HANES CYMRU O.M.EDWARDSPENNOD I - CYMRU."Ei dir ef fydd wedi ei fendigo gan yr Arglwydd, a hyfrydwch
y nefoedd, a gwlith, ac a dyfnder yn gorwedd isod; O'r môr a'r gwastadeddau sy'n eu hamgylchu, gellir gweled mil mynyddoedd Cymru'n ymgodi tua'r nef. I estron, y mae golwg ryfedd a gwyllt a dieithr arnynt: i Gymro crwydredig y mae pob peth ond hwy'n ddieithr - ar wastadeddau pellaf y ddaear Lloegr hwy, mewn dychymyg a hiraeth, yn ei groesawu'n ôl. Os mynnir deall hanes Cymru, ac os mynnir adnabod enaid y Cymro,
rhaid dechrau gyda'r mynyddoedd. Hwy fedr esbonio datblygiad hanes
Cymru, - dangos paham y mae'n wlad ar wahân, pam mae'n rhanedig, ac
eto'n un. Hwy fedr esbonio cymeriad amlochrog y Cymro,- eu haruthredd
gwyllt hwy a thawelwch eu cadernid hwy sydd wedi ymddelwi yn ei enaid,
enaid mor lawn o rinweddau ac mor lawn o ddiffygion. Trwy ganol Cymru rhed trum ardderchog o fynyddoedd o ogledd i dde, o fôr i fôr. Y mynyddoedd hyn a'u llethrau ydyw Cymru. Nid oes ond ychydig o'r wlad, - rhannau o Fôn, Dyffryn Clwyd, Dyffryn Maelor, a thraeth y de, yn llai na dau gant o droedfeddi o uchder,- rhyw gylch bychan o amgylch y wlad. Y tu mewn i'r cylch hwn ceir cylch mwy, o dir dan bum cant o droedfeddi. Ond ymgyfyd canolbarth y wlad, y rhan fwyaf o lawer o honni, i uchder sydd rhwng pum cant a dwy fil o droedfeddi ac ymsaetha rhai pigau yn uwch na hyn, cyrhaedda mynyddoedd Eryri'n uwch na thair mil a hanner o droedfeddi. Cyrhaedda'r mynyddoedd yn uwch na llinell y ddwy fil mewn pedwar lle - a gellir edrych ar bedwar mynydd uchel fel pedwar penteulu, gyda thylwyth lluosog o'u hamgylch. Y cewri mud hyn, - rhyfelwyr o lech a charreg galch, gyda chrib o wenithfaen ar eu helmau, - wnaeth hanes Cymru y peth ydyw, ac nid oes frenin eto wedi medru dileu eu dylanwad ar hanes a chymeriad eu preswylwyr. Yn y gogledd ymgyfyd yr Wyddfa a theulu Eryri. Uchel ac ysgythrog
ydyw y rhain, rhes gribog yn ymestyn o ddyffryn Conwy i eithaf penrhyn
Llŷn. Wrth eu traed gorwedd Môn yn dawel yn y môr. Cymdogaeth
agosaf Eryri ydyw mynyddoedd Berwyn, teulu lluosocach a manach, a'r Aran
yn ymgodi mewn prydferthwch o'u canol. Yr un defnydd sydd i'r rhain, -
llech a chrib o wenithfaen, - ond gyda charreg galch yn ymyl wen i odrau
eu gwisg. Nid ydynt yn sefyll mor agos at eu gilydd a mynyddoedd Eryri,
ac nid ydyw'r wisg sydd dan eu hamwisg wen yn unlliw, - y mae mynyddoedd
llech Meirion yn laslwyd, bryniau calch Dinbych yn wynion, ac is-fryniau
glo Fflint yn dduon. Mynyddoedd Eryri a llethrau gorllewinol y Berwyn
ydyw gwlad Gwynedd; llethrau dwyreiniol y Berwyn ydyw gogledd gwlad
Powys. Os edrychir i'r de-ddwyrain o drumau Plunlumon gwelir y Mynydd Du a'i dylwythau, - yn llawn o gyfoeth dihysbydd, - a gwastadedd bras rhwng eu godrau a môr y de. O gymoedd eu dwyrain rhed yr Wysg a'r Wy, - yn loyw fel arian cyn gadael y mynyddoedd, - i ymdroelli'n ddioglyd trwy ddaear goch Gwent tua genau'r Hafren a'r môr. Rhwng Gwent a Dyfed y mae bro a bryniau Morgannwg gwlad y cyfoeth a'r lluoedd; gwlad "yn llwynaidd gan berllanau, a gwlad yr haearn a'r glo: gwlad y maendai lle mae mwynder," a gwlad pebyll Cedar. Fel eu gwlad a glannau eu moroedd, felly hefyd y mae'r Cymry. Gwyllt
ydyw'r wlad, amrywiol, a rhyfedd; troellog ydyw ei ffyrdd, ac ni wel neb
a'u tramwyo fawr ymlaen. Y mae Lloegr yn wastad, ei ffyrdd yn union,
Lloegr y teithiwr o ben y daith faint sydd ganddo i'w gerdded, a faint
fydd ei ludded. Felly am drigolion y wlad, - gŵr rheolaidd a
phwyllog ydyw'r Sais, gŵr y gellir dibynnu arno, gŵr wel lwybr
dyletswydd ei fywyd yn glir o'i flaen, gŵr heb bryder nac
ansicrwydd meddwl nac ofn nac anwadalwch. Ond am y Cymro, y mae ei
feddwl ef yn rhamantus ac athrylithgar, a gobaith yn gryfach na ffydd;
ni wel ymhell ymlaen, y mae ei holl fryd ar y llecyn y digwydd fod
ynddo: y mae ei lwybr heibio cornel y mynydd, ni wel beth sydd o'i
flaen, nid yw dyfalbarhad dyn y llwybrau sythion yn perthyn iddo, ac nid
oes sicrwydd beth a wna pan fo'r mynydd rhyngoch ag ef. Plentyn y
mynyddoedd ydyw,-yn addaw i Dduw ar lawer awr o frwdfrydedd fwy nag y
medrai bywyd o ddyfalbarhad ei gyflawni. Cryfder dychymyg a dyhead am
fywyd gwell, a phruddglwyf wrth weled mor anodd ydyw sylweddoli pan fo'r
brwdfrydedd wedi oeri, - dyna brif nodweddion y Cymro. Rhoddwyd swm ei
gymeriad, hawster dychmygu ac anhawster cyflawni, mewn geiriau sydd
erbyn hyn yn ddihareb,- Yr ymdrech gyntaf yn hanes Cymru yw'r ymdrech i gadw yr holl fynyddoedd dan eu teyrn. Dyna oedd amcan llawer un galluog o Arthur ddychymyg hyd Gadwallon hanes. Ond y mae toriad yn y mynyddoedd, ymestyn Dyffryn Maelor rhwng y Berwyn a mynyddoedd Teyrnllwg ac Ystrad Clwyd, ac nid oedd Caer yn ddigon cadarn i rwystro'r gelyn dorri hen Gymru'n ddwy. Wedi hynny bu'r mynyddoedd yn ymladd gyda'r tywysogion Cymreig yn erbyn brenhinoedd Lloegr. Ac er i Gymru ddod yn rhan o deyrnas brenhinoedd Lloegr, cadwodd y mynyddoedd hi'n wlad ar wahân. Y mae'r mynyddoedd yn sicrhau y bydd y Cymry'n bobl neilltuol, bydd yr Wyddfa yn y môr cyn y collant nodweddion eu hanes a'u meddwl. Rhoddodd y mynyddoedd i Gymru undeb ac annibyniaeth; undeb trwy wneud gwahaniaeth rhyngddi a Lloegr, annibyniaeth trwy ei rhannu'n gantrefi ac yn gymydau. A dyna ydyw hanes hapus gwlad fynyddig fo dan wenau Rhagluniaeth, - undeb ac annibyniaeth yn graddol gryfhau eu gilydd, cyfraith a rhyddid yn dod yr un peth. NODYN I. GWYNEDD. Yr oedd Môn yn dair cantref, dau gwmwd ymhob un. Ar ei
chyfer yr oedd cantrefi Arllechwedd ac Arfon. Ar lethrau deheuol Eryri
yr oedd cantrefi Llŷn, Eifionydd, ac Ardudwy. O amgylch Gwynedd yr
oedd cylch o gantrefi fyddai'n aml yn rhan o honni, - Rhos a Rhufoniog,
sef ehangder Mynydd Hiraethog, rhwng Conwy a Chlwyd; Tegeingl, y gantref
fryniog rhwng Clwyd a Dyfrdwy; Dyffryn Clwyd; Edeyrnion a Phenllyn,
cantrefi mynyddig dyffryn uchaf y Ddyfrdwy; Meirionnydd, rhwng Maw a
Dyfi. Weithiau byddai Mawddwy a Chyfeiliog, holl lethrau dyffryn Dyfi,
dan dywysog Gwynedd hefyd. MORGANNWG a Gwent, - dau gwmwd ar hugain hyfryd, - sydd ar lethrau a
bro y De o Wy i Nedd. I'r gorllewin y mae tair cantref mawrion Ystrad
Tywi, rhan arhosol y DEHEUBARTH o Nedd i Deifi. Rhwng hon a'r môr y mae
ugain cwmwd Dyfed, bryniau a gwastadeddau y de-orllewin. |
Blaenorol | Cynwys y llyfr hwn | Adran Cymru | Hafan | Nesaf |