Hanes Cymru Owen M Edwards Cyfrol 1 Y Saeson

 Hanes Cymru O. M. Edwards - Cyfrol 1

PENNOD IV - Y SAESON

Wele bobl yn dyfod o dir y gogledd, a chenedl fawr a gyfyd o ystlysau y ddaear. Yn y bwa ar waewffon yr ymaflant, creulawn ydynt, ac ni chymerant drugaredd; eu llais a rua megis y môr, ac ar feirch y marchogant yn daclus, megis gwyr i ryfel yn dy erbyn di, merch Seion.

Brwydr Mynydd Baddon

Brwydr Mynydd Baddon

TRA'R oedd Rhufain yn llywodraethu ac yn trethu y cenhedloedd orchfygasai, a thra'r oedd pob cenedl o fewn terfynau'r ymerodraeth yn ymroddi i amaethu'r ddaear ac i adeiladu trefi a masnachu ,ac ymgyfoethogi mewn heddwch, yr oedd cenhedloedd y gogledd yn ymwthio drwy'r fforestydd tywyllion a'r corsdiroedd oedd y tu hwnt i ragfuriau eithaf y llengoedd, ac yn edrych gyda llygaid hiraethlawn ar feysydd heulog cnydiog yr ymerodraeth fawr. O flaen y barbariaid crwydrol aneirif hyn, gorfod i'r llengoedd Rhufeinig gilio'n ôl yn raddol; gan adael y taleithiau cyfoethog i'r anwariaid a dinistr. Hanner can mlynedd wedi i'r llengoedd adael Prydain i ymdaro gorau gallai yn erbyn y gelyn a'i anrhaith, y mae mynach Prydeinig yn cwyno yng nghanol difrod dinasoedd a themlau fel hyn,- Oni chyflawnwyd ynom ni air y proffwyd, - Y cenhedloedd, O Dduw, a ddaethant i'th etifeddiaeth. halogaeant dy deml sanctaidd. Onid oedd dros yr holl wlad gelain y trigolion gyda'r eglwyswyr, yn ddarnau hyd yr heolydd, ie yn dyrrau cymysgedig, megis mewn gwryf mawr y gwesgir afalau ynddo, heb fedd iddynt? Dihangodd y gweddillion i'r môr a'r mynyddoedd gan oernadu. Rhoddaist ni fel defaid i'w bwyta, gwasgeraist ni ymysg y cenhedloedd.

Ni ddaeth diwedd ymerodraeth Rhufain yn ddirybudd. Ers canrifoedd yr oedd wedi bod yn cadarnhau y caerau a'r muriau oedd yn amddiffyn ei therfynau gogleddol. Bygythid ynys Prydain o ddau gyfeiriad. Ymosodid arni o du'r gorllewin a'r gogledd gan y Pictiaid. Ac ar draeth y dwyrain ceisiai llwythau Teutonaidd, Eingl a Saeson, lanio o hyd. Yr oedd y Rhufeiniaid wedi trefnu'r ynys yn y ffordd oreu i wrthsefyll y ddau elyn hyn. Yr oeddynt wedi ei rhannu'n ddwy dalaeth filwrol, y dalaeth agored i ymosodiadau'r Pictiaid, a'r dalaeth agored i ymosodiadau'r Saeson. Talaeth y gorllewin oedd y naill, a thalaith y dwyrain oedd y llall. Ymestynnai talaeth y gorllewin o enau'r Hafren hyd yr hen amddiffynfa wgus sydd eto'n edrych oddi ar graig Dumbarton ar ddyffryn y Clyde. Cynhwysai, felly, y rhan fynyddig o Brydain y Rhufeiniaid, - yr ardaloedd elwid wedi hynny'n Gymru, Teyrnllwg, Ystrad Clwyd, Deifyr, a Bryneich. Wrth edrych ar fap, gwelir fod y dalaeth hon yn hir ac yn gul, - yn agored i ymosodiadau ac yn hawdd ei thorri'n rhannau. A'r hyd ei thraethell orllewinol yr oedd yn agored i'r Scotiaid oedd yn ymosod arni o'r Iwerddon. A'r ei therfyn gogleddol nid oedd y mur Rhufeinig mor gadarn nas gallasai'r Pictiaid dorri drwyddo. Ac yr oedd Deifyr a Bryneich, - y rhan o'r dalaeth oedd ar lan Mor yr Almaen, - i weled llongau'r Eingl yn hwylio tuag atynt o lannau'r Almaen draw dros y môr. Cyn i'r Rhufeiniaid ymadael, a'r y dalaeth hon yr oedd y curo mwyaf. Llywodraethid hi gan y Dux Britanniarum, yr hwn a arolygai symudiadau ei llengoedd hyd y ffyrdd arweiniai o Gaer Lleon ar Wysg yn y de i'r gwahanol orsafoedd ar fur y gogledd. Trwy ymladd caled yn unig y medrid rhwystro'r barbariaid Pictaidd rhag torri'r mur a dylifo i'r dalaeth. Wedi i'r Rhufeiniaid ymadael, cymerwyd gwaith a theitl y Dux, Rhufeinig gan y Gwledig Cymreig. Unwyd trigolion y dalaeth gan eu perygl, galwasant eu hunain yn GYMRY, trigolion yr un fro, - a'u gwlad yn GYMRU. Er i'r wlad hon gael ei thorri'n ddwy wedyn, ac er Seisnigo y rhan ogleddol o honni, - y mae darn o'r rhan honno, Cumberland, eto'n cadw'r hen enw, - ymladdodd am flynyddoedd i gadw ei hundeb ac i rwystro'r Saeson rhag dod i mewn iddi. Ond nid y Pictiaid, wedi'r cwbl ddinistriodd Gaer Lleon, gan rannu yr hen Gymru'n ddwy.

Yr oedd y cenhedloedd Teutonaidd yn ymosod ar draethell ddwyreiniol Prydain er ys canrifoedd, a phrif waith llywydd y dalaeth ddwyreiniol oedd gwrthsefyll eu hymosodiadau. Rhan wastad yr ynys oedd y dalaeth ddwyreiniol, o Gaer Efrog yn y gogledd i draethell y de. Llywydd y dalaeth hon oedd y Cornes Litoris Saxonici, - iarll traeth y Saeson. Ar hyd traeth y Saeson - o enau'r Ouse hyd Ynys Wyth, - yr oedd rhes o gestyll Rhufeinig. Y mae map Rhufeinig o'r traeth hwn a'r gael a chadw. Y map olaf mewn llyfr o fapiau Rhufeinig ydyw, ac nid oes ond rhan o honno'n ddigon eglur i'w ddarllen, - rhan yn dangos cestyll y traeth a'r ffyrdd a'u cysylltai. Pan ymadawodd y Rhufeiniaid, ymosododd y Saeson ar yr holl gestyll, gan dorri drwyddynt i'r dalaeth ddwyreiniol, ac y mae llawer traddodiad ynglŷn â rhuthr y barbariaid i'r trefydd caerog.

Pwy oedd y Saeson hyn? Rhai o'r tylwythau Teutonaidd, grwydrent tua'r gorllewin trwy fforestydd a chorsydd gogledd yr Almaen, oeddynt. Yr oeddynt y tu allan i derfynau gogleddol yr Ymerodraeth, ac felly heb golli eu hannibyniaeth na'u barbariaeth. Fel y Scotiaid a'r Pictiaid, yr oeddynt yn fwy rhyfelgar na'r llwythau oedd wedi ymheddychu dan lywodraeth Rhufain ac efengyl tangnefedd; a phan gollodd Rhufain ei gallu i amddiffyn, ymosodasant ar y llwythau Rhufeinig fel adar rhaib ar adar dof.

NODYN IV.

Dyma drefn hanes ymosodiad yr Eingl ar Saeson ar Brydain, -

450 - 516.YR YMOSOD AR DRAETH Y DWYRAIN A'R DE.

450 - 473.Y Jutiaid yn ennill Caint, ac yn aros yno.

473 - 490.Y South Saxons yn ennill y tir i'r gorllewin.

490 - 556.Y West Saxons yn glanio ymhellach yn y gorllewin, yn ennill Gwent, ond yn cael eu hyrddio'n ôl ym mrwydr Mynydd Baddon.

516- 577.YR YMOSOD AR Y GOGLEDD DDWYRAIN. Ennill y traeth o'r Tafwys i'r Forth. Gwladychu yr holl dalaeth isaf.

577- 613.YR YMOSOD AR Y DALAETH ORLLEWINOL.

577. Brwydr Deorham. Ceawlin a'r Saeson yn cyrraedd genau'r Hafren, ac yn llosgi Uriconium. Eu hyrddio'n ôl o Fethanlea, 584.

613.Brwydr Caer. Aethelfrith ar Eingl yn cyrraedd y Ddyfrdwy.

Rhydd Tacitus ddarluniad ohonynt yn eu cartref pan drigent ar y tir isel rhwng genau'r Rhein a'i Oder. Yr oedd eu llygaid yn leision a chreulawn eu gwallt yn goch, a'u cyrff yn enfawr. Diadelloedd defaid a gyrroedd o wartheg oedd eu prif olud nid oeddynt yn malio mwy mewn aur ac arian na mewn clai. Nid oeddynt yn byw mewn dinasoedd codai pawb ei fwthyn lle y mynnai, wrth ffynnon neu goedwig neu weirglodd. Aberthent i dduwiau, - aberthau dynol weithiau; ond ni chyffelybent wyneb ar eu duwiau i unrhyw wyneb dynol, ac nid oedd ganddynt demlau ond y goedwig. Chwilient allan farn eu duwiau oddi wrth ehediad adar, ond yn bennaf oddi wrth ymddygiad ceffylau gwynion sanctaidd y llwyth. Pobl ddiog oeddynt; ond hoff o ryfel a gloddest. Barbaraidd oedd eu gwisg,- croen wedi ei sicrhau â phigau drain. Ymhyfryda Tacitus wrth gymharu eu bywyd iach Barbaraidd â bywyd mas weddol llwgr Rhufain. Ni wyddent beth oedd anniweirdeb, ac yr oedd eu harferion yn well na bywyd cenhedloedd wareiddiasid gan gyfraith. Crogen ddrwg - weithredwyr; ac am yr hwn a gyflawnai bechodau gwarthus., cleddid ef yn fyw mewn cors, a llidiart ar ei gefn.

Yr oedd y tir yn perthyn i'r llwyth yn gyffredin gellid gweled aradrau'r holl lwyth yn dilyn eu gilydd yn yr un cae. Yna rhennid y tir tro rhwng teuluoedd y llwyth, yn ôl y nifer o ychen anfonasant i aredig.

Pan oedd Tacitus yn ysgrifennu yr oedd bywyd cenedlaethol y tylwythau Almaenaidd yn dechrau newid. Llwythau o bobl ryddion oeddynt i ddechrau: heb frenin, na chyfraith, na threth. Ond, yn narlun Tacitus, gwelwn y brenin yn codi'n raddol i fri ac awdurdod. Un math o frenin oedd yr arweinydd milwrol. Byddai'r arweinydd hwn yn dewis bechgyn ieuainc mwyaf rhyfelgar y llwyth, yn rhoddi march a tharian a phicell iddynt, ac yn eu harwain i ryfel, er mwyn dod ag ysglyfaeth yn ôl. Fel yr oedd Rhufain yn gwanhau câi'r arweinydd milwrol fwy o gyfle, ac arweiniai filwyr i diroedd cyfoethocach a mwy heulog, gan ymsefydlu yno. Arweiniai rhai o'r brenhinoedd hynny fyddin i'r môr, gan ymosod ar ynys Prydain, a chludo ei hysbail yn ôl. Nid oedd y rhai hyn ond rhyw ddafnau o flaen y gawod. Tua chanol y bumed ganrif yr oedd llwythau cyfain yr Eingl ar Saeson yn gadael eu tiroedd tlawd gwlyb, ac yn cyfeirio eu llongau tua thraethell ddwyreiniol Prydain, traeth a chaerau ar ei hyd, ond traeth a gwlad gyfoethog amaethedig y tu hwnt iddo.

Nid oes wybodaeth sicr am yr ymladd fu rhwng y Saeson a'r Prydeiniaid yng nghaerau Rhufeinig traeth y dwyrain. Ymhell wedi hynny yr ysgrifennodd mynachod Seisnig hanes dyfodiad eu tadau barbaraidd. Dywedai traddodiadau'r Saeson mai yng Nghaint y glaniasant gyntaf. Dyma damaid o'u croniclau : -

"448.Yn y flwyddyn hon datguddiodd Ioan Fedyddiwr ei ben i ddau fynach ddaethai o'r dwyrain i Gaersalem i weddïo, ar y fan y safai tŷ Herod gynt.
"Ar y pryd hwnnw Martianus a Valentinianus oedd yn teyrnasu; ac ar y pryd hwnnw daeth pobl Seisnig i'r gwledydd hyn, ar wahoddiad Gwrtheyrn, i'w gynorthwyo ef, ac i orchfygu ei elynion. Daethant mewn tair llong hir, a'u harweinyddion rhyfel oedd Hengist a Horsa. Yn gyntaf, lladdasant holl elynion y brenin, a gyrasant hwy ymaith; ac yna troisant yn erbyn y brenin ac yn erbyn y Prydeiniaid, a llwyddlasant, drwy gymhorth tân a min y cleddyf."

Cyn 450, yr oedd y Saeson wedi gwneud llawer ymosodiad penderfynol ar yr hanner cylch o gaerau amddiffynnai yr ynys, ac efallai mai trwy wahoddiad tywysog Prydeinig y cawsant eu dyfodfa gyntaf drwy'r caerau hynny. Hyn sydd wir, - rhwng 450 a 516 yr oeddynt wedi gorchfygu'r holl wlad y tu deheu i'r Tafwys, o Gaint hyd derfyn gorllewinol gwastadedd Gwent. Ucheldir gwastad ydyw'r wlad hon rhwng dyffryn Tafwys a'r môr; a chyrchodd tri llwyth o'r dyfodiaid rhyfelgar iddo. Caint ydyw ei gornel ddwyreiniol, ynddi hi ymsefydlodd y Jutiaid, wedi torri ei chestyll gwarcheidiol, a difrodi'r meysydd ffrwythlawn enillasai celfyddyd y Rhufeiniwr oddi ar y môr.

Ar ôl y Jutiaid, daeth un o dylwythau'r Saeson, - y South Saxons, - y creulonaf a'r mwyaf anwaraidd o'u hil. Hwyliasant heibio traethell Caint, ac ymsefydlasant ymhellach i'r gorllewin ar draeth y Saeson. Cofiwyd yn hir am eu hymosodiad ar gaer Anderida, - "lladdasant bawb a drigai ynddi, ni adawyd un Prydeiniwr yn fyw."
Ar ôl y South Saxons daeth y West Saxons, gan lanio ymhellach fyth i'r gorllewin. Cyrhaeddasant hwy ucheldir braf Gwent, lle'r oedd llawer bedd a theml a dinas ardderchog, daeth y wlad yn eiddo iddynt hyd ddyffryn Tafwys, - a gwelent ffordd Rufeinig yn eu gwahodd ymlaen i ddyffryn Hafren, at gyffiniau ail dalaeth Prydain, talaeth y Dux Britanniarum. A thra'r oeddynt hwy yn gorchfygu rhannau deheuol talaeth y dwyrain, yr oedd tylwythau o Eingl yn ymdywallt i'w rhannau gogleddol.
Ond onid oedd y dalaeth ddwyreiniol yn un,-dan un swyddog? Paham y :gadewid iddi gael ei gorchfygu bob yn ddarn? Paham y gadewid i ddinas fel Anderida ymladd ei hun, heb gynorthwy? Pa le'r oedd iarll traeth y Saeson yn amser caledi'r ddinas ffyddlon a dewr? Yr oedd amryw yn ymgeisio at fod yn olynydd i'r Comes Rhufeinig, gan ymladd yn erbyn eu gilydd yn lle .amddiffyn eu gwlad. Pan ymchwalodd yr Ymerodraeth, yr oedd rhyw ymerawdwr yn codi ymhob congl iddi. A phan adawodd Rhufeiniaid ein hynys ni, cododd rhyw Wledig ymhob cornel o honi. Yr oedd Gwrtheyrn yng Ngaint, Emrys yng Ngwent, a rhywun arall yng Nghernyw, - pob un yn tybied ei hun yn wir olynydd i'r Comes Litors Saxonici, a phob un yn edrych ar y llall fel gwrthryfelwr yn ei erbyn. Wedi gorchfygu Gwrtheyrn a meddiannu Caint, dechreuodd y Saeson ymwthio ymlaen i'r gorllewin, a gwelsant gaerau Caer Loew a thyrau Caer Lleon ar Wysg. Ond yr oedd llwyddiant y barbariaid wedi uno'r Prydeinwyr, a chyn i'r West Saxons gyrraedd ffin talaeth y gorllewin, arweiniodd Emrys fyddin fawr yn eu herbyn. Yn rhywle ar derfyn y ddwy dalaeth, ymladdwyd brwydr Mynydd Baddon, tua'r flwyddyn 516.

Yr oedd hon yn un o frwydrau pwysicaf y rhyfel. Tyfodd yr hanes am dani yn nychymyg yr oesoedd ar ei hol, a thybid mai Arthur Fawr oedd yn arwain lluoedd y Prydeiniaid ynddi. Ond prin y medrai dychymyg Cymru ei gwneyd yn fwy pwysig nag ydoedd. Rhoddodd atalfa ar y llanw Seisnig am hanner can mlynedd; gwnaeth i'r ymosodwyr chwilio am fannau gwannach yn uwch i'r gogledd; a rhoddodd ysbryd newydd yn y Prydeiniaid.

Ym mlwyddyn y frwydr, yn rhywle ar gyffiniau'r ddwy dalaeth, ganwyd Gildas, ebe ef ei hun. Gwelodd olion y rhyfel, gwelodd yr anfoesoldeb ar anuwioldeb oedd wedi ei dilyn, gwelodd y tywysogion Cymreig yn ymladd, fel cynt, am unbennaeth eu talaeth. Efe yw hanesydd cyntaf ei bobl, a Jeremiah eu llenyddiaeth. Taniwyd ei ddychymyg wrth ddarllen proffwydi'r Hebreaid, chwerw ydyw ei gwynfan am bechodau ei bobl. Darlunia egni'r Prydeinwyr yn adeg y frwydr, a'u difrawder yn union wedyn.

"Nid aeth destrywedigaeth yr ynys, a'r cynhorthwy a ddigwyddodd iddi heb ei ddisgwyl, byth allan o gof y rhai ai gwelsent. Am hynny gwnaeth y brenhinoedd, a'r penaethiaid, a'r eglwyswyr, a'r cyffredin, bob un eu dyledswyddau. Ond pan gyfododd to arall na wyddai oddi wrth ddim ond y tawelwch presennol, dymchwelwyd gwirionedd a chyfiawnder, fel na welir mo'u hol mewn gradd yn y byd o ddynion, oddieithr ychydig iawn y sydd â'u bywyd yn hoff gan Dduw, ac a'u gweddïau yn cynnal ein gwendid ni."

Nis gwn a fu Gildas byw i weled pethau gwaeth na'i broffwydoliaethau'n dod i ben. Tra'r oedd tywysogion y Prydeiniaid yn ymrafaelio am yr unbennaeth yr oedd y Saeson yn ymuno ac yn ennill nerth. Yn y flwyddyn 577 yr oedd Ceawlin wedi uno tylwythau'r Saeson ymgartrefasant y tu deheu i'r Tafwys; ac arweiniodd eu llu yn erbyn y dalaeth orllewinol. Cyn i'r llu hwn gyrraedd dyffryn Hafren, ymladdwyd brwydr Deorham rhyngddynt a thywysogion ,y dyffryn goludog hwnnw. Gorchfygwyd y Prydeiniaid, a syrthiodd tair dinas, - Caer Baddon, Caer Loew, a Cirencester, - i ddwylaw yr anrheithiwr. Trwy'r fuddugoliaeth hon, estynnodd Ceawlin derfynau ei deyrnas i lan môr y gorllewin, gan wahanu Cymru a Chernyw am byth oddi wrth eu gilydd. Yr oedd dyffryn bras yr Hafren yn agored iddo hefyd, gyda'i ddinasoedd a'i blasau. Ymdeithiodd i fyny'r dyffryn, - yr oedd ei amddiffynwyr wedi marw yn Neorham, - a gadawodd blas Cynddylan yn dywyll, wedi ei losgi a'i anrheithio. Ond nid Ceawlin oedd i orchfygu Cymru; ym mrwydr Fethanlea, yn 584, gorchfygwyd ef, a gorfod iddo gilio'n ôl o ddyffryn Hafren.

Erbyn dechrau'r seithfed ganrif yr oedd yr holl dalaeth ddwyreiniol, oddigerth Cernyw, wedi ei gorchfygu. Dros holl wastadeddau'r dwyrain a'r canoldir, yr oedd y Saeson ar Eingl wedi ymledaenu. Ac yr oeddynt wedi dechrau ymosod ar y dalaeth orllewinol, ar hyd ei chyffindir, o'r Hafren i Ystrad Clwyd. Yr oedd plas Cynddylan wedi ei losgi, yr oedd Bryneich a Deifr yn eiddo i'r Eingl. O flaen yr ymosodiad arnynt ymunodd y Cymry, - oherwydd Cymry y galwent eu hunain yn awr, - yn erbyn gallu unedig y Saeson a'r Eingl oedd am ennill oddi arnynt goron eu talaeth orllewinol.

Ond yn awr dyma ni yn nechrau hanes Cymru. Yr ydym ym mysg rhai adwaenwn, gwelsom Gynddylan yn ymladd yn Neorham, clywsom alar Llywarch Hen. Y mae'r dwyrain yn Seisnig, y mae Cymry'r gogledd yn cilio'n ôl o gam i gam o flaen y gelyn, - cyn pen y deng mlynedd bydd Cymru, ein Cymru ni, wedi ei hamgylchu gan y Saeson a'r môr.

NODYN V.

Mewn llyfrau hanes hen ffasiwn cymerir yn ganiataol fod y Saeson ar Eingl naill ai wedi lladd Prydeiniaid Lloegr neu wedi eu hymlid i fynyddoedd y gorllewin. i rywun sydd wedi darllen hanes cenhedloedd bore y mae hyn yn beth anghredadwy.
Haerir fod y Lloegriaid wedi eu difodi am (i) na adawsant eu hiaith, (2) na'u crefydd, (3) nac enwau lleoedd; (4) fod y croniclau'n dweud yn bendant fod pob Prydeiniwr wedi ei ladd yn Anderida; (5) fod Gildas yn darlunio anrhaith creulawn yr ymosodwr.

Atebir (1) fod dyrnaid o Sbaenod wedi rhoddi eu hiaith i gyfandir bron, ac mai Lladin siaradai'r Lloegriaid; (2) fod crefydd Lloegr wedi dirywio; (3) gadawsant rai o brif enwau lleoedd Lloegr; (4) ni soniasid am Anderida oni bai mai eithriad ydyw; (5) dywed Gildas fod Lloegriaid yn ymuno â'r gelyn.
Os difodwyd, y mae hanes ein sefydliadau'n anesboniadwy hefyd.

Blaenorol Cynwys y llyfr hwn Adran Cymru Hafan Nesaf
Hanes Dolgellau
Dolgellau History

Hanes Dolgellau Dolgellau History