Hanes Cymru Owen M Edwards Cyfrol 1 Y Rhufeiniaid

 Hanes Cymru O. M. Edwards - Cyfrol 1

PENNOD III.- RHUFEINIAID.

Urbem fecisti orbem terrarum.

Trem gyntaf y Rhufeniaid ar Eryri

Trem Gyntaf y Rhufeiniaid ar eryri

TRA'R oedd cenedl ar ôl cenedl yn crwydro tua'r gorllewin, i'r ynys oedd y pryd hwnnw a'r ymyl eithaf y byd, yr oedd dinas yn codi a'r lan Môr y Canoldir, dinas oedd i roi terfyn am rai canrifoedd i grwydradau'r cenhedloedd, dinas oedd i estyn ei theyrnwialen dros ynysoedd eithaf y ddaear, dinas oedd i wneud tylwythau gelynol yn gyd-ddinasyddion, dinas oedd i wneud gwledydd y ddaear yn un ymherodraeth. Y mae gwaith Rhufain wedi ei ddarlunio'n gyflawn yn y geiriau ddywedwyd wrthi gan un o'i beirdd,- Yn ddinas ti a wneist y byd i gyd.

Ond, ymhell cyn sylfaenu Rhufain, yr oedd dychmygu wedi bod yn heolydd dinasoedd gorwych, pa ynysoedd orweddai draw y tu hwnt i golofnau Moloch, yn y môr y tybid nad oedd terfyn iddo. Gwelwyd llongau Tyrus yn chwilio holI gilfachau Môr y Canoldir, ac yn meiddio hwylio rhwng y colofnau i'r môr dieithr di-lan. Yr oedd medr morwyr Tyrus yn ddihareb, - dy ddoethion di, Tyrus, o'th fewn, oedd dy long lywiawdwyr. Yr oedd llongau Tyrus yn syndod y byd, - eu rhwyfau o dderw a'u meinciau o ifori, lliain main o'r Aifft o symudliw oedd yr hyn a ledit i fod yn hwyl i ti, glas a phorffor o ynysoedd Elisah oedd dy do. Ymsefydlodd y Phoeniciaid hyn yma ac acw hyd lannau Môr y Canoldir, - a dwy ferch enwocaf Tyrus a Sidon oedd Carthage a'r dueddau Affrig a Tharsis a'r lan Hispaen. Tarsis oedd y bellaf i'r gorllewin o ferched Tyrus, a daeth mor gyfoethog fel y gofynnodd proffwyd Hebreig am ei llongau,
- Pwy yw y rhai hyn ehedant fel cwmwl
Ac fel colommenod i'w ffenestri?

I Darsis y doi cyfoeth Prydain a'r gorllewin, - yr arian a'r haearn a'r alcan a'r plwm â'r rhiai y marchnatai ei marsiandwyr yn ffeiriau Tyrus. Ond daeth dydd cwymp Tyrus, y ddinas sylfaenesid a'r y graig, marchnadyddes y bobloedd i ynysoedd lawer. Ymadnewyddodd wedi i Nebuchodonosor ei dinistrio, - dy derfynau oedd yng nghanol y môr, dy adeiladwyr a berffeithiasant dy degwch. Ond, yn y flwyddyn 332 cyn Crist, dinistriwyd hi gan Alecsander Fawr a'i Roegwyr, a'r ynysoedd y rhai oedd yn y môr a drallodwyd wrth ei mynediad hi ymaith.

Wedi cwymp Tyrus, ymholodd y Groegiaid o ba le yn y gorllewin y deuai ei gollid. Tua'r adeg yr oedd Alecsander yn gwarchae a'r Dyrus, yr oedd llong Groegwr yn hwylio allan o Fôr y Canoldir, rhwng colofnau Moloch, i chwilio am ynysoedd y gorllewin. A daeth colofnau Moloch, duw Tyrus, yn golofnau Hercules, enw Groeg. Erbyn hyn y mae magnelau Prydain ar graig Gibraltar, yn lle temlau'r hen genhedloedd fu'n anfon morwyr i chwilio am dani.

Pytheas oedd enw'r Groegwr anturiodd allan i fôr y gorllewin. Un o frodorion Marseilles Roegaidd oedd, - efrydydd lledredau, a sêr, a dylanwad y lleuad ar y tonnau. Wedi dod allan i Fôr y Werydd, hwyliodd i'r gogledd, gyda gororau Spaen a Llydaw, ac o'r diwedd cyrhaeddodd Brydain yn gynnar yn yr haf.

Gwelodd drigolion yr ynys yn dyrnu eu gwenith, ac yn gwneud medd o wenith a mêl, ond y mae'n amheus iawn a aeth yn ddigon pell i'r gorllewin i weled ardaloedd yr alcan. O Brydain hwyliodd i'r gogledd, gan gadw gyda thraethell y Cyfandir. Gwelodd Gimbrir Iseldiroedd yn gorfod ffoi yn awr ac eilwaith a'r eu ceffylau cyflymaf i osgoi'r llanw ddoi dros eu gwlad, gwelodd y fforestydd tywyll oedd yn gorchuddio gogledd Ewrob, hwyliodd a'r hyd glannau mynyddig danheddog Norwy tua Phegwn y Gogledd, hyd nes y cafodd ei hun mewn gwlad lle gellid gweled yr haul ganol nos, ac ymysg pobl dangosent iddo y lle'r oedd yr haul yn cysgu. O fôr oer marw'r gogledd trodd Pytheas yn ôl tua Phrydain, ac oddi yno adre, wedi dechrau masnach, feallai, rhwng Marseilles ac ardaloedd alcan Prydain. a rhyngddi ac ardaloedd amber rhuddgoch y Baltic.

Wedi ei farw, ni chredid Pytheas. Tybid mai cread ei ddychymyg ei hun oedd y petha welsai, ac ni roddid gwerth a'r ei ffeithiau ond fel defnyddiau rhamantau. I gyfoedion Pytheas, - megis Plato ac Aristotl, - nid oedd ynysoedd y gorllewin ond enw ar wlad o fwnau heb eu darganfod, rhywbeth fel enw Peru i'r rhai ganasant emynau Pant y Celyn gyntaf.

Collwyd Prydain eilwaith yn niwl a hud dychymyg y Groegiaid.

Wedi cwymp Tyrus, a thra gwywai Groeg, cododd Rhufain. Ei gwaith hi oedd uno gwledydd y ddaear, a gwneud ffyrdd i bob man. Erbyn 275 c.c., yr oedd yr Eidal yn eiddo iddi; erbyn 202 yr oedd wedi gorchfygu Hannibal, ac yn ymbaratoi at ddinistrio Carthage: erbyn 190 yr oedd Macedonia, Groeg, a Syria wedi eu gorchfygu: erbyn 133, yr oedd Spaen wedi ei hennill a Charthage yn lludw: yr oedd holl lannau Môr y Canoldir yn eiddo Rhufain. Yna trodd y ddinas aniwalladwy ei llygaid tua'r dwyrain a thua'r gogledd. Croesodd Iwl Cesar, hoff arweinydd y bobl, yr Alpau, yn y flwyddyn 58 c.c.: a chyn pen y deng mlynedd yr oedd Gallia, yr holl wlad rhwng y Rhein a Môr y Werydd wedi dod yn wlad Rufeinig, - ffyrdd Rhufeinig yn rhedeg drwyddi i'r môr eithaf, a'i thrigolion yn ddeiliaid ffyddlon. Pan oedd Cesar yn gorchfygu trigolion Gallia, gwelodd eu bod yn cael cymorth o ynys Prydain oedd a'r eu gororau. Ac er mwyn cwblhau ei goncwest, penderfynodd ddarostwng yr ynys honno hefyd. Croesodd y culfor, gyda'r ail a'r seithfed leng, yn niwedd Awst 55 c.c. Nid oedd ei fyddin yn ddigon i orchfygu'r wlad, ac yr oedd yn hwyr ar y flwyddyn. Aeth yntau'n ôl, a daeth yn gynharach yn y flwyddyn wedyn, gyda byddin gryfach. Dywed ei hanes ei hun yn gorchfygu Caswallon, tywysog y Brytaniaid, yn cymeryd dinas noddfa ei lwyth, yn derbyn ymostyngiad llwythau dwyrain yr ynys, ac yn troi ei gefn a'r Brydain. Casglodd beth gwybodaeth am ganolbarth a gorllewin yr ynys, - dywed fod eu pobl yn gwisgo crwyn ac yn byw ar gig a llaeth eu praidd, fod yr Iwerddon y tu hwnt i Brydain, ac Ynys Môn rhwng y ddwy.

Am gan mlynedd wedyn ni ddaeth milwyr Rhufeinig i Brydain. Yr oedd y can mlynedd hyn yn gan mlynedd rhyfedd yn hanes y byd. Ynddynt y cyrhaeddodd Rhufain binacl ei gogoniant, ac y dechreuodd wywo. Ynddynt y gwelwyd Iwl Cesar yn gorchfygu cyrrau'r byd, o Balestina i Brydain, ac yn dod yn ymerawdwr mewn popeth ond enw, hyd nes y llofruddiwyd ef gan garedigion yr hen weriniaeth. Ynddynt rhoddwyd enw ymerawdwr, yn gystal â'r gallu, i Augustus. Yn ystod ei ymherodraeth ef y canodd beirdd gorau Rhufain, - daw cyfnod aur llenyddiaeth bob amser yn adeg gorthrwm a llwyddiant, - Virgil a Horas ac Ovid. Yn ystod ei ymherodraeth ef yr oedd hen gredoau'r byd wedi gwanhau, yr oedd yr hen dduwiau wedi mynd mor lluosog fel nad oedd gan un awdurdod ar feddyliau a bywydau dynion. Ac yn nheyrnasiad Augustus, pan oedd wedi anfon gorchymyn allan i drethu yr holl fyd daeth teulu tlawd o Nazareth i Fethlehem Judea, a'r gyrrau eithaf yr ymherodraeth, i'w trethu yn eu dinas eu hun.. A thithau Bethlehem Ephratah, er dy fod yn fechan ymhlith miloedd Judah, eto o honot ti y daw allan i mi un i fod yn llywydd yn Israel: yr hwn yr oedd ei fynediad allan o'r dechreuad, er dyddiau tragwvddoldeb.

Yr oedd y baban hwnnw aned ym Methlehem yn amser y dreth i newid mwy a'r y byd ac a'r gymeriad dynion nag a wnaeth Rhufain, gyda'i holl gyfoeth a'i hathrylith a'i llengoedd. Ond cyn i'r newydd am yr Iesu ddod â'r hyd yr ymherodraeth i Brydain, yr oedd dyddiau blin a chynhyrfus. a chyfnewidiadau mawrion, i gyfarfod yr ynyswyr. Wedi i Iwl Cesar droi ei gefn, i lywodraethu byd yn lle gorchfygu ynys, yr oedd enw Rhufain, heb long rhyfel na milwr, yn gorchfygu ym Mhrydain. Yr oedd rhyw dywysog beunydd yn apelio at ymerawdwr y byd. Yn Ancyra bell darganfyddwyd carreg yn dweud fod brenhinoedd o Brydain wedi dianc o'u gwlad a dod at Augustus i gwynfan, ac ar gais rhyw ffoadur pendefigaidd y penderfynodd yr ymerawdwr Claudius orchfygu'r ynys.

Erbyn ail ddyfodiad y Rhufeiniaid, yr oedd Rhufain wedi dechrau gwywo, - yr oedd Augustus wedi marw, yr oedd Tiberius wedi ymroddi i ddrygioni gwarthus cyn ei fygu, ac yr oedd Caligula wedi gwallgofi cyn ei lofruddio. Yr oedd calon yr ymherodraeth wedi dechrau pydru, ac yr oedd dirywiad y brifddinas yn dinistrio'r gallu ddaliai'r byd yn un, yn gwanhau nerth y llengoedd oedd yn gorfod cilio'n ôl o gam i gam o flaen cenhedloedd y gogledd. Yr oedd y trethi'n drymion, yr oedd y swyddogion yn drahaus, yr oedd y milwyr yn greulon, yr oedd caethiwed y gorchfygedig ymron yn anioddefol, pan ddygodd Rhufain ein hynys dan ei hiau. Ar yr un pryd, yr oedd Prydain yn prysur ddadblygu, - yr oedd celf yn blodeuo, yr oedd mwnau'n cael eu gweithio, a hwyrach y buasai Caradog wedi gwneud yr holl ynys yn un ymherodraeth. Y maen anodd dweud pa un ai ennill ai colli wnaeth Prydain wrth golli Caradog a gorfod ymostwng i iau haearn Rhufain. Pe buasai'r Rhufeiniwr heb ddod ni fuasai Prydain wedi cael ei ffyrdd, ei dinasoedd, ei phlasau, ei hamaethyddiaeth, ei gweithfeydd, a'i hundeb mor fuan; ni fuasai wedi dioddef gorthrwm y llengoedd ychwaith, ni fuasai ei hamaethwyr a'i mwnwyr wedi talu trethi trymion Rhufain, ni fuasai wedi ei gwanhau ar gyfer ymosodiad y barbariaid Teutonaidd dorasant gaerau'r ymherodraeth ac a ddylifasant iddi, i ddinistrio pob peth. Yn lle ymddadblygu yn ei nerth ei hun, daeth Prydain yn rhan o ymherodraeth yr oedd ei sylfeini wedi dechrau gollwng. Yn narluniadau byw Tacitus, ac yn ysgrifeniadau Lladinwyr diweddarach, cawn hanes ein cyfnod Rhufeinig. - y goncwest, y trefnu, yr amddiffyn, y gwrthryfela, y colli.

I. Y GONCWEST 43 - 78.

Yn y flwyddyn 43 wedi geni Crist, anfonodd yr ymerawdwr Claudius, yn ei awydd am goncwest, ei gadfridog Aulus Plautius i orchfygu Prydain. Gydag ef yr oedd pedair lleng o filwyr,- tua hanner can mil o ddynion. Gydag ef hefyd, fel is-swyddogion, yr oedd tad a mab ddaethant yn ymerawdwyr ar ôl hynny, - y Vespasian a'r Titus ddinistriodd Jerusalem. Gorchfygodd Plautius ddeheudir Lloegr, - y wlad y tu de i'r Tafwys, - i ddechrau. Yr oedd un o'i brif gaerau, Caerloyw, yn nyffryn yr Hafren, ac yng ngolwg mynyddoedd Cymru. Cyn iddo groesi'r Tafwys, daeth yr ymerawdwr i'r fyddin, ac yna cychwynasant i dir Caradog, prif frenin y deyrnas, a'r wastadeddau'r dwyrain. Wedi ymladd deg brwydr ar hugain a gweled y Rhufeiniaid yn cymeryd Camalodunum drwy ruthr, dihangodd Caradog ar draws yr ynys i fynyddoedd y gorllewin, a galwodd ar Siluriaid rhyfelgar y mynyddoedd i baratoi ar gyfer dyfodiad y Rhufeiniaid.

Ar ôl Plautius daeth Ostorius Scapula, un o gadfridogion yr un ymerawdwr. Wedi gorchfygu pob gwrthryfel y tu dwyreiniol i'r Hafren, arweiniodd hwn fyddin yn erbyn y Cangi, llwyth breswyliai fynyddoedd Arfon, a daeth ymron hyd lannau môr Cymru. Cyn iddo orffen darostwng pobl Arfon, gorfod iddo droi i ymladd a'r Brigantes y tu ôl iddo.

Ond llwyth mwyaf anhyblyg Prydain oedd y Silures. Yr oeddynt yn rhyfelgar wrth natur, ac yn llawn hyder oherwydd fod Caradog, cadfridog dewraf y Prydeiniaid, yn eu mysg. Arweiniodd Caradog hwy i randir mwy mynyddig yr Ordovices, ac yno, yn rhywle ar odrau mynyddoedd Cymru, gyda milwyr yr holl lwythau, arhosodd Caradog i ddisgwyl Ostorius a'i Rufeiniaid, i ymdrechu'r ymdrech olaf am ryddid ei wlad. Yng Nghymru y mae pob hen achos yn marw, yno yr ymladd pawb ei frwydr olaf. Ni fu rhyfel ym Mhrydain, o amser y .Rhufeiniaid hyd y Rhyfel Mawr, nad yng Nghymru y ceid y milwr olaf neu'r castell olaf yn sefyll dros yr hwn orchfygwyd.

Rhydd Tacitus ddarluniad byw o'r frwydr rhwng Ostorius a Charadog. Er gwaethaf medr Caradog, ac er gwaethaf brwdfrydedd y Prydeiniaid, nid oedd bosibl sefyll o flaen disgyblaeth ac arfau dur y Rhufeiniaid. Collwyd y frwydr, a chyn hir syrthiodd Caradog ei hun i ddwylaw'r Rhufeiniaid. Arweiniwyd ef i Rufain, yr oedd pawb yn awyddus am weled un heriasai allu brenhines y byd cyhyd. Wrth gael ei arwain gyda charcharorion drwy'r ddinas i ddangos buddugoliaeth Rhufain, brenin oedd Caradog o hyd; o flaen gorsedd yr ymerawdwr ymddygodd fel brenin yn disgyn o hynafiaid anrhydeddus ac yn teyrnasu ar genhedloedd lawer.

Canmolwyd buddugoliaethau Ostorius yn Rhufain, ond nid oedd wedi llwyr orchfygu'r Silures. Ymladdasant yn ddewrach wedi colli Caradog, enillasant frwydrau, a dinistriasant lawer ysgwadron Rufeinig yn llwyr. Tybia'r hanesydd Rhufeinig fod y Rhufeiniaid wedi colli eu disgyblaeth pan yn sicr nad oedd Caradog ger llaw, neu fod y Silures wedi ymdynghedu y dialent ef. Yr oedd y llwyth diflino hwn, nid yn unig yn ymosod ar y Rhufeiniaid eu hunain bob cyfle gaent, ond yn codi'r llwythau eraill i wrthryfela ym mhob man. Bu Ostorius farw dan bwys ei bryder wrth ymladd yn eu herbyn; nid oedd profiad hir Aulus Didius yn ddigon i wneud mwy na'u rhwystro i ymddial ar y rhannau oedd y Rhufeiniaid wedi ennill; bu Veranius hefyd farw heb wneud dim ond ennill rhyw frwydrau bychain dibwys yn eu herbyn. Ni fedrai'r cadfridogion hyn wneud dim ond codi caerau i rwystro'r mynyddwyr ymosod ar daleithiau'r gwastadedd, rhes o gaerau ar hyd gororau Cymru ddaeth wedi hynny'n ddinasoedd ardderchog, - Uriconium, Caer Went, a Chaer Lleon ar Wysg.

Cyn marw, dywedodd Veranius y medrasai ennill Prydain i gyd i Nero pe cawsai fyw ddwy flynedd. Anfonodd Nero un ar ei ôl dreiodd wneud hyn, - Suetonius Paulinus alluog, uchelgeisiol, boblogaidd. Gwelodd ef mai Ynys Môn oedd dinas noddfa a chartref brwdfrydedd llwythau'r mynyddoedd, a phenderfynodd ymosod arni. Cludodd ei wŷr traed dros y Fenai mewn cychod, a nofiodd ceffylau'r gwŷr meirch a'r eu holau. Wedi glanio gwelodd y Rhufeiniaid olygfa nas gwelsent ei thebyg yn un o wledydd y byd, - byddin fawr, gwragedd mewn dillad duon a chyda thorchau fflamllyd yn eu dwylaw'n gwibio drwy'r fyddin, a Derwyddon yn tywallt y melltithion mwyaf ofnadwy. Ni pharhaodd dychryn y Rhufeiniaid ond am ennyd ; rhuthrasant ar y fyddin a'r Derwyddon, a llosgasant holI lwyni'r ynys, - lle'r aberthai'r Derwyddon aberthau dynol i'w duwiau creulon.

Er hynny, yr oedd Suetonius fel pe dan felltith byth wedyn. Gorfod iddo adael Môn oherwydd fod y gwastadeddau'n codi mewn gwrthryfel o'i ôl; ac er iddo orchfygu Buddug wedi'r galanastra ofnadwy wnaeth ar y Rhufeiniaid, gwelodd y Prydeiniaid ef yn gorfod ymostwng i un o gaethion Nero, - un o'r gwibed oddi ar domen fydd yn ehedeg yn uchel, - ac yn gorfod rhoddi ei allu i fyny i dywysog anfedrus.

Pan ddechreuodd Vespasian deyrnasu, anfonodd gadfridogion grymus i Brydain, ac o'r diwedd medrodd Julius Frontinus orchfygu'r Silures. Erbyn y flwyddyn 78 yr oedd holl lwythau'r ynys wedi eu gorchfygu, yr oedd y llengoedd yn gwneud ffyrdd drwy'r ynys, ac ymysg caerau eraill gallasid gweled Caer Lleon Fawr ar lan y Ddyfrdwy.

II Y RHUFENEIDDO 78 - 120

Yn 78 daeth Cnæus Julius Agricola i lywodraethu Prydain. Yr oedd ef yn fwy na chadfridog, yr oedd yn wladweinydd. Dywed ei fab yng nghyfraith, yr hanesydd Tacitus, nad oedd gerwinder y milwr yn ei ymddanghosiad, - gŵr addfwyn oedd, un yr oedd yn hawdd credu ei fod yn un da, un yr oeddis yn foddlon i gredu ei fod yn un mawr.

Ei waith cyntaf oedd gorffen gorchfygu. Ymladdodd frwydr â'r Ordovices, a gwnaeth i'w fyddin nofio'r Fenai i Fôn a llwyr orchfygu'r ynys dywell honno. Gorffennodd y goncwest, ond ni ddefnyddiodd ei fuddugoliaeth ar Gymru er ei glod ei hun, eithr defnyddiodd hi er dwyn tangnefedd a dedwyddwch i'r mynyddoedd. "Ni anfonodd lythyr llawryf i ddesgrifio ei lwyddiant."

Dechreuodd trwy roddi trefn ar ei dŷ a'i weision ei hun, gan ddewis gweision na fuasai raid eu cosbi am ddrwgweithredoedd. Rhoddodd drefn ar y fyddin hefyd, - yr oedd bob amser ymysg y milwyr yn cosbi'r drwg ac yn canmol y da. Cyn ei amser ef yr oedd ar y Prydeiniaid gorchfygedig fwy o ofn heddwch na rhyfel, yr oedd trethi anghyfiawn heddwch yn fwy annioddefol na chreulonderau rhyfel. Mewn rhyfel gwynebai'r Prydeinwyr ddur a phigyn tarian y Rhufeiniwr; mewn heddwch newynid ef nes y rhoddai ei geiniog olaf am angenrheidiau bywyd. Rhoddodd Agricola derfyn ar y gorthrwm chwerw hwn, ac enillodd serch y Prydeiniwr. Gwnaeth fywyd yn ddiogel ac yn esmwyth, gwareiddiodd farbariaid trwy godi tai a themlau a llysoedd barn yn eu mysg. Addysgodd feibion y brenhinoedd, gan hoffi cyflymder deall naturiol y Prydeiniwr. A daeth yr ynyswyr gorchfygedig i hiraethu am feddu hyawdledd iaith Rhufain, iaith a ddirmygasent hyd yn hyn. Hoffasant bopeth Rhufeinig.- tai, gwisgoedd, pleserau, pechodau. Yn eu hanwybodaeth galwasant y cyfnewidiad yn wareiddiad, ebe Tacitus, pan nad oedd mewn gwirionedd ond rhan o'u caethiwed.

O ororau Cymru aeth Agricola i ucheldiroedd yr Alban, a gorchfygodd eu trigolion rhyfelgar mewn brwydr fawr. Eiddigeddai'r ymerawdwr Domitian wrth ei fuddugoliaethau; gwrandawai am danynt gyda gwên ar ei wyneb a phryder yn ei galon.Wedi llwyr orchfygu'r ynys, a morio o'i hamgylch, ymadawodd Agricola yn 84, ond aeth ei waith ymlaen.

Yr oedd ffyrdd Rhufeinig yn croesi'r wlad ym mhob man. Gwelir eu holion eto hyd fynyddoedd Cymru, a gall unrhyw fugail ddweud mai'r Rhufeiniaid neu Helen Luyddawg a'u gwnaeth. Y maent wedi eu gwneud mor gadarn fel nas gallodd traed pobl deunaw canrif eu treulion ddim, - daear i ddechrau, cerrig mawr ar hynny, haen o gerrig bychain a morter ar y rheini, haen o galch a chlai wedyn, a phalmant yn uchaf peth. A phan golli'r y ffordd, y mae ei henw, - strata, - yn aros yn aml. Yr oedd yn dringo y llethr acw, - Llechwedd Ystrad ydyw enw'r amaethdy; yr oedd yn croesi afonig yn Rhyd Fudr draw; yr oedd yn rhedeg yn union hyd y gwastadedd isod, - y Stryd Ddŵr ei gelwir eto.

Yr oedd ffordd yn rhedeg hyd ororau Cymru o Gaer Lleon ar Wysg i Uriconium, ac oddi yno i Gaer Lleon Fawr, - ffordd y dwyrain. Yr oedd ffordd arall yn rhedeg yn gyfochrog a hi o Gaerfyrddin i Ddeganwy, - ffordd y gorllewin. Cysylltid y ddwy ffordd hyn, oedd yn rhedeg ar hyd Cymru, gan lawer o ffyrdd croesion. Rhedai ffordd o Gaer Lleon ar Wysg ar hyd Bro Morgannwg ac ymlaen trwy Gaerfyrddin a thros fryniau Penfro i Dyddewi i lan y môr; rhedai ffordd arall i fyny dyffryn yr Wysg, a chyfarfyddai'r llall yng Nghaerfyrddin. Cychwynnai ffordd

O Gaerfyrddin i fyny Dyffryn Tywi. a rhedai dros rosdiroedd cefn Plunlumon i Gaer Sws, ac oddi yno i Uriconium. Yng ngogledd Cymru, cysylltid ffordd y dwyrain a ffordd y gorllewin gan ddwy ffordd groes; rhedai y naill ar draws mynyddoedd Meirion a Maldwyn, rhedai'r llall ar draws mynyddoedd Dinbych a Chaernarfon o Gaer Lleon i Gaer Seiont.

Yr oedd dinasoedd yn codi, - Caer Lleon gadarn, Uriconium enfawr, Caer Lleon ar Wysg orwych. Yr oedd plasdai Rhufeinig i'w gweled hefyd, - onid yw eu hadfeilion eto'n aros ar rai o'n bronnydd heulog? Yr oedd y Cymro'n ysgrifennu Lladin ar ei garreg fedd fel yr ysgrifenna Saesneg yn awr. Yr oedd yn dysgu pethau newyddion rhyfel a heddwch, fel y gwelir oddi wrth y geiriau fenthyciodd o'r Lladin, - caer, ffos, twr, saeth; wal, stryd, porth; aradr, caws.

III.YR AMDDIFFYN. 120-250.

Wrth eu darostwng i wareiddiad Rhufain, collodd y tylwythau Prydeinig eu hysbryd rhyfelgar, ac aethant yn foethus a dirywiedig a gwan. Ar yr un pryd yr oedd cenhedloedd barbaraidd y gogledd yn curo ar gaerau'r Ymherodraeth Rufeinig, ac yn bygwth dylifo i mewn. Yr oedd Prydain yn un o'r rhai cyntaf i ddioddef, yn un o'r rhai cyntaf i gael ei gadael i gynddaredd a rhaib y barbariaid. Yr oedd llwythau annibynnol ucheldiroedd yr Alban yn torri trwy fur Agricola o hyd, ac yn difrodi meysydd a gweirgloddiau'r dalaethau Rhufeinig. "Bu gwynt angerddol yr ail waith", ebe adlais rhyw hen gwynfan, ac y dodes y Gwyddyl Ffichti dân wrth adenydd yr adar gwylltion yn y gogledd; achos hynny llosged llawer iawn o dai ac ysguboriau a deisydd ŷd. Ac ar yr un amser yr oedd llongau môr-ladron y gogledd yn ymgynnull i ymosod ar y dalaeth Rufeinig gyfoethog a diymwared hon. Yn 120 daeth yr ymerawdwr Hadrian, a chododd fur newydd i atal ymosodiadau Pictiaid yr Alban. .A phan fyddai raid, doi'r llengoedd o bob rhan o'r ynys a'r hyd y ffyrdd Rhufeinig i amddiffyn hwn. Rhwng 207 a 210 bu'r ymerawdwr Severus yma, yn adeiladu mur amddiffynnol arall. Yng Nghaer Efrog, cartref y seithfed leng, y bu farw, gan bryderu am ddiogelwch yr ymherodraeth a phoeni am bechodau ei fachgen drwg.

IV. Y GWRTHRYFELA. 220-450.

Yr oedd Rhufain yn ymlygru ac yn gwanhau, ac yr oedd cenhedloedd y gogledd a'r dwyrain yn ymosod arni ar hyd ei therfynau, - canys pa le bynnag y byddo y gelain, yno yr ymgasgl yr eryrod. Yn yr anrhefn yr oedd rhyw gadfridog buddugoliaethus, mewn rhyw ran o'r ymherodraeth, yn gwrthryfela ac yn cyhoeddi ei hun yn ymerawdwr. A llawer gwrthryfelwr enwog welodd Prydain yn y dyddiau hynny. Yn 288 cododd Carausius, llyngesydd medrus, o Gymru neu'r Iwerddon, a chyhoeddodd ei hun yn ymerawdwr ym Mhrydain. Dano ef, bu yr ynys yn annibynnol am flynyddoedd. Yr oedd wrth fodd y bobl, ac yn deyrn llwyddiannus. A'r un o'i ddarnau arian y mae darlun o honno'n cydio yn llaw Britannia; a'r yr ochr arall i'r darn y mae'r ysgrifen EXPECTATE VENI,- Tyred, yr hwn a hir ddisgwyliwyd. Ac o rywle o'r gorllewin y daeth. Lladdwyd Carausius tua 293 gan Allectus, un o'i swyddogion, yr hwn a deyrnasodd yn ei le hyd 298.

A'r adeg hon, gwelodd yr ymerawdwr Diocletian nad oedd modd i un ymerawdwr deyrnasu mwyach, a rhannwyd yr ymherodraeth rhwng amryw ymerawdwyr. Daeth Prydain i ran Constantius, a gorchfygwyd Allectus ganddo. Adferodd heddwch a dedwyddwch cyn marw yng Nghaer Efrog yn 306. Bendithiwyd coffadwriaeth ei wraig Helen, - un ragorol, er o isel radd, - am ganrifoedd wedi ei marw; dywedid mai Cymraes oedd gan lais traddodiad diweddarach, ac mai hi wnaeth y ffyrdd a welir eto ar ein mynyddoedd, ar hyd y rhai y byddai ei milwyr yn dod i helpu brenhinoedd ormesid gan estron.

Mab Constantius a Helen oedd Cystenyn Fawr, yr hwn ail unodd ymherodraeth Rhufain. Ym Mhrydain y coronwyd ef; gyda byddin Brydeinig y cychwynnodd i orchfygu ei elynion ac i deyrnasu ar yr holl fyd. O'r holl ymerawdwyr, Cystenyn oedd y Cristion cyntaf. Erbyn ei ddyddiau ef yr oedd yr Efengyl wedi ei phregethu ym Mhrydain, ac yr oedd rhai wedi rhoddi eu bywyd i lawr drosti. Yr oedd sêl y Derwyddon wedi oeri, ymdoddodd eu duwiau i fysg duwiau'r Rhufeiniaid, - ac ymysg y gwahanol dduwiau y soniai'r milwyr am danynt yr oedd Iesu, a hwnnw wedi ei groeshoelio. Pwy bregethodd yr Efengyl gyntaf nis gwyddom, hwyrach nad oes dim ond y Dydd Olaf ddengys pwy.

Wedi marw Cystenyn, daeth y barbariaid a'r anrhefn drachefn. Llawer cadfridog ddilynodd ei esiampl, gan arwain byddin o Brydain i'r Cyfandir; eithr nid i orchfygu, ond i gael ei dinistrio. Ac yr oedd y barbariaid yn ymosod ar Brydain o hyd; ni fedrodd buddugoliaethau Theodosius a Stilicho eu cadw draw. Yr oedd Rhufain ei hun mewn perygl, a chyn hir syrthiodd y ddinas dragwyddol o flaen Alaric. Cyn 456 yr oedd y lleng olaf wedi troi ei chefn a'r Brydain, gan adael rhyngddi a'r dinistrwyr oedd yn ymgasglu o'i chwmpas.

Er trymed y trethi, ac er amled y rhyfeloedd, yr oedd Prydain yn wlad gyfoethog pan adawodd y Rhufeiniaid hi. Yr oedd pobl gwastadedd dwyrain yr ynys yn siarad Lladin, ac yn byw fel Rhufeiniaid ym mhob peth. Ac yr oedd pobl mynyddoedd y gorllewin, - ein Cymru ni, - yn prysur ddysgu Lladin hefyd. Y mae geiriau Lladin yn ein hiaith eto, y mae enwau Lladinaidd a'r rai o'n trefydd a'n hafonydd hyd y dydd hwn. Yr oedd llawer plas prydferth ar ein llechweddau, a'i berchennog yn feistr ar gaethion lawer, a meysydd ffrwythlawn o'i amgylch. Yr oedd ffyrdd ardderchog yn rhedeg trwy hyd a lled y wlad. Yr oedd coedwigoedd wedi eu clirio, a chorsydd wedi eu sychu. Yr oedd gweithydd copr ym Môn, gweithydd plwm ym Maldwyn, gweithydd haearn ym Mynwy, a gweithydd aur ym Meirionnydd. Ar ein gororau yr oedd dinasoedd gwychion, - Caer Lleon ar Ddyfrdwy gadarn; Uriconium anferth ar yr Hafren, dair milltir ysgwâr o arwynebedd; Caer Lleon ar Wysg, gyda'i phlasau goreurog ysblennydd, ei thyrau uchel, a'i hystrydoedd a'i chaerau fu'n syndod canrifoedd wedi i'r Rhufeiniwr olaf ei gadael.

Wrth edrych ar y Gymru hon dros oesoedd o anrhefn a difrod rhyfel, hawdd y gallai croniclydd Cymreig roddi ffrwyn i'w ddychymyg, a chredu popeth ddywedai'r Rhufeiniwr am dani, ac ysgrifennu cyfieithiad anghelfydd, estronol ei gystrawen, - "Bryttaen, oreu o'r ynysoedd, yr hon a elwit gynt y wen ynys yggollewigawl eigawn. A pha beth bynnac a fo reit y ddynawl arfer o andyffygedic ffrwythlonder, hi ae gwassanaetha. Y gyt a hynny, cyflawn yw o'r maestiredd llydan amyl; a brynneu ardderchawc, addas y dir dywyliodraeth, drwy y rei y deuant amryfaelon genedloedd ffrwytheu. Yndi hefyt y maent coetydd a llwyneu cyflawn o amgen genedloedd anifeileit. a bwystifileit. Ac y gyt a hynny, amrai cenfeinoedd o'r gwenyn, o blith y blodeuoedd yn cynulaw mel. Ac y gyt a hynny, gweirgloddyeu amyl o dan awyrolyon fynyddedd, yn y rei y maent ffynhoneu gloew eglur, o'r rei y cerddant ffrydyeu, ac a lithrant gan glaer sein, a murmur arwystyl cerdd; a hun yw y rei hynny yr neb a gysgo ar eu glan. A llynneu ac afonoedd; ac amryfael gyfnewityeu o'r gwladoedd tramor; ac wyth prif ddinas ar hugaint, a themleu seint ynddunt yn moli Duw, a muroedd a chaeroedd ardderchawc yn eu teccau. Ac yn y temlau, cenfeinoedd o wyr a gwragedd yn talu gwasanaeth dylyedus y eu Creawdyr ynherwydd Cristionogawl fyd."

Pan welwn Gymru nesaf, bydd Uriconium yn garnedd, Caer Lleon yn anghyfannedd ar lan y Ddyfrdwy, gogoniant CaerLleon ar Wysg yn ymadael, a chaniadau y deml yn troi yn udo ar y dydd hwnnw.

NODYN IV.

Tacitus, mab yng nghyfraith Agricola, yw prif ffynhonnell ein gwybodaeth am y goncwest Rufeinig. Yn ei Annales dywed hanes y goncwest, yn ei Agricola dywed hanes y Rhufeineiddio, ac yn ei Germania, a rhydd ddarlun o'r Eingl ar Saeson fel yr oeddynt cyn dechrau ymosod ar Brydain. Ysgrifennodd Gildas ei gwynfan yng nghanol y rhyfel rhwng y Prydeiniaid a'r Saeson. Traddodiadau a darnau o hen faledi yw croniclau'r Saeson eu hunain am eu can mlynedd cyntaf yn yr ynys hon.

Blaenorol Cynwys y llyfr hwn Adran Cymru Hafan Nesaf

Hanes Dolgellau
Dolgellau History

Hanes Dolgellau Dolgellau History