HEN GYMERIADAU DOLGELLAU A'U TEITLAU

HEN GYMERIADAU DOLGELLAU A'U TEITLAU

Dyma gerdd ar thema llysenwau pobl Dolgellau a gyfansoddwyd ar gyfer cystadleuaeth eisteddfodol tua 1905.
Yr wyf yn gwybod mai fy hen, hen Nain Gwen (Owens) Jones (gan 1841) yw Rhen Gwen Sgadan yn ei siôl yn y pennill olaf. Her-werthwr bysgod oedd ei gwr John Jones Sgadan, math ar bysgodyn ydyw ysgadan (penwaig mewn rhai tafodieithoedd). David Pandy Roberts, Plastrwr (gan 1850) yw'r Dafydd Pandy ym mhennill pump (daw'r enw o enw cartref ei daid, ond  nid llysenw go iawn yw Pandy yn ei achos ef a'i ddisgynyddion gan eu bod wedi mabwysiadu'r enw fel rhan swyddogol o'u henwau bedydd). Braf byddai cael gwybod pwy oedd gweddill y cymeriadau hyn a beth oedd tarddiad eu llysenwau. Os wyddoch rowch wybod imi trwy'r bwrdd negeseuon os gwelwch yn dda.


Wil y Wich a Tomi Neilar,
John bach Star a Bob Ty^ Pric,
Jack un law a Bili ddiog,
Beti Plannwydd ar hen Nic.
Ifan Siân a hithau Shantan,
Beti Ffowc a Beti Sam
Guto Salt a Tom Basgedwr,
Dic Trawsfynydd a'i drwyn cam.

Roli Gec a Griffith Neilar
Dic y Beili a Huw Scwnt,
Yr hen Harri Magnum Bonum
Clamp o Sais - un digon brwnt.
Wedyn dyna Bob Go Blime,
Pwdin Cwrens a Huw Scent,
'Rhen lost guide a Dafydd Pandy
Ar hen Glyff at hel y rhent.

Owen Ych a hefyd Tango,
A John Blwyddyn yr hen lag,
Ike y Guide a Robin Ddaniel,
Yntau Gruffydd Jones y Stag,
Huwcyn Baco a Jac Stintab
Butterfly a Huw Iai Iai,
Nansi Wyllt a Guto Gosi,
John y Brws ar ben y tai.

Dick y Ddinas a Jack Hannah
Cadi Kings a Beti Llawr
Yr hen Lewis Patagonia
Evan Price ac Ifan Fawr.
Ellis Gas a Wil y Popty
Roli Neilar a Jim Goch,
Evan Becca a Twm Werin,
Ar hen Fills y blewia moch.

Guto Ffets ac Owen Conwy
Roberts Dew a Humphrey Sign,
Guto S. ac Owen Tudur
Neli Black a Sara Fain,
Joni'r Sais a Joni'r Angel
Owen Punch a Wil Ce Ce,
Guto'r Bws a Jack Pen Llwdwn
Jumbo Fawr ar hen Bob K.

Dick y Kings a Dick Jones Bowler
Tom Diawl Bach a Robin Do,
Robin Mulp a Dafydd Cnwyllwr,
John Pugh Stumps fel dyn ar ffo.
Lewis Rhys y lleidr beiddgar,
Guto Daddy a Jim Ward,
Hefyd Robert Pugh Pen Mochyn
Ai ben moel fel swigen lard.

Gagae Drot a Dafydd Dolur
A'r Marchogion , dau neu dri,
Ann Penbanc a Kitty Barbar
John Pugh Pipes ar hen Soh Me.
Dic Owen Bach a Dafydd Potiau
Hefyd John Huws Dweud y Gwir,
Ar hen Robin Garthyblwyddyn
A John Clams ar wyneb hir.

Owen dwt ar hen Gwen Gabriel,
Betsan Storws a John Cap Coch,
Siân y Plans a Betty Sidney,
Catrin Lewis efo'r moch.
John Owen Bach ai gelwydd golau
Antony, Kate ar hen Fred Gill,
Mary Evans hefo'r Stondin
Ar hen Goldie here still.


Barmans a Bob Maria
My Lord Clive a Bob yr Hall,
John Pot Mêl a Johnnie Pegws
Rhen Gwen Sgadan yn ei siôl
Grittith Owen Barbar dima
William Williams Burum Sych,
Jack Ty^ Lladd a Harri Tyrnor
A Tom Styllan, potsiar gwych

 

HAFAN
HOME