Hanes Cymru - Syr Owen M Edwards -
Cyfrol 1
RHAGYMADRODD.
Ail argraffiad ydyw y rhan fwyaf or llyfr bychan hwn o'r penodau
ymddanghosodd yng nghyfrolau cyntaf Cymru. y mae'r cyfrolau hynny wedi
mynd yn brin erbyn hyn; ac nis ceir hwy ond trwy daro bargen ail law; ac
felly y mae'r ffordd yn rhydd i mi ail argraffu'r penodau hanes. Yr oedd
trefn y penodau, fel yr ymddanghosasant, yn gwneyd yr hanes ychydig y
fwy dyrus nag y dylasai fod; yn yr argraffiad hwn y mae'r penodau wedi
eu hail drefnu o'r dechreu i'r diwedd, er mwyn i'r hanes fod yn
gliriach.
Addawodd y rhai sy'n rheoli arholiadau lleol Rhydychen roddi Cymraeg
ar restr eu testynau, ar yr amod fod i'r penodau hyn gael eu cyhoeddi yn
ffurf llawlyfr hylaw. Bwriedir ef hefyd ar gyfer Ysgolion Canolraddol,
ar gyfer y cyfarfodydd llenyddol roddir ymron i gyd i ddysgu hanes
Cymru, ac ar gyfer aelwydydd Cymreig.
Yn y bennod gyntaf rhoddir desgrifiad byr o wlad y Cymry. Y mae'n
amhosibl deall hanes unrhyw wlad heb wybod am ffurf a natur ei daear.
Gall yr athraw ychwanegu at y darluniau roddir o'r mynyddoedd; goreu po
fwyaf o fanylion ddysgir am ddaearyddiaeth a daeareg.
Sylwer mai rywbryd rhwng 577 a 613 y dechreuodd y mynyddwyr alw eu
hunain yn Gymry, a'u gwlad yn Gymru: ond gelwir hwy ar yr enwau hyn o'r
dechreu yn w llyfr hwn, er mwyn eglurder.
Yn yr ail bennod desgrifir y bobl y ffurfiwyd y genedl Gymreig o
honynt. Yr Iberiaid ddaeth i ddechreu, yna'r Gwyddyl Celtaidd, yna'r
Brythoniaid Celtaidd - hwy yw corff mawr y genedl. Yna daeth Rhufeinwyr,
Eingl, Saeson, cenhedloedd duon, Normaniaid, ac y mae dyfodiaid yn dod o
hyd.
Yn y drydedd bennod desgrifir y Rhufeiniaid roddodd atalfa am ennyd
ar grwydriadau'r cenhedloedd tua'r gorllewin. Gwnaethant Brydain hefyd
yn rhan o'u hymerodraeth, gorchfygasant lwythau rhyfelgar Cymru,
newidiasant lawer agwedd ar eu bywyd, a gadawsant ar eu holau deimlad
fod yr ynys yn un, a fod pawb i ufuddhau i un brenin. Erbyn eu
hymadawiad hwy, yr oedd mwyafrif y Cymry'n Gristionogion hefyd.
Yn y bedwaredd bennod adroddir hanes y cenhedloedd Teutonaidd
barbaraidd yn torri trwy'r caerau oedd ar draeth dwyreiniol Lloegr, yn
ennill gwastadedd Lloegr, ac yna yn cau am fynyddoedd Cymru.
Yn y bumed bennod cesglir traddodiadau am yr ymladd rhwng y Cymry a'r
barbariaid, traddodiadau sydd wedi ymglymu yn enw Arthur arwr dychymyg
Cymru
Yn y chweched bennod ceir hanes Maelgwn Gwynedd a'i deulu. Hwy unodd
Gymru gyntaf wedi cwymp y Rhufeiniaid, eu llynges hwy amddiffynnodd ei
glannau, saint eu dyddiau hwy orffennodd ennill Cymru i Grist.
Yn y seithfed bennod adroddir hanes brwydr Caer, - y frwydr
benderfynodd lle yr oedd terfynau Cymru i fod. Y mae hanes dyddorol i'r
hen dref hon, yr olaf o'r dinasoedd mawr Rhufeinig i herio'r barbariaid.
Yn yr wythfed bennod darlunir ymdrech Cadwallon i enill y gogledd yn
ol, ac i wneyd y mur yn derfyn gogleddol i Gymru drachefn. O'r diwedd
cyll y Cymry unbennaetb yr ynys; ac nid yw brenin Cymru onid un ymysg
nifer o frenhinoedd cedyrn o'i mhewn.
Wedi gweled terfynau gweddol eglur rhwng y Cymry a'u cymdogion,
gwelwn, yn y nawfed bennod, elyn newydd yn dod o du'r mor,- y
cenhedloedd duon. Ymosodid ar Gymru'n awr o'r mor ac o'r tir. Rhodri
Mawr oedd prif dywysog y dyddiau hyn; a'i wyr, Howel Dda, gasglodd
gyfreithiau ei wlad.
Yn y ddegfed bennod adroddir hanes dau frenin mwyaf Cymru yn y cyfnod
hwn, - Llewelyn ab Seisyllt a Gruffydd ab Llywelyn
Yn yr unfed bennod ar ddeg ceir cipolwg ar hen grefyddau Cymru; allor
goch y derwydd Iberaidd, yr addoli hynafiaid Celtaidd, yr hen dduwiau.
Yn y bennod olaf amlinellir hanes Cristionogaeth yng Nghymru, - y
tyfu, y trefnu, yr ymrannu, y rheoli gan y saint, yr ymdrech yn erbyn
Rhufain a Lloegr.
Yna rhoddir trem ar ddadblygiad bywyd Cymru hyd 1063, - ei
daearyddiaeth, ei bwystfilod, ei thrigolion, a dull bywyd ei hanes.
|