan.

"Mae twrf gwyntoedd cymoedd cau
Yn hud ar fy nghaniadau,
A llam hoyw pob lli miwail
A su dwys isleisiau dail.
Tithau wrandewaist weithian
Fy angerdd, fy ngherdd, fy nghn;
A'r tl mau fu treisiau trwm
Eiddig warthrudd a gorthrwm.

"A'm hewyd fu'n fflam awen
Mewn llawer i Homer hen;
Gwisgais bob cn manaur
O geyrydd yr hwyrddydd aur;
Ac yn hedd y nos cawn wau
Soned o wrid rhosynnau;
Ac yn honno atgo hen
Holl hiraeth my^r y lloerwen.
.
"Cenais obaith maith fy myd
A hud ieuanc dyhewyd;
Yn fy ngherdd roedd angerdd wynt
Ac arogl mellt y gerrynt.
Fy awen i, - llef ddofn oedd,
A'i llais a glywr holl oesoedd;
A'r wobr fau fu treisiau trwm
A diarlwy fyd hirlwm.

"O bu ar lawer i baith
Firagl afar y gleifwaith,
Yn ei oddaith a'i weiddi,
Yn ei dn bum henaid i;
Ysgydwais ddur Arthur hen
A chawraidd freichiau Urien;
Am hoywlafn gwenfflam welwyd
Is tywyll oer gestyll llwyd:
Ffoai crin ffeils frenhinedd
Ar gyfyng hynt rhag fy ngwedd.

"Rhin claer pob cronicl euriaith
Yw cyni nghymhelri maith."

"Bm yn ddraig pan godai gad
Aerwyr i'r trinoedd irad;
A bm darian i'r gwan gynt
Ar draeth alaeth a helynt;
Ac ar fy rhydd gywir fron
Mae gwaed pob Armagedon.

"Od ymleddais ymgais oedd
Er ennill i ti rinoedd;
A'th ennill o byrth unig
Y nos ddofn a'i theyrnas ddig;
Ac ar y daith hirfaith oed
Lluniais rhag tywyll henoed
Hafod wen i'th fywyd di
O lelog teg a lili.

"Er dy fwyn bu'r crwydrad, ferch,
Trosot bu trinoedd traserch;
A throsot ti gweddais
A haenau llosg yn fy llais.
Gwyddost, Wen, na fu gennyf
Un In na fawn arno'n hyf.
Eithr daeth oer fr i'th gariad
A niwl o fro anial frad;
Minnau, fu gynt ym mhenyd,
Yng nghymhelri'r cewri cyd,
A chwythaist o'th serch weithion
Ail ewyn deifl blaen y don.
Eithr ba waeth, ni fathr y byd
Actau ieuanc dyhewyd;
Gwedi cw^yn ac oed cyni,
I'r hafod wen cariaf di:
Yno cei fywn unbennes
Yng ngwlad hardd anneongl des."

"Ffo, w^r crin", ebe finnau,
"I rwyg fyd yr ogofu,
O'th l mae maith ddialydd
O dremyn storm nos a dydd.
Gwell rhag llaw yw'r glaw ar glog
I ymhonnwr crwm heiniog;
Wr di-wawr, o'th garu di
Amarch fy mro f'ai imi".

Ynar gw^r brau garw ei bryd
Giliodd fel cwmwl gwywlyd
Efo'r gwynt cyforiog oedd
Yn cwyno'n niwl drycinoedd;
Eithr o'i l roedd dieithr hud
I'r nos amur yn symud.

III Y Merthyr

Yng nghwm fy ngwyll a nghamwedd - oedais i
      Ar rawd swrth amhuredd;
Ogylch doi wynt fy nrygedd
O ddinas ddu nos ddi-hedd.

Yno daeth rhyw chwerthin du - o lawer
      O greigleoedd pygddu;
Yntau noswynt yn nesu
Fal gawr oer neu ddieflig ru.

Ar hyn trwyr coedydd crinion - heibio daeth
      Wynebau du creulon,
    A nodau brad nwyd eu bron
    Yn eu mil ffurfiau moelion.

Yr ymhonnwr crwm yno - a welwn
      Mewn hualau'n rhodio;
    Ac olion ing ac wylo
    Oedd ar ei ddwys ddeurudd o.

Yn sw^n dig y coedwigoedd - a dirmyg
      Yr ystormus wyntoedd
    Holais ryw fab o'r niwloedd
    Ba oed o wae enbyd oedd.

"Ar antur fer," ebr yntau, - "y daeth gw^r
      Ar daith gl o'r deau;
    Heno bydd. cwsg y bedd cau
    Ar ei wynion amrannau.
.
"Holai am ryw anwylyd - garodd gynt
      Is gwerdd gaer ei febyd;
    Er ei mwyn crwydrai mhenyd
    A duoer boen tlodi'r byd.

"Dwedai mai caethglud ydoedd - ei fun ef
      Yn niwl du ein tiroedd;
    Ac amu'r wynt y cymoedd,
    Ebr ef, tros ei llwybrau oedd.

"Er hon cydrhwng ein bryniau - ni ddorodd
      Ddyhirwawd i'r duwiau;
    A bu ofn pan glywai'r bau
    Lef ei ysol wefusau.

"Ei fun aethus fynnai weithion - o deml Oes ddideimlad greulon;
    I'w diroedd di-bryderon,
    I'w wlad deg tros emraid don.

"Gwaeau tost feiddiodd trosti, - o'i hachos
      Chwenychodd faith dlodi;
Ei harddwch gollodd erddi
A'i wrid oll i'w gwared hi.

"Eithr er drycin a thrinoedd - a chwerwedd
      Carcharau yr oesoedd
    I'w enaid nerth byddinoedd
    A gwayw dn i'w lygaid oedd.

"I'w neithior tros y moroedd - galwa'i wreng
      Gwelw rudd y mynyddoedd;
    Ar ei air tyrrai'r tiroedd -
    Rhuthr a chyrch anorthrech oedd.

"Deffrowyd y breuddwydion - a hunent
      Rhwng ein bryniau llwydion;
    A thorf aruthr o feirwon
    A fywheid gan y llef hon.

"Gadawent drig y duwiau - tua'r wawr
      Megis trin o ddreigiau:
    O'u hl roedd sw^n dialau
    Yn holl byrth y dywell bau.

"Ar gw^r tros dduoer geyrydd - a orug
      Eu harwain o'u tywydd,
    Drwy chwyldro wen ysblennydd,
    I ryddid oes werdd ei dydd.

"Yno, ebr ef, cai fanon - ado'i hen
      Anghrediniaeth greulon;
    Duwiau'r hwyr o'i mynwes drn,
    Eilwaith daw serch i'w chalon.

"Ond diarbed i'w erbyn - y duwiau
      Duon a godesyn;
    Heno bydd salm y bedd syn
    Yn torri trwy'i wallt hirwyn."
.
Yna y llais ddiflannodd, - ar hwyrwynt
      Trwy'r oror drist wylodd;
    A niwl du anaele dodd
    Lwyd dwyni y wlad danodd.

Eithr yn ddirgel rhywelais - heibio oer
      Aberoedd du tristlais;
    Ac i'r oed doi'r gw^r wawdiais
    Yngo fal hud angof lais.

Ar ei grog draw yn crogi - yn ei waed
      Gwelwn ef ar drengi;
    A'r awel oer a'i phr li
    Hyd ei hirwallt yn torri.

Rhyw aethus lwydwawr weithion - hyd oror
      Y dwyrain diglion
    Dorrai fel ar arch dirion
    Y gw^r gaid ar y grog hon.

Un ennyd cyn ei huno - dywedodd:
      Diadwyth a drengo
    A dydd ei ddyhewyd o
    I'r awyr yn dwyreo.

"Wele, ferch, dyrchafael fydd, - yno tau
      Pob rhyw storm annedwydd;
    Ac i'r oed is y coedydd
    Cariad rhos o'i dranc hir drydd.
"
Dy enaid o'r gwyll dynnais ; - oth herwydd
      At ferthyron cerddais;
    Cans hiraeth meddf dy leddf lais
    Drwy gloiau dur a glywais.

"Ponid gwell ydyw'r poenau - ddaw a gwawr
      Tros brudd geyrydd oesau
    Na dewis breuglod duwiau
    Yn niwl y bell anial bau?

"Cyn hir fe'n hunir ninnau - ym mhaladr
      Y melyn foreau;
    Eisys mae llewych oesau
    Y deyrnas hud ar neshu."

Weithion di-fraw y tawodd, - ar wawr oer
      Ar ei wallt chwaraeodd,
    A'i lydain lygaid lwydodd
    Yn y tarth cyfrin a'u todd.

Yna holais y niwloedd, - a hwythau
Y creithiog fynyddoedd,
Ai duw hud mewn oed ydoedd,
A'i rhyw wyllt ymhonnwr oedd?

.
IV Y Dyrchafael

A'r huan megis troell
O aur pur uwch y mr pell,
Llifodd ias boeth o draserch
I'm mynwes i o'm hen serch;
A llais ar ddull eosydd:
"Wele, ferch, dyrchafael fydd".

Yna wrth borth traeth y bau
Gwelwn sidanog hwyliau
Rhyw long o gwrel, a'i hynt
O deg orwel di gerrynt;
Ar ei bron roedd gw^r o bryd
Rhoslwyn, ag hirwallt dryslyd;
Ataf ei dremyn ytoedd,
A fenw i ar ei fin oedd.

Minnau gan hud a gludwyd
I'r llong ar y dyfnder llwyd;
Wedyn awelon gododd,
A hithau draw ymaith drodd.
O f'l roedd hen adfeilion
Yn oer a du ger y don;
Is eu lawnt roedd treisiol wr,
A thremyn hen orthrymwyr
Wanwyd gan y mab gwynwawr
Yn nydd mellt ei drinoedd mawr;
Pand yno bu caddug cau
Ac oed hen y cadwynau?

O'm blaen bryd hyn ymdaenai
Y lli mwyn fel mantell Mai;
Ac uwch y mr porffor pell
Weithian ar ddieithr draethell
Roedd cwmwl mawr liw gwawr gl
Ceyrydd canrifoedd cwrel.
Cyn hir y llong a diries
Wrth ryw bau liw tonnau tes;
A swyn haf glas ei nefoedd
Dros ei thir fel dryswaith oedd,
A thremyn teml ddi-seml sud,
Wele, is coediog olud
Ac iddi o'r gelloedd
Diri' dorf ar grwydrad oedd.
Ymlaen tua'r deml yno
Hyd erwau aur rhoddais dro,
A phob tlysni ynddi oedd
Fel yn hafal i nefoedd;
Ac ar orsedd unwedd haul
Ym mro hwyr y mr araul,
Anwylyd fy mebyd maith
Welwn mewn harddwch eilwaith;
Iddo roedd talaith ruddaur
O hudol sud deilios aur;
Ac i'r llawr rhag ei fawredd
Y syrthiais i wrth ei sedd.
Arglwydd, ebr fenaid, erglyw,
Dy ras eurad afrad yw;
Haeddiant i'th fyd ni feddaf,
Fy Ir, a'm haneisior Naf,
Canys yn oriau'r cyni
Gwerthais a bradychais di;
Ac yn ing drycin angau
Tybiais ddiwedd dy wedd dau;
Eithr er craith byw eilwaith wyt,
Duw ar dud euraid ydwyt.

"Eilwaith i 'mron dychweli
Fel murmur pr llawer lli;
Eilwaith 'rwyt ar heolydd
Yn fain rhos, yn fynor rhydd;
Gawr wen im ac utgorn wyt,
A rhi gwlad miragl ydwyt;
Ni ddawr trwy'r byd yr awran
Ond gwrid teg dy gariad tn."

Ar hyn fy arglwydd a drodd,
Ail llif hwyrwynt llefarodd:
"Yn y ddihedd hendre ddu
Gwelais dy drist fygylu;
A gwyliais aethog helynt
Dy gorff llesg is gormes gynt,
A'th serch fel tymestl erchyll
O uthr niwl a chethrin wyll,
A mil o ddu gymylau
Adwyth ag ing wedi'th gau,
Mal eiddig yr ymleddais,
Ac erod, ferch, curiwyd f'ais;
Rhyw isel gur islaw gwerth
Hebot f'ai poen fy aberth.

"Tithau a ddaethost weithion
I'r wlad o wull emrald hon,
Lle 'rwyf fi 'r l cyni cyd
Yn dduw pob cain ddyhewyd.

"I'm gwlad fwyn ddiallwynin
Ni ddaw trais na chwerwedd trin;
Canys ysbrydion cynnydd
Elwir i oed fy nheml rydd;
Yno tanllyd ysbryd wyf
A thad pob campwaith ydwyf;
A chyrch llongau'n dyrfu fil
O dranc y duoer encil
I borth llawen dadeni
Ar amnaid fy enaid i.

"Pob cn anfarwol ganwyd
Ar wefus pob nerfus nwyd,
A brud hen ddiwygwyr bro,
A'u gwronwaith geir yno,
A phob gwae cudd ddatguddir
Yng ngwrid haf di-angred hir.

"Teyrn i'r bau er angau wyf,
A'i godidog hud ydwyf;
Awen ei lln dragywydd,
A'i hoesau aur ynof sydd;
Miliynau'r mellt melynion
I'r bys mau'n fodrwyau drn;
Ac fel duw di-fraw, llawen,
Adeiniaf fyd y nef wen.

"Er maith sen Prometheus wyf,
Awdur pob deffro ydwyf,
Ar oes well wrth wawrio sydd
Ar dn o'm bri dihenydd."

Ar gw^r glew yno'n tewi,
Nid oedd yn fy enaid i
Onid wyneb a daniwyd
Yn nef pob anfarwol nwyd.

<<<<<<<<

>>>>>>>>




Hanes Dolgellau
Dolgellau History

Hanes Dolgellau Dolgellau History