Hanes Cymru Owen M Edwards Cyfrol 1 Maelgwn Gwynedd

 Hanes Cymru O. M. Edwards - Cyfrol 1

PENNOD VII - BRWYDR CAER.

 

GADEWCH i ni rannu'r amser niwliog yr ydym wedi ceisio tremio iddo yn ddwy ran,- y naill yn gan mlynedd, ar llall yn hanner can mlynedd.

I. 450-550. MAN DYWYSOGION. Erbyn 450 yr oedd lleng olaf Rhufain wedi ymadael, a gafael y ddinas dragwyddol ar Brydain wedi llacio am byth. Cododd pob hen lwyth yn erbyn yr iau haearn; penderfynodd pob tywysog gael coron aur yr hen ymherodraeth; gwelodd y cenhedloedd barbaraidd amgylchai Brydain eu cyfle i ymosod arni,- Gwyddyl yr Iwerddon, Ffichtiaid yr Alban, a thylwythau Teutonaidd isel - diroedd corsiog y cyfandir. Yn y croniclau gwelwn fân lwythau o Eingl yn ymsefydlu hyd oror y dwyrain, gwelwn Wyddyl yn meddiannu traeth y gorllewin. Ni unai'r mân - dywysogion i amddiffyn CAER eu gwlad, ni ymostyngent i un Gwledig. Yn y caneuon boreua cawn hwynt yn ymladd ar wahan, a'u beddau ar wahan. Ym mhen canrifoedd wedyn y gwnaeth dychymyg iddynt ymladd fel y dylasent, dan faner un Arthur; ac nid ydyw Gildas, yr hwn y tybir ei fod yn cyd - fyw ag Arthur, yn son gair am dano wrth adrodd pechodau a chynhennau brenhinoedd ei oes.

Fel yr oedd tylwythau estronol yn ennill tir, a'u sefydliadau yn taro ar eu gilydd, unwyd hwy gan benaethiaid dan eu brenhiniaeth eu hun. Unwyd Eingl y gogledd dan ddau frenin, ac wedyn dan un. Unwyd Saeson y de dan un brenin. A than eu brenhinoedd, dechreuodd yr Eingl ar Saeson ymosod ar y Cymry. Ac yng ngwyneb y perygl, gorfod i'r Cymry hefyd ymuno, a rhoddi ymrannu heibio am ennyd.

II. 550-600. PRIF DYWYSOGION. Yn y flwyddyn 550 yr oedd MAELGWN yn frenin Gwynedd, ac yn dal ei deyrnwialen uwchben Ceredigion, Dyfed, a Morgannwg; yr oedd CYNAN yn frenin Powys, gyda hen enwr Gwledig arno; yr oedd IDA FFLAMDDWYN yn frenin ar Eingl y gogledd; ac yr oedd CYNRIC yn frenin ar Saeson y de.

Yn 547 ymgastellodd Ida Fflamddwyn ar graig Barnborough, ar draeth y gogledd - ddwyrain, unodd yr Eingl, ac arweiniodd hwy yn erbyn y Cymry, - gan eu gyrru, wedi brwydr ar ol brwydr, yn nes i'r gorllewin. Yng nghaneuon Aneurin a Llywarch Hen ceir hanes yr Urien Rheged a'r Morgan Fawr a'r Rhydderch Hael fu'n ymladd yn ei erbyn. Ac yr oedd yn hawdd i Faelgwn Gwynedd, oherwydd buddugoliaethau'r Eingl, deyrnasu ar Wynedd ar Deheubarth, ac heb gweryla a brenin Powys,-rhag eu hofn.

Tra'r oedd Idan uno Eingl y gogledd, yr oedd Cynric yn uno Saeson y de. Yn 552 yr oedd y Saeson yn ymdeithio tua'r gorllewin hyd ffyrdd Rhufeinig redai drwy ddinasoedd ac heibio beddau dros wastadedd Gwent, - Wiltshire y dyddiau hyn,- tua dyffryn Hafren. Yn 577 gwelodd gwŷr yr Hafren fyddin CEAWLIN yn croesi'r Cotswolds tuag atynt. Cwympodd amddiffynwyr y dyffryn ym mrwydr Deorham, ac yr oedd y dyffryn bras, a'i weithfeydd, a'i ddinasoedd goludog, heirdd, at drugaredd y pagan. Cyrhaeddodd Uriconium a Phen Gwern, lle mae'r Hafren yn gadael Cymru ac yn troi tua'r de, - a gadawodd y ddwy ddinas yn garnedd. Bu Uriconium yn garnedd byth, bu ei hadfeilion yn syndod yr ymdeithydd am ganrifoedd, ac yna cuddiodd y ddaear hi. Ac am Ben Gwern, llys Cynddylan, a'n Hamwythig ni, canai Llywarch Hen,-
Ystafell Cynddylan sydd dywell heno,
Heb dân, heb wely;
Wylaf dro, tawaf wedy.

Ystafell Cynddylan sydd dywell heno,
Heb dân, heb ganwyll;
Namyn Duw, pwy im ddyry bwyll?

Ystafell Cynddylan sydd dywell heno,
Heb gân, heb gerddau;
Digystudd deurudd dagrau.

Y ddinas nesaf o flaen Ceawlin oedd Caer, ac arweiniodd ei lu buddugoliaethus tuag ati. Ond yr oedd mwg y dref wen yn y coed ar perygl wedi galw holl luoedd Powys at eu gilydd i amddiffyn tir Brochwel. Cyfarfyddodd y ddau lu yn Fethanlea, yn 584, yn rhywle rhwng yr Hafren ar Ddyfrdwy, ac yno gorchfygwyd Ceawlin yn llwyr. Dinistriodd Ceawlin ddinasoedd ardderchog, cymerodd ysglyfaeth difesur, ond nid oedd i gael anrheithio Caer. Dychwelodd yn ol yn ddigllon i'w wlad, a nerth ei fyddin wedi diflannu; ac ymhen ychydig o amser yr oedd yn alltud o'i wlad ei hun. Ond nid am byth y gwaredwyd Caer. Pan aeth y perygl o'r de heibio, daeth perygl o'r gogledd. Ar ol Ida Fflamddwyn daeth Ellan frenin yr Eingl, daeth Aethelric ar ei ol yntau, ac yn 593 yr oedd AETHELFRITH yn frenin Northumbria a'i Heingl i gyd. Trodd yn gyntaf yn erbyn Gwyddyl a Chymry'r gogledd, ac yn rhywle ar y mynyddoedd orwedd rhwng . Ystrad Clwyd a Northumbria cyfarfyddodd luoedd unedig y Gwyddyl ar Cymry dan lywyddiaeth AIDAN. Yno, yn 603, mewn lle o'r enw Daegsastan, bu ymladdfa galed, a lladdfa fawr. Ddeng mlynedd a thriugain wedi'r frwydr, ganwyd yr hanesydd Baeda heb fod ymhell o'r fan yr ymladdwyd hi. Cafodd ei hanes, maen sicr, gan rai oedd wedi gweled milwyr fu'n ymladd ynddi, a dywed ef fel hyn:

Yr adeg hon yr oedd Aethelfrith, gŵr da ac awyddus am glod, yn rheoli teyrnas Northumbria, ac yn diffeithio'r Prydeiniaid yn fwy na holl wŷr mawr yr Eingl, fel ag y gellid ei gymharu â Saul, ond yn unig yn hyn,- ei fod yn anwybodus am y wir grefydd. Oherwydd gorchfygodd fwy o froydd Prydeinig na'r un brenin o'i flaen,- gan wneyd y trigolion yn w&375;r treth iddo, neu drwy eu gyrru ymaith a rhoddi Eingl yn eu lle. Cywir y gellir dweyd am dano fendith y patriarch ar ei fab,- Benjamin a ysglyfaetha fel blaidd; y bore y bwyty yr ysglyfaeth, ar hwyr y rhan yr ysbail. Wrth weled ei lwyddiant, daeth Aidan, brenin y Gwyddyl syn preswylio ym Mhyrdain, yn ei erbyn, gyda byddin enfawr gref, ond gorchfygwyd ef gan lu llai nai lu ei hun, ac aeth ar ffo; oherwydd lladdwyd ymron yr oll o'i fyddin mewn lle enwog a elwir Daegsastan. Yn y frwydr honno hefyd lladdwyd Eodbald, brawd Aethelfrith, gyda bron yr oll o'r fyddin a arweiniai. O'r amser hwnnw, ni fedrodd un brenin y Gwyddyl ddod i Brydain ar ymgyrch rhyfel hyd y dydd hwn.

Wedi'r frwydr hon nid oedd dim i'w ofni oddiwrth frenhinoedd y gogledd am amser hir, yr oedd terfynau gogleddol Northumbria'n ddiogel. Gwaith nesaf Aetheifrith oedd ymosod ar Wynedd a Phowys, a'u gwahanu am byth oddiwrth eu cyd-genedl yn y gogledd. Prif dywysogion Cymru oedd IAGO, etifedd Maelgwn Gwynedd, a SELYF, mab Cynan Powys. Ymunodd y ddau hyn i achub Caer rhag Aethelfrith, a bu brwydr fawr arall. Felly gellir edrych ar drydydd gyfnod,-

III. 600-613. YMDRECH RHWNG PRIF DYWYSOGION,-yr Angl Aethelfrith, y Gwyddel Aidan, a'r Cymry Iago a Selyf.

Ym mrwydr Caer, yn 613, collwyd y gogledd; ac, o hyn allan, y peth feddylir wrth y gair Cymru yw ein Cymru ni. Y mae i Gaer,- Caer Lleon Fawr ar Ddyfrdwy, - le pwysig yn hanes Lloegr ac yn hanes Cymru. Erbyn hyn y mae Lerpwl wedi cymeryd ei lle fel porthladd y gorllewin, erbyn heddyw nid yw ei muriau yn .werth dim i'r milwr, ac nid hawdd ydyw sylweddoli, heb dipyn o ystyriaeth, fod Caer wedi bod yn un o ddau neu dri lle pwysicaf yr ynys hon. Ei safle wnai Gaer yn bwysig - hi sy'n cysylltu mynyddoedd y gogledd â mynyddoedd y gorllewin, dwy ran fynyddig y Gymru fawr ymestynnai unwaith o enau'r Hafren i enau'r Clyde. Ynddi hi y safai'r Rhufeiniwr i lywodraethu talaeth y gorllewin, a'i law aswy ar y gogledd a'i law dde ar y gorllewin. Iddi hi y doi llongau moroedd y gorllewin, hi oedd clo'r ffyrdd redai yn unionsyth i'r gogledd ac i'r dwyrain dros wastadedd Maelor, ar ffyrdd ymddolennai hyd lan môr Gwynedd ac hyd lethrau bryniau Powys. Yr oedd llawer caer heblaw hon, a llawer caer y llengoedd, ond hi yn unig oedd yn ddigon pwysig i gael yr enw Caer, heb ddim i esbonio pa gaer oedd.

Saif Caer lle mae'r afon Dyfrdwy yn rhoi tro sydyn, gan redeg i'r gogledd orllewin yn llen unionsyth i'r gogledd. Y peth wnaeth i'r afon roir tro hwn oedd bryncyn o garreg goch gyfodai o'r gwastadedd, gan sefyll yn ffordd yr afon. Ar y bryncyn hwn yr adeiladodd y Rhufeiniaid gaer eu llengoedd. Yr oedd yr afon a'i chorsydd yn derfyn ac yn amddiffyniad ar du y de a thu y gorllewin; ac ar y ddau du arall cloddiodd y Rhufeiniaid ffos yn y garreg goch feddal. Yna y tu fewn i'r afon a'r ffos, codasant furiau Caer, - muriau, wedi llawer o drwsio arnynt, sydd yn aros hyd y dydd heddyw.

O Gaer rhedai ffyrdd i bob cyfeiriad, gallai'r llengoedd ymdaith i unrhyw fan y byddai gwrthryfel yn galw am danynt. Un diwrnod gwelid mintai'n cychwyn trwy borth y gogledd tua'r mur, i golli eu bywydau hwyrach yng Nghoed Celyddon; ddiwrnod arall gwelid lleng yn cychwyn ar hyd ffordd y dwyrain, ar eu ffordd adref i Rufain neu i ryw ran arall o'r ymherodraeth; diwrnod arall pasiai lleng drwodd ar ei ffordd i fynyddoedd y gorllewin. Gellir edrych ar Gaer fei y fan lle croesai dwy ffordd eu gilydd, - ffordd o'r gogledd i'r de, a ffordd o'r dwyrain i'r gorllewin,- Caer oedd eu man cyfarfod.

Ond, erbyn 600, nid canolbwynt teyrnas oedd Caer, yn anfon milwyr yma ac acw, ond lle ar oror dwy deyrnas elynol, yn crynnu rhag ofn yr Eingl oedd yn ymfyddino yn ei herbyn. Hwyrach mai Brochwel oedd yn ei rheoli hi ar gwastadedd o'i hamgylch. Dywedi'r mai lluoedd Brochwel ymdeithiodd i Fethaniea i gyfarfod Ceawlin, yr hwn, wedi diffeithio dinasoedd gwych yr Hafren, oedd yn cyrchu tua Chaer, i'w diffeithio hithau hefyd. Brochwel Ysgythrog, tywysog Caer Lleon, y geilw Sieffre o Fynwy ef. Efe hefyd alwodd luoedd Gwynedd a Phowys i achub y ddinas pan oedd gelyn arall, mor fuddugoliaethus a Cheawlin, yn ymosod arni o du y gogledd, pan gyfarfyddodd y Cymry ar Eingl eu gilydd ym mrwydr alaethus Caer.

Gwrandawer yr hanes fel y rhydd Baeda ef, - ganwyd ef driugain mlynedd union wedi'r frwydr. Y mae ei gydymdeimlad â'i genedl ei hun, er eu bod ar y pryd yn baganiaid, ar Cymry'n Gristionogion.

Wedi hynny cynhullodd Aethelfrith, am yr hwn y siaradasom o'r blaen, fyddin enfawr, a gwnaeth laddfa fawr ar y genedl fradwrus honno yng Nghaer y Llengoedd, lle enwit gan yr Eingl yn Legacastir, ond yn fwy priodol gan y Prydeiniaid yn Garlegion (Caer Lleon). Cyn dechrau'r frwydr, gwelodd eu hoffeiriaid, a ymgynhullasant i weddio ar Dduw dros y milwyr, yn sefyll o'r neilltu mewn lle diogelach. Gofynnodd pwy oeddynt, ac i ba beth y daethent ynghyd. Yr oedd y rhan fwyaf o honynt yn dod o Fynachlog Bangor, lle'r oedd dros ddwy fil o fynachod yn byw ar lafur eu dwylaw eu hunain. Yr oedd llawer o honynt wedi ymprydio am dri diwrnod, ac wedi dod gydag eraill i weddio yn y frwydr, dan amddiffyniad rhyw Frochwel, yr hwn a'u cadwai, tra y gweddient, rhag cleddyfau y paganiaid. Pan hysbyswyd i Aethelfrith paham y daethant, dywedodd, - Os ydynt yn galw ar eu Duw yn ein herbyn, yna y maent yn ymladd yn ein herbyn â'u gweddiau, er na chludant arfau. Gorchmynnodd, felly, ymosod arnynt hwy i ddechreu, ac yna dinistriodd y gweddill o'r fyddin anfad, eithr nid heb golli lliaws o'i filwyr ei hun. Dywedi'r fod deuddeg cant o'r gweddïwyr wedi eu dinistrio, ac na ddihangodd o honynt ond hanner cant. Trodd Brochwel ei gefn gyda'r gweddill, ar ymgyrch cyntaf y gelyn, gan adael y rhai ddylasai amddiffyn i gleddyfau'r gelyn.

Dyna ddesgrifiad o'r frwydr fel y cofid hi yn nhraddodiadau'r Eingl, fel yr adroddasid ei hanes gan y milwyr fu ynddi wrth eu plant. Ac y maen debyg y cenid llawer cerdd am dani, darn o gerdd ydyw'r adroddiad sydd yng nghroniclau'r Saeson,-
Aethelfrith led his host to Legeceaster
And offslew Welshmen without number.

Ond cwestiwn naturiol ydyw,- Paham yr oedd Brochwel, tywysog Caer Lleon, yn amddiffyn mynachod o'r neilltu, pan y dylasai arwain y milwyr? A phaham yr aeth ar ffo, hen fuddugwr Fethanlea?

Os trown i'r croniclau Cymreig ac i'r croniclau Gwyddelig, cawn eglurhad. Nid Brochwel, tywysog Caer Lleon, oedd y prif dywysog ar y dydd hwnnw. Yr oedd lluoedd Gwynedd yno, dan arweiniad Iago, fab Beli, fab Rhun, fab Maelgwn Gwynedd; a lluoedd Powys, dan arweiniad Selyf fab Cynan. Am y mynachod yr oedd Baedan meddwl, - y mae ei gydymdeimlad gyda'r Cymry pan gofia am danynt hwy, - a naturiol oedd iddo sôn am Brochwel. Naturiol hefyd oedd i groniclau'r Saeson sôn am dano, - efe oedd amddiffynnydd Caer ac arglwydd y morfa, ac efe hefyd drodd ei gefn. Y maen eithaf tebyg fod Aethelfrith wedi meddwl dychrynnu'r Cymry drwy yrru'r mynachod ar ffo, a dangos na thyciai eu gweddiau ar eu rhan. Digon tebyg fod y Cymry'n meddwl nad ymosodai brenin yr Eingl, er mai pagan oedd, ar y mynachod diniwed, gwŷr nad oedd ganddynt ond eu gweddi, a phan welodd Brochwel y paganiaid yn dod, gwelodd nad oedd dim am dani ond ffoi. Digon tebyg fod yr ymosodiad anisgwyliadwy ar y myneich, y rhai o goron merthyroliaeth a gawsant nefawl eisteddfâu, wedi taflu'r fyddin Gymreig i anrhefn, ac wedi peri penbleth i'r ddau frenin oedd wedi eu gosod yn drefnus ar y gwastadedd ger y ddinas. Ond pan gyfarfu byddin yr Eingl â byddin Selyf ac Iago, aeth yr ymladd yn chwerw; nid heb golled yr enillodd Aethelfrith y dydd, a bur ddau frenin Cymreig farw ar y maes.

Brwydr bwysig oedd brwydr Caer, un o frwydrau pwysicaf hanes Cymru. Yn un peth, gwahanodd Gymru oddi wrth y Gogledd, Teyrnllwg ac Ystrad Clwyd, - fel y gwahanasai brwydr Deorham Gymru oddi wrth Wlad yr Haf. Daeth gwastadedd Maelor yn eiddo i'r Eingl, cyrhaeddodd eu tir fôr y gorllewin. Beth a ddaeth o Frochwel nis gwn. Os y Brochwel fu'n ymladd yn erbyn Saeson Ceawlin oedd, rhaid ei fod yn hen, ac nid oedd ganddo lawer o amser i fyw. Os y Brochwel y dywedi'r iddo farw yn 662 oedd, rhaid ei fod yn ieuanc iawn, a gwelodd lawer ymdrech i ail ennill y gwastadedd. Ond, pa un bynnag, wedi 613, yr oedd Caer yn furiauedig moelion, ar Eingl yn ymdaenu dros y dyffryn amddiffynnai gynt.

Peth arall am y frwydr hon, - llwyddodd Aethelfrith lle y methasai Ceawlin. Gorchfygwyd Ceawlin gan fyddinoedd Caer, diflannodd ei nerth, ac aeth ei Wessex yn ddarnau. Gwnaeth Aethelfrith furiau Caer yn garnedd, torrodd nerth Cymru trwy ei rhannu'n ddwy, gwnaeth ei Northumbria'n ddiberygl. Y canlyniad oedd hyn, - Northumbria, ac nid Wessex, ddaeth yn brif deyrnas Lloegr i ddechreu; yr Eingl, ac nid y Saeson, lwyddodd gyntaf i ennill hen unbennaeth Prydain oddi ar y Cymry.

Peth arall hefyd, - wedi'r frwydr hon, daeth Gwynedd yn bwysicach na Phowys. O hyn allan y mae Powys yn colli tir, a Gwynedd yn ennill.

Gyda brwydr Caer y dechreua hanes ein Cymru fechan ni. Cyn y frwydr hon nid oedd ond rhan o Gymru fwy. Daeth teyrnas Maelgwn a gweddillion Powys yn noddfa olaf anibyniaeth y Cymro. O 613 ymlaen, y mae ein hanes yn meddu undeb di-dor, y mae yn hawdd ei adrodd, ac yn hawdd ei gofio.

Blaenorol Cynwys y llyfr hwn Adran Cymru Hafan Nesaf
Hanes Dolgellau
Dolgellau History

Hanes Dolgellau Dolgellau History