Hanes Cymru Owen M Edwards Cyfrol 1 Arthur

 Hanes Cymru O. M. Edwards - Cyfrol 1

PENNOD V. - ARTHUR.

Ac ar hynny nachaf feirdd yn dyfod i ddatganu cerdd i Arthur, ac nid oedd dyn a adnabai y gerdd honno, eithr ei bod yn foliant i Arthur.

BREUDDWYD RHONABWY

 

Breuddwyd Rhonabwy

Breuddwyd Rhonabwy

Y MAE hanes a thraddodiadau am yr ymosod ar y mynyddoedd rhwng ymadawiad y Rhufeiniaid ac ymddanghosiad Maelgwn Gwynedd, wedi eu gweu yn rhamant fedd Arthur yn arwr iddi. Yma ac acw gyda godrau y mynyddoedd fu'n amddiffyn, y mae llawer ogof lle y tybir fod Arthur eto'n huno, i aros awr gwared ei wlad.

Er ys canrifoedd, er y goncwest Rufeinig, yr oedd y Pictiaid wedi bod yn curo yn erbyn y muriau godasid i amddiffyn terfyn gogleddol y dalaeth; ac yr oeddynt wedi torri trwyddynt lawer gwaith. Y mae olion y muriau hyn eto'n aros, wedi cyfnewidiadau ac ystormydd dwy ganrif ar bymtheg. Yr oedd un mur, mur Antoninus, rhwng y Forth ar Clyde. Wrth ymosod ar y mur hwn, ? mur saith milltir ar hugain o hyd, ? nis gallai'r Pict o'r mynyddoedd lai na rhyfeddu at athrylith y Rhufeiniaid, a thybid gan oesau eraill mai gallu goruwchnaturiol oedd wedi gwneud y muriau, ar ffosydd, ar ffyrdd. Yn gyntaf peth, doi'r Pict at ffos deuddeg troedfedd o led, yr hon oedd yn gorwedd o flaen y mur trwy ei holl hyd. Yn codi o'r ffos hon yr oedd mur, dwy droedfedd o led, o gerrig ysgwr. Yr oedd hwn, mae'n debyg, yn uchel iawn, yn uwch na'r wal nesaf i mewn, ac yn gysgod i'r rhai safai i ergydio oddi arno. Ochr oedd y mur cerrig ysgwr i'r wal fawr, ddeg troedfedd o led, - wal o gerrig a phridd. Y peth welai'r Pict felly fyddai mur cerrig yn codi'n syth o'r ffos, a throsto gwelai helmau disglair y milwyr oedd yn cerdded hyd ben y wal. Gyda gwaelod y wal, ar yr ochr ddeheuol, rhedai llwybr pum troedfedd o led. Ar yr un ochr, hefyd, yr oedd tyrau'n edrych dros y mur, a gwylwyr arnynt ddydd a nos.

Yn nes i'r de, rhwng y Solway ar Tyne, yr oedd mur arall, mur Hadrian. Yr oedd hwn yn wyth troedfedd o led, ac yn ugain troedfedd o uchder. Nid oedd eisiau ffos o'i flaen, gan ei fod wedi ei godi ar ael garegog y bryniau saif uwchlaw dyffrynnoedd yr Eden ar Tyne. Yr oedd tri chant ac ugain o dyrau ar y mur hwn, a thros dri ugain o gestyll, a ffordd filwrol yn ei gysgod. Yn gyfochrog a hwn yr oedd mur triphlyg arall, a ffos, a ffordd.

Pan ymadawodd y Rhufeiniaid, gwelsom fod ymryson am y gallu wedi bod yn y dalaeth ddwyreiniol rhwng Gwitheyrn ac, Emrys. Bu llawer un, yn y dalaeth orllewinol hefyd, yn ymgeisio am swydd a gallu'r Gwledig gadwai'r mur. Ym mysg y darnau o ganeuon Cymreig y dywedi'r eu bod yn perthyn i'r bumed ar chweched ganrif, y mae cn o fawl, yn llyfr Taliesin, i Arthur Wledig. Dyma ychydig linellau o honi, -

Ketwyr colledic.
Tebygafi dull dic.
O diua pendeuic.
O dull diuynnic.
Oleon luryc.
Dyrchafawt gwledic.

Eu hystyr, feallai, yn ein Cymraeg ni ydyw hyn, -

Coledig yw gwyr y gad,
Debygaf fi, mewn dull dig.
O ddifa'r pendefigion,
O ddull difaol,
O'r lleng lurygog,
Ymddyrchafodd y Gwledig.

Yr oedd y gwahanol bendefigion yn ceisio eu hanibyniaeth ym mhob rhan o'r dalaeth, ac yn gwrthod ymostwng i'r Gwledig unai'r dalaeth, ac a'i hamddiffynnai. Pan fyddai'r gelyn yn difrodi, a'r ysbeiliwr heb neb i'w atal, ceisiai rhyw bendefig galluog uno'r dalaeth, a'i rheoli yn null y Dux Britanniarum. Cyn y medrai un felly wneud ei hun yn Wledig yr holl dalaeth, yr oedd yn rhaid ymladd llawer cd ddig; yr oedd yn rhaid difa llawer cydbendefig eiddigeddus; yr oedd yn rhaid cael lleng lurygog, fel gosgorddlu'r tywysog Rhufeinig, i gynnal ei freichiau ac i roddi grym i'w air. A phan fyddai'r Gwledig wedi medru gwneud ei hun yn un ben y dalaeth, byddai bob amser yn dynwared rhwysg ac awdurdod y Dux Britanniarum, - y fantell goch, ei gader gymhesur, ei osgorddlun cerdded hyd. y mur. Ac ebe'r un gn o fawl i Arthur Wledig,-

Ae goch gochlessur.
Ae ergur dros uur.
Ae kadeir gymessur.
Ym plith goscord uur.

Y maen debyg mai gwaith Arthur oedd amddiffyn mur y gogledd yn erbyn y Pictiaid a'u cyfeillion, mr - ladron o'r cyfandir. Sonnir am Arthur rai gweithiau fel am ryw Wledig arall, yn y caneuon sydd yn Llyfr Du Caerfyrddin a Llyfr Coch Hergest a Llyfr Taliesin, caneuon sy'n dweud hanes y chweched ganrif, os credir eu bod wedi dod i lawr o amser mor bell. Ni sonia Gildas am y Gwledig hwn, ond yn Nennius cawn hanes y deuddeg brwydr ymladdodd. Hwyrach mai ym mro mur y gogledd yr ymladdwyd y brwydrau hyn, hwyrach mai yno y mae Coed Celyddon a Threwryd. Hwyrach mai yno y mae Camlan, lle collodd y Gwledig ei fywyd wrth amddiffyn y dalaeth.

Llyn Tegid a'r Aran yn y Pellder
Ar lan uchaf Llyn Tegid y dywed traddodiad i Arthur gael ei Addysg

Ymhen canrifoedd wedi'r chweched ganrif y mae Arthur yn ymherawdwr, ac y mae dychymyg cenedl wedi ei wneud yn amddiffynnydd anfarwol ei wlad. Tuedd y gorllewin ydyw gwneud ei harwyr yn dduwiau; tuedd y dwyrain ydyw gwneud ei duwiau'n ddynion. Yn yr hen Rufain baganaidd gwneid yr ymherawdwr yn dduw wedi ei farw: a phan syrthiodd Prydain yn l i ryw hanner paganiaeth yn y rhyfeloedd yn erbyn y Saeson, cofid yr hen draddodiadau paganaidd am yr ymherawdwr. Daeth Arthur, amddiffynnydd diweddaf y mur, yn ymherawdwr ac yn anfarwol.

Y mae darlunio tlws ar Arthur ym Mreuddwyd Rhonabwy, - un o ramantau prydferthaf llenyddiaeth y byd. Nid fel hanes y rhoddir y darluniadau, ond fel breuddwyd. FelIy y mae un o wr y ddeuddegfed ganrif yn sefyll ger bron Arthur, ac y mae Arthur yn gwenu wrth weled mor fychain yw'r gwr breswylia ei ynys yn awr.

Yr oedd gŵr o'r enw Rhonabwy, ebe'r hanes, gyda dyn coch o Fawddwy a dyn mawr o Gynlleitlh, yn ymlid ar l lleidr oedd yn diffeithio tri chwmwd gorau Powys. Ryw ddiwrnod dacw dŷ yn ymgodi o'u blaen, - hen neuadd burddu dal union, a mwg ddigon yn dod o honi. O flaen ystorm o wynt a gwlaw. troisant i mewn iddi. Nid oedd yr hen neuadd yn lle mwyn i aros ynddi, ac nid prydferth oedd yr olwg ar yr hen wrach ar gŵr coch a'r wraig feinlas fechan oedd bia'r tŷ. Nid oedd eu gwely yn esmwyth, - byrwellt dysdlyd chweinllyd. a bonau gwrysg yn aml drwyddo. Methai Rhonabwy gysgu. Cododd, a gorweddodd ar groen dyniawed melyn, a chysgodd ar hwnnw. Gydag iddo gysgu, yr oedd yn teithio eilwaith, debygai, gyda'i gymdeithion, tua Rhyd y Groes ar Hafren, hyd faes. Edrychodd dros ei ysgwydd, ac wele'n dilyn ar eu holau ŵr ieuanc pengrych melyn, ar farch melyn. Yr oedd ei goesau, o ben ei lin i lawr, yn Ias; ac amdano yr oedd gwisg o sidan melyn wedi ei wno ag edau las, godreu'r wisg yn Ias hefyd, - y glas cyn Iased a dail ffynidwydd, a'r melyn cyn felyned blodau'r banadl.Daeth ofn ar Ronabwy a'i gymdeithion wrth ei weled, a dechreuasant ffoi. Daeth y marchog o hyd iddynt ac addawodd ei nawdd iddynt, gan ddweud mai ei enw oedd Iddawc Cordd Prydain, a phaham y cafodd yr enw hwnnw. Pan oedd Iddawc yn gorffen dweud hanes ei ddrwg a'r bennyd ar drugaredd, clywent dwrf. Wedi edrych yn l, gwelent ŵr melyn - goch ieuanc, mewn gwisg o felyn a choch, - sidan melyn fel blodau'r banadl yn ymyl i wisg oedd gyn goched 'r gwaed cochaf erioed. Gofynnodd i Iddawc a gaffai ran o'r dynion bychain hynny oedd gydag ef, a dywedodd Iddawc y cai ran o'u cymdeithas. Wedi cerdded ychydig gyda hwy. Aeth ymaith a dywedodd Iddawc mai Rhuawn Pybyr ab Deorthach Wledig oedd. O'r diwedd cyrhaeddasant Ryd y Groes, a gwelent luestau a phebyll llu mawr. Yr oedd Arthur yn eistedd mewn ynys wastad islaw'r rhyd, ac esgob a phendefig gerllaw: a cher eu bron yr oedd gwas mawr mewn gwisg burddu, a'i wyneb cyn wynned ag asgwrn eliffant. Wedi ateb cyfarch i lddawc, gofynnodd Arthur dan wenu, ym mha le y cafodd y dynion bychain hynny. Gofynnodd Iddawc, wrth ddweud mai ar y ffordd y cafodd hwynt, paham y chwarddai Arthur. Iddawc, ebyr Arthur, nid chwerthin a wnaf, namyn truaned gennyf fod dynion cyn fawed a hyn yn gwarchod yr ynys hon, wedi gwŷr cystal 'i gwarchodai gynt. Gwelodd Rhonabwy y fodrwy oedd am fys Arthur, pe nas gwelsai honno ni allasai gofio dim o'r hyn welodd yn ei freuddwyd. Gwelodd hefyd fyddinoedd yn cyrchu tua'r rhyd. Daeth byddin o wr ar feirch cochion, mewn gwisgoedd cochion, - cymdeithion Rhuawn Pebyr, oedd a hawl i'r hyn a ofynnent ym mhob man. Daeth byddin arall tua'r rhyd; yr oedd rhan uchaf pob march cyn wynned 'r alaw, a'r rhan isaf cyn ddued a machudd, - byddin Adaon fab Taliesin, ac ymwersyllodd hon hefyd ger y rhyd. Yna gwelodd Rhonabwy ŵr tal hardd, Caradog Freichfras, yn codi ac yn dweud yn eofn na ddylai byddin mor fawr fod mewn lle mor fychan, eithr y dylai fod yn ymladd ag Ossa Gyllell Fawr. Ac wrth arch Arthur wele'r holl fyddin yn cychwyn, a Rhonabwy wrth sgil Iddawc, tua Chefn Digoll. Wrth groesi'r rhyd, edrychodd Rhonabwy'n l, a gwelai ddwy fyddin arall yn dod. Yn y fyddin gyntaf yr oedd y milwyr mewn gwisg o sidan gwyn gydag ymylau purddu, ar feirch canwelw oddieithr eu gliniau duon, ac yr oedd eu baneri'n wynion a'u pigau'n dduon. Gwŷr Llychlyn oedd y fyddin wen, dan arweiniad March fab Meirchion: ac ar eu holau doi gwŷr Denmarc, dan arweiniad Ederri fab Nudd. Yr oedd y rhain mewn gwisgoedd purddu, gydag ymylau gwynion, a,r feirch duon gyda gliniau gwynion, ac yr oedd eu baneri'n dduon a'u pigau'n wynion. Gwelodd Rhonabwy ruthr y milwyr i weled Cai, y tecaf ddyn yn llys Arthur, yn marchogaeth ymhlith y llu. Gwelodd Gadwr, iarll Cernyw, yn dod chleddyf Arthur iddo, - cleddyf o aur, a llun dwy sarff danllyd arno. Pan arafhaodd y llu dygwyd cader Arthur, a'r llen oedd i fod oddi tani, - llen na fynnai liw ond ei lliw gwyn ei hun: llen na welid neb fyddai arni, tra ef yn gweld pawb. Yna dechreuodd Arthur ac Owen fab Urien chwareu gwyddbwyll. Tra'r oedd y chware ar ei ganol, wele drindod i ddweud fod gweision Arthur yn blino brain Owen; ac yna wele dri o farchogion Arthur yn dod i ddweud fod y brain wedi ymosod arnynt i'w difa. Y cyntaf o'r rhai ddaeth i ddadleu achos y brain oedd Selyf fab Cynan o Bowys, - gŵr fu farw yn y gad ar forfa Caer yn 613. Gwelodd Rhonabwy wŷr Arthur yn eistedd mewn cyngor, i wneud heddwch am ennyd ag Ossa Gyllell Fawr. Gwelodd wŷr Groeg yn dwyn teyrnged i Arthur, clywodd Gai yn galw ar y milwyr i ddilyn Arthur tua'r de, ac wrth dwrf y fyddin yn cychwyn deffrodd, a gwelodd ei fod wedi cysgu teirnos a thridiau ar groen y dyniawed melyn yn yr hen dŷ.

Y mae arwyr chwe chant o flynyddoedd, o'r hen Garadog i Selyf ieuanc, wedi eu casglu at eu gilydd, i ymdaith gydag Arthur hyd ddyffryn Hafren yn erbyn Saeson y de. Y mae perffeithrwydd arddull y rhamant hon yn dangos yn eglur fod cenhedlaethau lawer, wrth ei hadrodd o oes i oes, wedi bod yn gloewi ac yn gloewi ei ffurf. Nid mewn un dydd y gwnawd llenyddiaeth fel llenyddiaeth hon, y mae ei hadeiladwyr wedi cario eu meini o bell, - y mae ymhob rhamant hen ddefnyddiau hanes wedi eu caboli gan y rhamantwr at ei bwrpas ei hun. O'r breuddwyd hwn, ac o'r rhamantau eraill, cawn lawer awgrym am hanes cyfnod cyntaf ein cenedl, - darnau o hen hanes ydynt, wedi eu gwneuthur yn adeilad arall. Yn y breuddwyd gwelwn orymdaith y llengoedd Rhufeinig fu'n cerdded hyd y mur, ac hyd y ffyrdd Rhufeinig sy'n arwain o honno i'r de. .Ac yn lle'r Dux Britanniarum gwelwn Arthur, a'r rhai fu'n ymladd dros Gymru o oes i oes.

Y mae llai o newid wedi bod ar ein barddoniaeth hynaf nag ar ein rhyddiaith hynaf. Yr oedd yn rhaid i'r rhamantwr wneud ei ystori yn ddealladwy iddo ei hun cyn y medrai ei chofio, yr oedd yn rhaid iddo ei gwneud yn ddealladwy cyn y mwynheid hi gan y tywysog a'r mynach a wrandawai arno. Ond yr oedd ffurf y gerdd yn help i'w chofio, pan na ddeallid hi gan yr hwn a'i hadroddai; ac yr oedd yn hawddach ganddo ddweud geiriau na ddeallai, a sn am wŷr nas gwyddai pwy oeddynt, pan gofiai nad adrodd ei feddyliau ei hun yr oedd, eithr meddyliau beirdd y tybiai eu bod ymron yn ysbrydoledig.

Yn Llyfr Du Caerfyrddin, yn Llyfr Coch Hergest, yn Llyfr Taliesin ceir casgliadau o hen farddoniaeth, yn llawn adlais o'r brwydro fu rhwng Ffichtiaid a Gwyddyl a Chymry ac Eingl a Saeson, ar draeth y gorllewin, ar fur y gogledd, ac yn nyffryn Hafren.

Y mae llawer o'n barddoniaeth foreuaf yn desgrifio'r ymladd fu ar fur y gogledd. Dywed am gwr gerddai'r mur mewn anrhydedd ac ardderchowgrwydd, - balchder y mur. Dywed am y mynych ymgyrch dros y mur i wlad y Pictiaid, pan anturiai'r Gwledig dros derfyn hen fyd y Rhufeiniaid, i wlad y gogledd neu i ynysoedd y mr,
 -Tri llonnaid Prydwen yr aethom ni iddi,
Namyn saith ni ddaethom o Gaer Sidi.

Dywed am dri ugain cannwr yn sefyll ar y mur, ac am ddim ond saith yn dychwelyd gydag Arthur o Gaer Golud. Dywed am frad Cristionogion wrth amddiffyn y mur, am un
Fradychodd Iesu,
Ac ef yn credu.

A darlunia'r gelyn creulawn, yr hwn a ddygodd gysgod ar y byd, ac a wnaeth i fedydd fod mewn enbydrwydd, yn myned
"Ym mhlith oer gethern
Hyd yng ngwaelod uffern."

Dywed y farddoniaeth hon, hefyd, am yr ymdrech rhwng Gwyddel a Brython, am gywreinwaith a hud y naill, ac am fuddugoliaeth y llall, pan ddarostyngwyd Gwyddyl y traeth gan Wledig Cymru,-
"Hudlath Mathonwy
yng nghoed pan dyfwy,
Cynan a'i caffwy Pryd pan wladychwy
."

Yn y farddoniaeth hon y mae y Gwledig yn bob peth, - rhuthr Geraint ab Erbin ym mrwydr Llongborth, cledd a tharian Urien yng Ngwenystrad, ateb Owen ab Urien ym mrwydr Argoed Llwyfein, distawrwydd tywyll plas Cynddylan wedi'r anrhaith. Bob yn dipyn rlioddir yr holl ymladdwyr hyn yng nghwmni eu gilydd, dan un Gwledig. Gwnawd i bob unben yn hanes boreu Cymru ymladd dan faner Arthur, - yn wr y gogledd, yn wr y gorllewin, yn wr y de, ie yn hen dduwiau paganaidd hefyd. Y mae rhestr o'r milwyr hyn yn y Llyfr Du, - y porthor Glewlwyd Gafael Fawr, Cai deg, Mabon Fab Mydron fun gwasanaethu Uthyr, Manawyddan gyda'i ddwys gyngor a'i darian dolciog, Bedwyr a Gwrhyr, ar dewrion fu'n amddiiffyn pob goror yn yr ynys hon. Daeth y rhai hyn i gyd yn wr Arthur, ac yr oedd Arthur yn Wledig ar bawb. Oherwydd fod eisieu amddiffyn y dalaeth drwy ymladd parhaus rhag gelynion oedd yn ymgryfhau bob dydd, daeth y Cymry'n un, a daeth y Gwledig a'i air yn air ar bawb. Yn un o'r caneuon gelwir Arglwydd nefoedd a daear yn Wledig nef goludog.

Rywbryd ar ol yr ymladd rhwng Gwyddyl, Brythoniaid, Eingl, a Saeson, crwydrodd prydydd, Llywarch Hen neu rywun arall, dros y wlad, o fedd i fedd. A darlunia hwynt, - y beddau a wlych y gwlaw ar fro a bryn. Mae Dylan yn huno yn swn y don, a gorffwys Pryderi hefyd lle tery'r tonnau ar y tir. Mae bedd Gwrwawd mewn lle uchel, a bedd Cynan dan gysgod y bryn. Mae bedd Owen ab Urien ym mhellder byd, mae bedd Rhydderch Hael yn Aber Erch.
"Bedd mab Osfran yng Nghamlan,
Gwedi llawer cyflafan;
Bedd Bedwyr yn Allt Tryfan
."

Wedi gwisgoedd coch a chain dyma fedd Owen yn Llan Heledd; dyma fedd da Owen ab Llywarch Hen; ac wedi clwyfau a meusydd gwaedlyd, wedi marchogaeth ceffylau gwynion, onid hwn yw bedd Cynddylan? Mewn ynys y mae bedd cul a hir Meigen ab Rhun, mae bedd Llia Wyddel dan y gwellt a'r dail crin yn Ardudwy. Nis gwyr neb pwy biau'r beddau hir yng Ngwanas; mae bedd Llew Llaw Gyffes, - gwr oedd hwnnw na roddai'r gwir i neb, - wrth y mr.
"Pwy pieu y bedd yn llethr y bryn?
Llawer nis gwyr a'i gofyn.-
Bedd Coel mab Cynfelin."

Y mae bedd yn y dyffryn, a bedd yn y morfa, bedd dan y derw, a bedd dan ael y bryn, bedd isel llednais a bedd enwog, - ac am laweroedd o'r beddau gofyn y bardd,- Pwy pia hwn, a bedd pwy yw hwn? Nid oedd ond un heb fedd,-
"Bedd March, bedd Gwythyr,
Bedd Gwgawn Gleddyfrudd,
Ynfyd son fod bedd i Arthur
."

 

Blaenorol Cynwys y llyfr hwn Adran Cymru Hafan Nesaf
Hanes Dolgellau
Dolgellau History

Hanes Dolgellau Dolgellau History