SENEDD

SENEDD-DY DOLGELLAU

Mae pawb yn gwybod am senedd-dy Owain Glyndwr ym Machynlleth, ond tybed faint o ddarllenwyr Llafar Gwlad sy'n gwybod mai nid hwnnw mo'r unig senedd-dy oedd gan Owain Gyndwr yn yr hen sir Drefaldwyn? Safai'r ail senedd rhyw bum milltir ar hugain i'r dwyrain o Fachynlleth ar diroedd Dolerw ym mhentref Llanllwchaian ger y Drenewydd.

Does dim yn y llyfrau hanes sy'n sôn am Owain yn cynnal senedd yn Llanllwchaian gan mai adeilad a drawsblannwyd yw senedd-dy Dolerw.

Plas-yn-dre yw'r enw ar yr adeilad ac fe arferai sefyll ynghanol tref Dolgellau ar safle presennol siop T.H. Roberts, Parliament House Ironmongers gyferbyn â gwesty'r Ship.

Er ei bod yn annhebygol bod Owain wedi cynnal senedd - yn ystyr gyfoes y gair - yn Nolgellau, mae'n wybyddus ei fod wedi danfon llythyrau o'r dref yn 1404 yn apwyntio John Hanmer, ei fab-yng-nghyfraith, a Gruffudd Young, archddiacon Meirionnydd, yn genhadon i lys Siarl, brenin Ffrainc. Cyn penodi llysgenhadon, mae'n debyg bod y tywysog wedi cynnal rhyw fath o gyfarfod gyda'i brif gynghorwyr. Siawns mai mewn adeilad o safon, megis neuadd Plas-yn-dre y cynhaliwyd y cyfarfod hwnnw.

Parhaodd Plas-yn-dre i fod yn adeilad o safon am flynyddoedd wedi dyddiau Owain G1yndwr. Bu'n gartref, ar un adeg, i'r Barwn Lewis Owen, yr hwn a laddwyd gan  Wylliaid Cochion Mawddwy, ond erbyn saithdegau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg roedd yr adeilad yn dechrau dirywio. Roedd y simdde yn simsan, roedd y to yn gollwng ac yr oedd rhannau o'r gwaith coed yn pydru.

Yn 1875, ffurfiwyd pwyllgor o bwysigion tref Dolgellau gyda'r bwriad o drefnu ail adfer y senedd-dy a'i droi'n amgueddfa sirol i Sir Feirionnydd. Penderfyniad cyntaf y pwyllgor oedd comisiynu pensaer i baratoi arolwg o'r eiddo, i lunio adroddiad ar yr hyn oedd ei angen i atgyweirio Plas-yn-dre ac i roi amcangyfrif o'r gost o wneud y gwaith.

Cafwyd adroddiad trylwyr gan bensaer o'r enw A.B. Phipson o Firmingham ym mis Rhagfyr 1875

.

Llun: drwy garedigrwydd Archifdy Meirion, Dolgellau

Barn y pensaer oedd bod rhannau helaeth o Blas-yn-dre yn perthyn i'r l4eg ganrif, ac felly ei fod yn sefyll yn nyddiau Owain Glyndwr. Nododd, hefyd, bod yr adeilad yn cynnwys nifer o nodweddion o bwys hanesyddol a oedd yn werth eu cadw yn annibynnol a'u cysylltiad â'r tywysog, pethau megis ffrâm, drws a cholyn wedi eu naddu o un darn o goed. Ei amcangyfrif o gostau atgyweirio oedd rhwng £150 a £200, swm pitw am achub adeilad o bwys hyd yn oed yn y dyddiau hynny.

Wedi derbyn adroddiad Mr Phipson gwnaed penderfyniad rhyfeddol a thrychinebus gan y pwyllgor. Penderfynwyd mai da o beth fyddai prynu ac atgyweirio'r adeilad, ond mai gwell oedd peidio â chynnal cyfarfod cyhoeddus i'r perwyl hynny rhag ofn iddi darfu ar apêl a oedd yn mynd rhagddi yn Nolgellau ar y pryd i godi arian at sefydlu Ysgol Dr Williams, ysgol fonedd i ferched.

Diwinydd o Wrecsam oedd Dr Daniel Williams, dyn heb unrhyw gysylltiad o gwbl â Dolgellau. Bu farw yn 1716 gan adael swm sylweddol o arian yn ei ewyllys at addysgu'r tlodion yng ngogledd Cymru. Defnyddiwyd yr arian yn wreiddiol i sefydlu saith o ysgolion elfennol ar hyd a lled y gogledd. Erbyn 1870, roedd addysg elfennol yn cael ei ariannu gan drethiant, gan hynny penderfynodd ymddiriedolwyr yr elusen i grynhoi gwaddol yr ysgolion elfennol er mwyn adeiladu ysgol uwchradd i ferched.

Roedd Samuel Holland, A.S. Meirion, yn benderfynol bod yr ysgol honno am fod yn Nolgellau yn hytrach nac yn Wrecsam (y lle mwyaf addas ar ei chyfer) na Chaernarfon (a oedd hefyd yn ymgiprys amdani gan fod un o'r ysgolion elfennol yn perthyn i'r dref). I sicrhau llwyddiant Dolgellau sefydlodd yr A.S. gronfa i godi £1,000 at godi'r ysgol a digon o bres i brynu dwy erw o dir fel safle iddi.

Wedi codi digon o arian i sefydlu'r ysgol roedd y brwdfrydedd dros achub Plas-yn-dre wedi pylu.

Yn 1885 gwerthwyd yr eiddo i Mr Pryce Jones o'r Dolerw (Syr Pryce Pryce-Jones wedyn) arloeswr gwerthu dillad trwy'r post a pherthynas i Robert Owen y diwygiwr cymdeithasol.

Dymchwelwyd yr hen senedd-dy a'i ddanfon gyda'r trên i'r Drenewydd lle'r ailgodwyd ef ar dir Dolerw.

Yn anffodus doedd y grefft o ail leoli adeiladau heb gyrraedd y safonau a ddefnyddir bellach mewn amgueddfeydd megis Sain Ffagan a phrin yw'r tebygrwydd rhwng y plas a ailgodwyd a'r un a ddymchwelwyd.

Mae'r ysgol a adeiladwyd yn hytrach na chadw trysor cenedlaethol wedi cau. Prif safle Coleg Meirion-Dwyfor yw Ysgol Dr Williams bellach, a does yna ddim yn Nolgellau heddiw i nodi cysylltiad y dref a'n harwr cenedlaethol ar wahân i Parliament Square a Glyndw^r Street fel enwau ar ddwy o strydoedd y dref.

Alwyn ap Huw

Ymddangosodd yr erthygl hwn yn wreiddiol yn y cylchgrawn

LLAFAR GWLAD

Darllen anhepgorol i bob un sy'n ymddiddori yn hanes a diwylliant gwerin Cymru

HAFAN