Hanes OME Pennod 13

Hanes Cymru O. M. Edwards - Cyfrol 1

Trem yn Ôl

RHWNG boreu eu hanes a 1063, y mae mynyddoedd Cymru yn agos iawn i'r pethau ydynt heddyw. Yr oeddynt yn uwch o ryw ychydig, y mae rhew'r gaeaf yn malurio rhywfaint arnynt o hyd. Ac yr oedd mwy o goed arnynt o,lawer. Derw, gwern, helyg, bedw, y llwyfen, ffynidwydd, collwydd, ffawydd, - safent oll yn y dyffrynnoedd ac ar ochrau'r mynyddoedd, fel y gallai gwiwer fynd o'r naill ben i'r wlad i'r llall heb daro ei throed ar lawr. Yr oedd llwyni tewion o goed eirin perthi ac o fafon hyd ochrau'r drymiau. Dringai'r gwynwydd aroglus ar eiddew hyd y llwyni o ddrain duon a gwynion. Addurnid y mynyddoedd â rhedyn a grug, ac ag ysblander melyn eithin a banadl. Yr oedd yr aeron newydd ddod hefyd, a'r pren ceirios, a'r pren gellyg.

Yr oedd yr arth yn prysur ddiflannu, ond yr oedd heidiau o fleiddiaid newynog yn chwilio am eu hysglyfaeth, ac yr oedd yr afancod cywrain yn gwneud eu tai yn yr aberoedd. Yr oedd yr eryr brenhinol i'w weled yn aml hefyd. Yr oedd ein cyndadau wedi dofi pob anifail syn ddof yn ein plith ni heddyw, - y march, y fuwch, yr afr, y ddafad, y ci. Y pethau olaf ddofwyd, mae'n debyg, oedd moch a gwenyn, oherwydd y mae traddodiadau am eu dyfodiad hwy. Credid mai o'r nefoedd y daeth y gwenyn, a chyfeiria Dafydd ab Gwilym at y dyb hon yn y canol oesoedd wrth ddarlunio'r plu eira'n disgyn, -
Trwy Wynedd y trywenynt,
Gwenyn o nef, gwynion ynt.

Ond o le arall y tybid fod moch wedi dod. Ym mabinogi Math fab Mathonwy, ceir ymgom rhwng Math a Gwydion ab Don. Arglwydd, ebe Gwydion, im a glywais ddyfod i'r deheu ryw bryfed na ddaeth i'r ynys hon erioed o'r blaen. Beth yw eu henw ? Hobau, arglwydd. Pa fath anifeiliaid ydynt? Anifeiliaid bychain, gwell eu cig na chig eidion; y mae gwahanol enwau arnynt, moch y gelwir hwy weithiau. Pwy pia hwy? Pryderi fab Pwyll: anfonwyd hwy iddo o Annwn, gan Arawn frenin Annwn.

Hanes concwest, gan mwyaf, yw hanes y cyfnodau cyntaf hyn. Daeth ton ar ôl ton o genhedloedd i fynyddoedd Cymru, - gyda iaith a phryd a chrefydd ac arferion newydd bob tro, - a gorchfygai'r genedl newydd yr hen. Collid llawer o fywydau, mae'n sicr, ym mhoethder yr ymladd: ond, wedi'r frwydr, trigai'r gorchfygwr a'r gorchfygedig ynghyd. Deuai gwaed newydd i'r wlad, toddai y cenhedloedd i'w gilydd, a byddai'r genedl newydd yn gryfach na'r hen. Yng ngwythiennau'r Cymro puraf gall fod gwaed o anialdiroedd poeth y dwyrain a gwaed o wledydd eiraog y gogledd yn cyd - redeg.

Erbyn 1063 yr oedd y Cymry wedi siarad yr un iaith, ac wedi galw eu hunain ar yr un enw, am dros bedwar cant o flynyddoedd. Ond eto yr oedd yn hawdd gweled gwahanol haenau yn ffurfiad y genedl. Yr oedd gwahaniaeth mawr rhwng dosbarthiadau, ac yr oedd yn hawdd gweled fod y dosbarthiadau wedi bod unwaith yn genhedloedd gwahanol. Yr oedd pob cenedl o orchfygwyr wedi aros fel meistriaid y cenhedloedd gorchfygedig.

Yn y cyfreithiau Cymreig, - ac mewn cyfreithiau y cedwi'r hanes hwyaf, - y mae gwahaniaeth amlwg iawn rhwng dau ddosbarth. Nid ystyrid fod gan y taeogiaid Iberaidd deulu o gwbl, rhennid y tir rhwng pobl y fro, pa un bynnag a oedd perthynas rhyngddynt a'i peidio. Fel haid, nid fel tylwyth, yr edrychid arnynt i ddechrau gan eu gorchfygwyr, - moch Môn, geifr Arfon, gwybed Mawddwy. Ond yr oedd y bywyd tylwythol yn sylfaenu pob defod a braint ymysg y gorchfygwyr Celtaidd.

Ond er y darostwng a'r gorchfygu, yr oedd gogwydd bywyd y byd yn gryf yng nghyfeiriad rhyddid. Codai'r gorchfygedig ei ben drachefn, a graddol ddiflannai'r gwahaniaeth rhyngddo a'i orchfygwyr. Unid hwy gan fygythiad rhyw elyn newydd, ymasiai eu cyfreithiau, ymunai eu bywydau.

Gadewch i ni edrych ar deulu Cymreig yn y cyfnod hwn. Dacw'r tŷ ar ochr y mynydd neu ar ymyl y goedwig. Y mae ei un ystafell yn ddigon mawr i gynnal teulu cyfan. Adeilad ysgwâr neu grwn ydyw; wedi ei wneud o goed yn eu rhisgl neu wedi eu dirisglo. Plennid y coed ar eu pennau i wneud ochrau'r tŷ, yn nen iddo yr oedd canghennau plethedig dan faich o frwyn neu wellt. Ar ganol llawr y tŷ, y tu mewn, yr oedd y tân, - yn cynnau ddydd a nos. Oddi amgylch yr ochrau yr oedd gwely y teulu, ar yr hwn yr eisteddid y dydd ac y cysgid y nos. Rhwng cylch y gwely a'r tân yr oedd llawr wedi ei orchuddio â hesg. Hesg hefyd, mae'n debyg, oedd defnydd y gwely, ond fod math o frethyn cartref garw yn ei orchuddio. Yr oedd gan bob aelod o'r teulu ei le yn y gwely teuluaidd, ac ar hynny yr oedd ei holl freintiau yn dibynnu, - ei hawl i gael ei amddiffyn gan y teulu, a'i hawl i ran o gynnyrch y tir gwelyawg. Amser bwyd, cyfrannai pawb o gawl, cig, a bara ceirch, gan eistedd o gylch y tân. Gyda'r nos rhoid ychwaneg ar y tân, ac a'i pob un i gysgu i'w barth penodol yn y gwely. Gan fod pob un yn perthyn i'r gwelygordd, yr oedd ganddo hawl i ran o'r tir aradr, hawl i'r tir pori, a hawl i hela'r baedd gwyllt a'r llwynog a'r carw yng nghoedwigoedd y teulu. Ceir darlun, ym Mreuddwyd Rhonabwy, o hen dy adfeiliedig. Darlunni'r tri gŵr yn teithio ar lethrau mynyddoedd Powys o flaen tymhestl. A gwelent o'u blaenau hen neuadd burddu, dal, union, a mŵg yn dod o honni ddigon ei faint. Pan ddaethant i mewn, gwelent lawr pyllog anwastad, a braidd y gellid cerdded ar hyd-ddo, gan mor lyfned oedd, a thail gwartheg ar hyd-ddo. Lle bynnag yr oedd twll, aid dros droed yn y dwfr ar dail cymysg. Yr oedd gwrysg celyn yn aml ar y llawr, a'r gwartheg wedi bwyta eu brig. Llychlyd a lledlwm oedd y parthau; ac yr oedd hen wraig yn y tŷ yn unig yn taflu ambell arffedogaid o us ar y tân, hyd nes nad oedd hawdd i ddyn yn y byd ddioddef y mwg hwnnw. Ac am y gwely, byrwellt dysdlyt chweinllyt oedd dan y lliain llwydgoch caledlwm.

Ond, cyn adfeilio, yr oedd y tŷ yn un cysurus ac eang; ac yr oedd llawer taeog yn hiraethu am hawl i berthyn i'r teulu urddasol breswyliai ynddo.

Arhosai'r teulu yn y tŷ hyd y drydedd genhedlaeth. Pan fyddai'r pen teulu farw, cymerid ei le gan y mab ieuengaf, a chodai'r brodyr eraill dai iddynt eu hunain ar rannau eraill o'r tir gwelyog. Ond yr oedd y tir yn aros yn eiddo cyffredin i'r teulu i gyd, - un cae wedi ei aredig gan aradr neu aradrau'r teulu. Eiddo'r teulu oedd pob eiddo hefyd, y teulu dalai'r ddirwy dros aelod bechasai yn erbyn y llwyth, y teulu a ddialai gam pob un ddrygid. Yr oedd y tir aradr wedi ei rannu'n erwau, a rhoddid ei ran o'r erwau i bob aelod o'r teulu.

Wedi marw'r brodyr, ail rennid yr erwau rhwng cefndryd: ac wedi marw'r cefndryd, gellid rhannu eilwaith rhwng cyfyrdyr. Yna ystyrid nad oedd y teulu'n un mwyach, yr oedd wedi ymrannu'n wahanol deuluoedd, a chyn hir byddai'n llwyth.

Ond, er ymrannu, cofiai'r tylwythau eu bod o'r un gwaed. Pan ymosodai gelyn arnynt, ymunent oll dan un arweinydd. Gan eu bod yn byw'n wastad mewn ofn rhyfel, yr oedd yn rhaid wrth dywysog parhaus.

O oes i oes y mae'r da yn llwyddo, - undeb a rhyddid yn cyd - gryfhau, crefydd well a moes mwy pur, amcanion uwch a dynion gwell i'w sylweddoli, yn ofn Duw ac mewn cariad at ddyn.

Blaenorol Cynwys y llyfr hwn Adran Cymru Hafan Nesaf
Hanes Dolgellau
Dolgellau History

Hanes Dolgellau Dolgellau History