Hanes Cymru Owen M Edwards Cyfrol 1 Colli'r Gogledd

Hanes Cymru O. M. Edwards - Cyfrol 1

PENNOD IX - Y CENHEDLOEDD DUON.

O'r gogledd y tyrr drwg allan ar holl drigolion y tir.

YR oedd brenhinoedd yng Nghymru a Lloegr yn ceisio darostwng is frenhinoedd a thywysogion dan eu gallu eu hunain. Yr oedd yr un ymdrech yn Scandinavia, - y penrhyn hwnnw yng ngogledd Ewrob sydd wedi anfon cymaint o filwyr a meddylwyr i wledydd mwy heulog y de. O'r hafanau dirifedi sydd ar draethell fynyddig gorllewin y wlad honno, ac o'r fforestydd diderfyn ac unig sydd ar ei hochr ddwyreiniol, daeth llu o fr-dywysogion tua'r de yn amser Cynan Tindaethwy ac Offa frenin. Rhy anibynnol eu hysbryd oedd y penaethiaid hyn i aros gartref dan lywodraeth brenin; ac yr oeddynt wedi clywed gan fasnachwyr am hinsoddau tynerach, ac am wledydd mwy ffrwythlawn, ac am drysor diderfyn mewn dwylaw gweiniaid.

Cartref y Cnhedloedd Duon (Ose Fjord, Norwy)

Cartre'r Cenhedloedd Duon
(Ose Fjord, Norway)

Yr oedd y mr-wibwyr hyn yn perthyn i ddwy genedl, - y naill yn bobl dal a goleubryd, y lleill yn bobl fyrion pryd tywyll. Y bobl fyrion ydyw cenhedloedd duon y croniclau. Nid oeddynt wedi clywed yr efengyl, y paganiaid y gelwid hwy gan y Cymry. Ond nid oedd eu paganiaeth yn un chwerw nac yn un erlidgar. Y mae'n wir mai'r eglwysi a'r mynachlogydd oedd eu hoff ysbail, ond y rheswm am hynny oedd mai yn y sefydliadau hyn yr oedd yr aur a'r llestri gwerthfawr. Heblaw hynny, yr oedd y mynachlogydd yn eu cyrraedd, - ar ynysoedd neu ar lan y mr, wedi eu hadeiladu pan mai o ochr y tir yn unig yr oedd y perygl. Dyna paham yr ysbeilid Tyddewi a Llanbadarn a Llan Faes. Yr oedd y Daniaid yn berffaith barod i droi'n Gristionogion os tybient y byddai hynny o ryw elw; a gweddient yn null y Cristionogion weithiau o flaen brwydr, rhag ofn mai hynny oedd oreu iddynt. Yr oedd ganddynt ddwylaw medrus at lawer gwaith,-gwneud cychod, saernio, gweithio brethyn garw, gweithio haearn.
Yr oedd symudiadau eu llynghesoedd yn berffaith drefnus, ac ni welsid byddin erioed fedrasai symud mor gyflym ar dir a mr. Daethant fel llif o'r gogledd, rhannwyd y ffrwd yn ddwy gan yr ynysoedd Prydeinig, - y naill yn mynd hyd y lan orllewinol i ymosod ar yr Iwerddon ac ar Gymru, ar llall yn mynd hyd y lan ddwyreiniol i ymosod ar Loegr a Ffrainc.

Deng mlynedd a phedwar ugain a saith cant oedd oed Crist, ebe Brut y Tywysogion, pan ddaeth y paganiaid gyntaf i'r Iwerddon. Ymosod ar brif ddinas oedd cynllun cyffredin y Daniaid, a pharlysu gwlad felly. Ond nid oedd i Gymru brifddinas; a gwaith y Daniaid oedd ymosod o'r mr tra yr oedd yr Eingl yn ymosod o'r tir.

Wedi ei oes hir a thrallodus, ni adawodd Cynan Tindaethwy ond un ferch. Gŵr o'r gogledd oedd gŵr honno, o'r enw Merfyn Frych; a theyrnasodd yntau yn y blynyddoedd blin rhwng 815 ac 840. Yr oedd y Daniaid yn ymosod yn ffyrnig ar yr Iwerddon a Chymru; yr oedd y Saeson yn ymosod ar Bowys, ac nid oedd ond rhan fechan o honni'n aros. Colli brwydr, marw brenin, diffyg ar yr haul, - dyna hanes teyrnasiad Merfyn Frych.

Anobeithiol iawn oedd yr olygfa gafodd Rhodri ar Gymru pan ddechreuodd deyrnasu yn lle ei dad yn 840. Yr oedd y tywysogion yn ymladd 'u gilydd er fod Saeson, Eingl, a Daniaid yn eu bygwth. Nid ydyw'r hanes rydd Brut y Tywysogion o flynyddoedd cyntaf ei deyrnasiad ond un rhestr o drallodion, - Ac y bu farw Merfyn. "Ac y bu waith Ffinant. Ac y llas Ithel brenin Gwent gan wr Brycheiniog. Deg mlynedd a deugain ac wyth cant oedd oed Crist pan las Meurig gan y Saeson. Ac y tagwyd Cyngen gan y cenhedloedd. Ac y diffeithiwyd Mon gan y cenhedloedd duon."

Yr oedd cyflwr Cymru'n resynus. Ac yr oedd yr amser i'w gwaredu wedi dod. Yr oedd Mercia wedi ei darostwng gan Wessex, ac yr oedd y Daniaid yn dechrau bygwth honno. Yr oedd Rhodri yn un fedrai ddefnyddio ei gyfleusdra; a chyn ei farw yn 877 yr oedd wedi uno Cymru ac wedi ei gwneud yn fwy cadarn nag y bu er marw Cadwallon.

Tra'r oedd y Daniaid yn chwilfriwio pob teyrnas arall o'i gwmpas, medrodd Rhodri Mawr amddiffyn ei wlad rhagddynt. Yn 855 bu brwydr rhyngddo 'r cenhedloedd duon, a lladdwyd Horm eu pennaeth. Wedi hynny aeth y Daniaid i chwilio am frenhinoedd gwannach; troisant i'r Iwerddon, ymosodasant ar Gernyw, a chyn hir yr oeddynt yn bygwth pob un o deyrnasoedd Lloegr. Y mae bron yn sicr fod gan Rodri lynges i amddiffyn y glannau rhag y Daniaid ac i ymuno brenhinoedd yr Iwerddon; ac efallai mai mewn brwydr ar y mr y boddodd Gwgwn, mab Meurig brenin Ceredigion. Tuag 868 yr oedd y Daniaid fel pe ar orchfygu pob congl o ynysoedd Prydain a'r Iwerddon. Yr oedd Dulyn a Chaerefrog wedi cwympo, yr oedd Alclwyd wedi ei gorchfygu hefyd, ac yr oedd y lluoedd paganaidd anorchfygol yn ymbaratoi i ymdeithio tua'r de. Brenin Cymru a brenin Wessex yn unig oedd heb eu gorchfygu. Yn 876 yr oedd Rhodri ar ffo yn yr Iwerddon, wedi ei yrru o'i wlad gan y cenhedloedd duon. Ac yn 878 yr oedd Alfred, brenin Wessex, yn niffeithleoedd Athelney, ar ffo o flaen yr un gelyn. Ond gwanhaodd gallu'r Daniaid, - ymsefydlodd llawer ohonynt ar y tir enillasent, ac aeth lluoedd i ymosod ar Ffrainc, - a daeth Alfred a Rhodri yn l at eu pobl.

Nid y Daniaid oedd unig elynion Rhodri; aml dro yr ymladdodd yn erbyn y Saeson hefyd. Weithiau yr oedd mewn cynghrair 'r Saeson yn erbyn y Daniaid, ond yn amlach na hynny yr oedd y Daniaid yn gynghreirwyr iddo yn erbyn y Saeson. Ac er fod Mercia yn wannach nag y bu, yr oedd hi o gyrraedd y Daniaid, ac yn ymosod ar Gymru o hyd. Yn 864, tra'r oedd y Daniaid yn paratoi i ymosod ar Loegr o bob cyfeiriad, yr oedd y Saeson wedi medru treiddio cyn belled ag Ynys Mn, hoff ynys teulu Cunedda, a dywed un cronicl Gwyddelig fod y Cymry wedi eu gyrru o'u gwlad a'u carcharu yn ynys Mn. Yn ynys Mn, yn ddiamau, yr oedd un o hoff gartrefi Rhodri; a phan ymosodai y Saeson ar Gymru, cychwynnent o Gaer, ymladdent eu ffordd trwy Gonwy, ac ymosodent ar Fn.

Gwaith caletach na chadw'r Daniaid a'r Saeson draw oedd uno Cymru yn un wlad. Ac y mae'n sicr fod Rhodri Mawr wedi llwyddo i wneud hyn. Gwelodd yn eglur y mynnai pob talaeth gael brenin iddi ei hunan yn ogystal brenin holl Gymru. A'i gynllun ef oedd rhoddi ei feibion yn is-frenhinoedd pa le bynnag y gallai. Fel Aetllelwulf, brenin Lloegr, yr oedd ganddo feibion rhyfelgar a galluog. Yr oedd chwech o feibion yn is-frenhinoedd dano; a'r rhai enwocaf oedd Anarawd, Cadell, a Merfyn.

Yn 877 yr oedd y Daniaid wedi crynhoi eu holl nerth i ymosod ar Wessex. Yr oedd Rhodri Mawr wedi ymheddychu hwy, ac ofnai Eingl Mercia yr ymosodai ar Loegr yr un amser ar Daniaid. Tra yr oedd Alfred yn ymladd yn erbyn,y Daniaid, ymosododd Saeson ac Eingl Mercia ar Rodri. Prin yr oedd wedi cael amser i drefnu ei luoedd pan ddaeth y gelyn i ynys Mn. Ac yno, ym mrwydr Dydd Sul, cwympodd Rhodri a'i frawd.

Ceisiodd meibion Rhodri Mawr deyrnasu ar frenhiniaeth eu tad fel yr oedd ef wedi teyrnasu. Gwaith cyntaf Anarawd oedd dial marwolaeth ei dad ac ymlid Saeson ac Eingl Mercia o Gymru. Yng Nghonwy y bu'r frwydr, yn 880, a dialwyd gwaed Rhodri Mawr. Yna gwnaeth Anarawd gyfamod hen elyn ei deulu, Northumbria, yn erbyn Mercia.

Gwaith anhawddach na gorchfygu'r Saeson oedd cadw'r tywysogion rhag gwrthryfela. Gorfod i Anarawd ddiffeithio Ceredigion ac Ystrad Tywi. A theimlad yr holl Ddeheudir oedd fod iau meibion Rhodri'n drom; aeth Gwent a Morgannwg dan iau ysgafnach Mercia; ac yr oedd Dyfed a Brycheiniog wedi dewis Alfred, brenin Wessex, yn hytrach na Chadell fab Rhodri Mawr.

Cyn hir ail ddechreuodd ymosodiadau'r Daniaid, a gorfod i Wessex, Mercia, a Chymru ymuno yn eu herbyn, a chawn Alfred Fawr, Aethelflaed arglwyddes Mercia, Anarawd, a Chadell, yn cyd-ymladd yn eu herbyn. Ddychrynwyd hwynt nes gwneud heddwch 'u gilydd gan enbydrwydd yr amseroedd. Yr oedd y Daniaid eto'n diffeithio Lloegr a Gwent a Morgannwg a Brycheiniog a Buallt a Gwynllwg. Yr oedd haint a newyn yn dilyn eu camrau diffeithiol. Yn yr Iwerddon diffygiodd y bwyd, canys daeth pryfed o'r nef i'w fwyta, a dau ddant gan bob un. Yn erbyn y gelyn newydd hwn, nid oedd gan y Gwyddel ond ympryd a gweddi. Tua 909 ymosododd Daniaid Ingimundr ar ddeheudir Cymru, a gwynebwyd yr arweinydd ffyrnig hwn gan fyddin Cadell a byddin arglwyddes Mercia, chwaer Alfred. Ac yn yr amser hwn bu Cadell farw. Aeth yr ymdrech yn erbyn y Daniaid ymlaen am flynyddoedd lawer, a chollodd llawer un o dylwyth Alfred ac o dylwyth Rhodri Mawr ei fywyd wrth geisio eu cadw o'i wlad.

O Fn i Fynwy ymleddid bob blwyddyn ymron ar y traeth, a llawer un heblaw mab Merfyn gollodd ei fywyd wrth amddiffyn Mn neu Dyddewi.

Bu Alfred farw yn 901, Cadell yn 908, ac Anarawd yn 915, a chladdwyd yr arglwyddes Aethelflaed yng Nghaerloyw yn 918. Rhwng y rhai hyn i gyd, yr oedd gallu'r Daniaid wedi ei ddinistrio am beth amser. Daeth Edward, mab Alfred, i reoli yn ei le. Nid oedd yr un o feibion ac wyrion Rhodri Mawr yn frenin ar Gymru i gyd; ac yr oedd meibion Cadell, brodyr Hywel Dda, yn ymladd 'u gilydd. Ail ddechreuodd brenhinoedd Wessex feddwl am unbennaeth yr ynys.

Yr ydym wedi teithio peth trwy anialwch hanes y nawfed ganrif, - oes Rhodri Mawr ac Alfred. Prif nodwedd y ganrif yw ei hanrhefn, - cenhedloedd yn gadael hen gartrefi ac yn ymosod ar wledydd eraill, hen ddeddfau'n malurio dan draed anghyfraith, tylwyth yn ymladd yn erbyn tylwyth, a deiliaid yn erbyn brenin ymhob man.

Nid anrhefn ac anghyfraith oedd breuddwyd brenhinoedd y ganrif. Tua'r flwyddyn 800, gallasid meddwl y buasai holl wledydd cred yn fuan mewn heddwch, dan gysgod teyrnwialen gref mewn llaw gyfiawn. Yr oedd anrhefn wedi teyrnasu dros wledydd Ewrob; ond, nos cyn Nadolig 800, yr oedd esgob Rhufain wedi gosod coron aur y byd ar ben Carl Fawr, - Siarlymaen y chwedlau. Nid oedd Carl ond arweinydd un o'r llwythau Teutonaidd oedd newydd gymeryd enw Cristionogion, ac nid oedd esgob Rhufain ond arolygwr eglwysi y ddinas fu'n brif ddinas y byd. Yr oedd gan Carl allu milwrol, yr oedd gan esgob Rhufain ogoniant traddodiadau a chyfraith hen allu Rhufain. Ac o 800 allan, yr oedd y ddau i lywodraethu Ewrob, -y naill yn Ymherawdwr a'r llall yn Bab. Trwy rym yr anwariaid oedd wedi dinistrio Ymherodraeth Rhufain, unwyd yr hen ymherodraeth Christionogaeth, a gwelwyd hi'n ymddyrchafu drachefn fel Ymherodraeth Sanctaidd Rhufain. Yr oedd dynolryw i fod dan un gallu gwladol a than un gallu ysbrydol, dan yr Ymherawdwr ar Pab. Ac o hynny hyd ein dyddiau ni, y mae ymdrech rhwng ymherodraeth a rhyddid, rhwng offeiriadaeth a chydwybod. Ymdrech ydyw rhwng hen allu Rhufain ac anibyniaeth cenhedloedd, rhwng gallu milwrol ac athrylith, rhwng awdurdod a rhyddid, rhwng deddf unffurf ac amrywiaeth tyfiant, rhwng ysbryd Rhufain ar y naill law ac ysbryd Athen a Chaersalem ar y llaw arall.

Yr oedd yr un ymdrech yn ynys Prydain. Yr oedd Egbert wedi dod o lys Carl Fawr i'w deyrnas, ac yr oedd wedi penderfynu troi brenhiniaeth llwyth yn ymherodraeth. Yr oedd yr un meddwl yng Nghymru hefyd. Tybiodd Rhodri Mawr y medrai wneud ymherodraeth Gymreig o'r llwythau oedd yn ymladd 'u gilydd dan wahanol frenhinoedd. Dyma oes adfywiad traddodiadau Arthur; tybiodd y Cymry fod iddynt hwythau ymherawdwr unwaith, fel Carl Fawr.

Ofer fu'r ymdrech hon i sefydlu ymherodraeth. Ofer fu ar y cyfandir; rhannwyd tiriogaethau enfawr Carl. Ofer fu yn Lloegr, daeth y Daniaid cyn i Egbert orffen ei gynllun; a phe buasent heb ddod, yr oedd anibyniaeth y tylwythau Anglaidd a Sacsonaidd yn rhy gryf iddynt ymlonyddu dan ymherawdwr. Ofer fu yng Nghymru hefyd; yn fuan wedi marw Rhodri Mawr, os nad cyn ei farw, yr oedd yr anrhefn cynddrwg ag erioed.

Un rheswm am fethiant Rhodri oedd dyfodiad y Daniaid. Pwy fedrai reoli mewn heddwch pan oedd mw^g rhyw hen eglwys sanctaidd yn esgyn mewn rhyw gyfeiriad o hyd? A phwy fedrai weinyddu cyfraith tra'r oedd llongau lladronllyd yn barod i groesawu pob ffoadur, ac i roddi byddin iddo i'w harwain yn erbyn ei frenin?

Ond prif achos methiant Rhodri oedd awydd cryf y tywysogion am fod yn anibynnol. Yr oedd ffyddlondeb y deiliaid i'w tywysogion yn gryfach yng Nghymru, hwyrach, nag yn unlle; a gwaith anobeithiol oedd torri nerth tywysog heb wneud ei genedl yn elynion chwerwon ar yr un pryd. Llwyddodd llawer brenin Cymreig i uno'r tywysogion mewn adegau cyfyng; ond ni lwyddodd brenin erioed pan yn ceisio darostwng eu gallu am byth i'w gyfraith ei hun. Y Norman ddarostyngodd ieirll anibynnol Lloegr; ar estron fu'n allu yn llaw Rhagluniaeth i ddinistrio gallu'r tywysog Cymreig. Ond yn y nawfed ganrif efe ac anrhefn oedd yn llywodraethu.

Cyn y medrid cael gwlad unol dan frenin galluog, yr oedd yn rhaid cael cenedl oleuedig a gwladgar. Ond ni fedrai gwahanol ardaloedd Cymru fyw heb eu tywysogion bach. Cynllun Rhodri oedd rhoddi brenhinoedd iddynt o'i dylwyth ei hun. Yr oedd hyn yn hanner y ffordd rhwng tywysogion anibynnol a brenhiniaeth unedig gref. Hawdd ydyw beio Rhodri am fethu uno Cymru'n un deyrnas. Ond cofier ei anhawsderau. Nid oedd bosibl i lysoedd y gwahanol ardaloedd weithio heb dywysog, ac ni fedrai'r brenin mwyaf teithiol gymeryd lle'r tywysog ymhob man. Ymhell wedi amser Rhodri y daeth y brenin i anfon swyddogion yn ei le; yr unig beth fedrai brenin y nawfed ganrif wneud oedd penodi is-frenhinoedd ffyddlon iddo. Nerth Rhodri oedd nifer ei feibion.

Tybiwyd ymhell ar l amser Rhodri mai efe rannodd Gymru yn Wynedd, Powys, a Deheubarth. Felly, hefyd, y tybiwyd mai Alfred rannodd Loegr yn siroedd. Y gwir yw i Rodri ac Alfred ddefnyddio'r rhaniadau hyn at eu pwrpas eu hunain; ni fuasent yn eu creu.

Peth rhyfedd yw dweud am oes anrhefn mai oes cyfraith ydoedd. Ond dyna'r gwir. Yr oedd y Daniaid wedi parlysu pob braich cyfiawnder, yr oedd gwŷr traws yn rhy gryfion i un llys barn. Ac ymdrech y brenhinoedd oedd adfer cyfraith. Yr oedd Carl Fawr wedi rhoi cyfraith i'w ymherodraeth, dan gyfarwyddyd meddylwyr enwocaf ei ddydd. A cheisiodd brenhinoedd Lloegr a Chymru ei ddynwared. Y mawr, yr hen, a'r doeth, y gelwir ef gan Asser, y mynach Cymreig o Ddyfed ysgrifennodd hanes bywyd Alfred.

Yn Lloegr, Alfred oedd y deddfroddwr. Casglodd hen gyfreithiau, a newidiodd hwy yn l ysbryd Cristionogaeth. Cyfaddasodd hwy hefyd i anghenion ei oes ei hun.

Yng Nghymru, un o wyrion Rhodri Mawr, - Hywel Dda,oedd y deddfroddwr. Teyrnasodd Hywel ar rannau o Gymru rhwng 909 a 950. Gelwir ef gan y croniclau yn frenin Cymru, ond na feddylier oddi wrth hynny ei fod yn frenin ar Gymru i gyd. Ond os nad oedd yn frenin ar Gymru, paham y dywedi'r fod ei ddeddfau yn ddeddfau i Wynedd, Dyfed, a Gwent, yn eu gwahanol dafod ? ieithoedd? Un rheswm ydyw mai arferion llysoedd gwlad wedi eu casglu ynghyd oedd ei gyfreithiau, rhai fuasai'n gyfraith pe bai Hywel Dda heb ei eni erioed. Rheswm arall oedd hwn, - yr oedd yr eglwyswyr yn helpu Hywel i wneud y cyfreithiau'n fwy tebyg i gyfreithiau'r Beibl, ac yr oeddynt hwy'n dweud wrth drigolion pob talaeth mai dull Hywel oedd dull y gyfraith iawn. Wedi anrhefn dyddiau'r Daniaid, da oedd cael yr hen gyfreithiau, wedi eu cyfnewid yn l anghenion newydd yr amseroedd newyddion. Dywedi'r fod Hywel Dda wedi galw tywysogion Cymru at eu gilydd yn yr Hen Dy Gwyn ar Daf, a'i fod yno wedi ail gyhoeddi cyfreithiau ei wlad, gan eu nhewid yn l cyngor y tywysogion ar esgobion. Oddi wrth y cyfreithiau hyn, gellir cael syniad pur glir am ddull bywyd politicaidd Cymru yn y nawfed a'r ddegfed ganrif. Y mae'r brenin erbyn hyn yn bwysig iawn, ac y mae ei weision yn brysur ddod yn weision gwlad. Ond y mae y tywysogion yn bwysig hefyd, ac y mae'n amlwg nas gallai'r brenin wneud fawr ond yn hen ddull y genedl. Syml iawn oedd y syniad am ddrwg, ac am anghyfiawnder, - yr oedd pris cymod yn perthyn i bob drwg gyflawnid, rhyw hyn a hyn o wartheg. Yr oedd i bob rhan o'r corff ei bris, yn l defnyddioldeb y rhan. Nid bywyd oedd bwysicaf, ond bywyd y brenin; ac yr oedd modd talu iawn hyd yn oed am ladd brenin, - can buwch am bob cantref, tarw gwyn a chlustiau cochion gyda phob can buwch, gwialen arian cyhyd a'r brenin, a dysgl aur cyfled a'i wyneb.

Y mae tri phrif gasgliad o gyfreithiau Hywel Dda, - yn nhafodiaith Gwynedd, Dyfed, a Gwent. Casgliad o gyfreithiau y tair talaeth ydyw y rhain, - yn rhoddi darlun pur lawn o fywyd yr oes. Faint o'r cyfreithiau hyn gasglodd Hywel Dda, a faint ychwanegwyd wedyn, cawn weled wrth ymdrin hanes cyfreithiau Cymru.

Dywed y croniclau fod Hywel Dda wedi mynd 'i gyfreithiau i Rufain, i'w dangos i'r pab. Y mae llawer o bethau anhygoel yn hanes y daith hon, ond y mae'n ddigon tebyg i Hywel Dda fod yn Rhufain.

Aeth llawer brenin ar bererindod i hen brifddinas y byd, o Gymru ac o Loegr, yn yr amseroedd hyn.

Pen a moliant yr holl Frytaniaid oedd Hywel Dda, medd Brut y Tywysogion. Ond prin y gellir edrych arno, er clodfored oedd, fel brenin holl Gymru. A ffeithiau digon trist ydyw ffeithiau adeg Hywel Dda. Yr oedd y Daniaid oedd wedi ymsefydlu yn Nulyn yn diffeithio Mn: yr oedd y Saeson yn gwneud mynych ruthr i Gymru, gan ladd ryw dywysog; yr oedd y gwahanol dalaethau yn ymladd yn erbyn eu gilydd.

Rhwng marw Hywel Dda ac amser Llywelyn ab Seisyllt, - o 950 hyd 1010,-nid oedd frenin ar Gymru, ond mn frenhinoedd ar y gwahanol rannau. Ac o bob cyfnod, dyma'r adeg yr oedd yn rheitiaf wrth frenin ac undeb.

Yr oedd y cenhedloedd duon wedi ail ddechreu ymosod ar ochr y mr. Fel o'r blaen, y lleoedd agosaf at y mr oedd yn dioddef, lleoedd y gallai'r Daniaid forio i fyny atynt hyd yr afon yn y nos, a lleoedd y gellid eu cyrraedd yn hawdd o'u llongau, a dianc yn l cyn i'r wlad godi i'w herlid. Lleoedd felly oedd Caer Gybi, Penmon, Aberffraw, Llanbadarn, Llandudoch, Tyddewi, a Llanilltud. Ond yr oedd llynges Seisnig rhyngddynt Chaer Lleon ar Wysg.

Tra'r oedd y cenhedloedd duon yn ymosod ar Gymru o'r mr, yr oedd y Saeson drachefn yn ei bygwth o'r tir. Yr oedd brenhinoedd Wessex yn meddwl ennill unbennaeth yr ynys. Yr oedd Edward, mab Alfred, wedi gorchfygu'r Daniaid, ac yr oedd y Cymry wedi derbyn ei amddiffyniad ef ac amddiffyniad ei dad, yn erbyn y mr-ladron. Ond, yn bur fuan, gwelodd tywysogion y Cymry fod yn well iddynt hwy wneud cyfeillion o'r mr-ladron nag o'r Saeson. Yr oedd cyflwr rhanedig Cymru yn temtio brenhinoedd Wessex i ymosod arni, yr oedd yn hawdd iddynt feddiannu ei broydd brasaf heb i'r broydd eraill gynhyrfu dim.

Bu teulu Rhodri'n weddol unedig; ond pan aethant yn gefndryd, buan y dechreuodd ymladd ffyrnicach rhyngddynt nag a welwyd rhwng dieithriaid hyd yn oed yn y dyddiau hynny. Yr oedd ysbryd anrhefn wedi lledu ei esgyll dros y byd. Yr oedd trais a melldith a newyn yn tramwy trwy'r ddaear. Yr oedd y flwyddyn 1000 yn ymyl. Yr oedd y byd mor ddrwg fel y tybiodd amryw fod ei ddiwedd yn ymyl. Cymysgwyd syniadau'n rhyfedd, - meddyliai pobl am y mil blynyddoedd ac am ddyfodiad y Barnwr i farnu yr oes draws honno.

Blaenorol Cynwys y llyfr hwn Adran Cymru Hafan Nesaf
Hanes Dolgellau
Dolgellau History

Hanes Dolgellau Dolgellau History