DIWRNOD YN NOLGELLAU -Arweiniad i mewn

DIWRNOD YN NOLGELLAU.

ARWEINIAD I MEWN.

NID oes gangen o wybodaeth yn fwy diddorol, a derbyniol gan y darllenydd nag hanesyddiaeth. Trwy hanes y caiff yr efrydydd deithi y pethau a fu, cymeriad y gwrthddrychau a egyr o'i flaen, a dylanwad yr hynodion hynny mewn natur a chymdeithas ar bersonau a chyfeillachau, fel ag i newid osgo a thueddfryd y sylwedydd er ei well, neu er ei waeth. Yma mae'r perygl yn doriannu, i dda neu i ddrwg, gan y gwrthddrych allanol ar a huda serch neu ddymuniad yr ymwelydd, gan ei berthynas â phechod, neu ddaioni, eithr o bydd gras a rhinwedd yn y galon, yn yr ysbryd a'r pen, yna tebyg y bydd i hoffwr gwrthddrychau fyw ar degwch, neu werth yr unrhyw er ei lesâd, gan achub ei hun rhag y drwg ar niweidiol.

Addefir gan yr hanesydd a'r hynafiaethydd nad oes llannerch fwy diddorol, mwy amrywiol ei harddangosiadau gan natur gain yng Nghymru na Dolgellau. Y mae ei hamrywiaeth gan natur, ac encilfa dawel i anwesu pob meddwl o bleser, a fuasai olaf yn ildio ei Chymraeg i estron, ac yn ddiwethaf yn y byd i achlesu un peth o eiddo meib Hengist, gan mor selog a ffyddlon ydyw i ddefion Cymreig a gwladgarwch Gymröaidd. I ymwelydd â Dolgellau am ddiwrnod, cenfydd y sylwedydd craff, ac a fyn werth ei geiniog, mannau i fwynhau ei hun yn ei ymyl, ar werth pa rai y casgl fêl i'w gwch, tra caiff y teithydd pymthegnos, neu fis, leoedd o hyfrydwch i chwaeth dda a phur, pellach allan i hel mwynhad a chyfoeth meddyliol a ad-dala iddo ar eu degfed, fel y caf nodi yn y tudalennau canlynol.

DOLGELLAU YN EI HENW A'I NODWEDD.

Saif y dref hon, sydd farchnad-dref a phlwyf, yng nghwmwd Tal-y-bont a Mawddwy, rhwng dwy afon o'r enwau Wnion ac Aran, braidd at ymuniad y diweddaf â Mawddach, ac ar fynwes dyffryn ffrwythlon a phrydferth o amrywiaeth natur, gan gusanu troed Cader Idris, ac a fedr, fel hen Fam hybarchus yn Sir Feirionnydd, roddi her i unrhyw dref arall yng Nghymru am fangre dlysach i orweddian, yng nghanol teleidion natur a chelfyddyd, llai o droseddau cymdeithasol, a mwy o ymlyniad mewn popeth a drych gymeriad Gwalia a'i thrigolion.

Bu cyll (lluosog o collen ) mewn helaethrwydd yma unwaith, os nad eto, a dyma'r rheswm i'r hen Gymry syml a llygadog roddi yr enw hwn i dref a orweddai ar ddol lawn o'r coed hynny, a rhoi enw arall estronol iddi fuasai cyrchu dwfr dros afon, a cheisio gwadu'r ddawn Gymreig.

Saif Dolgellau ar brif-ffordd Trallwm ac Abermaw, a rhestri'r hi yn fwy poblog a chanolog ei sefyllfa nag un dref arall yn y sir. Mae perffeithiad celfyddyd mewn adeiladu wedi gwneud i ffordd a'r hen anedd-dai to gwellt, ac eraill anolygus a rhyfedd, a thai heirdd a chostfawr wedi eu codi ar ei heolydd afreolaidd, culion, croesion ac anghyson eu gosodiad.

Ysgrifennydd arall a ddyry'r darnodiad canlynol o'r dref:- Un o brif drefi sir Feirionydd ydyw Dolgellau, ac nid oes yn y sir gydgasgliad digonedd o annedd-dai i wneud bwrdeisdref-tref wedi ei chodi ar yr hyn oedd gynt yn Ddol o gyll a dyna paham y gelwir y fan yn Nolgellau. Y mae yn lle diddorol ar lawer ystyr. Gelwir hi weithiau yn ben tref y sir, am, mae'n debyg, fod yno neuadd sirol, er bod y Bala yn ymffrostio yn yr unrhyw urddas, ac am i'r carchar sirol fodoli yno am gyfnod maith; ond y mae Dolgellau wedi colli hyd yn nod yr anrhydedd a'r flaenoriaeth honno. Perthyna i'r lle ar hyn o bryd fwrdd lleol, neu, os gwelwch yn dda, gyngor dinesig erbyn hyn; ond sefydlwyd y cyfryw, mae'n ddiau, yn rhy ddiweddar i osod trefn a dosbarth ar gynlluniau y dref, yr hon sydd yn hynod am ei heolydd culion, croesion, a gosodiad anghyson y tai, amryw o'r rhai ydynt henafol a dilûn.

Dywedir gan Mr Bingley, efrydydd colegol o Ddolgellau, yr hwn yn ystod ei ymdaith yn un o drefi Lloegr, a ymffrostiai yn nhegwch ei dref enedigol, iddo gael her i ddisgrifio sut le oedd Dolgellau. Wel, mi a ddangosaf i chwi, meddai, gan gymeryd gafael mewn costrel oedd yn ymyl, ac yna torrodd amryw gyrc yn fan ddarnau. Wedi hyn bwriodd y cyrc ar ben y botel nes oeddynt yn blith draphlith ar y bwrdd. Dyna Ddolgellau, meddai: yr eglwys ydyw y botel, ac y mae'r tai a'r heolydd yn union yr un modd ag y mae'r darnau cyrc ar y bwrdd.

Saif y dref ddiddorol hon ar lan yr afon Wnion, cyn iddi ymarllwys i'r Mawddach, a rhed yr afon Aran, a ffrydiau hynod eraill, yn amgylchoedd eraill y dref. Ymgyfyd Cader Idris a'i thrumau ar un llaw iddi, tra mae palasau enwog Hengwrt, Nannau, Caerynwch, Bronygadair, Bryn Adda, Garthyngharad a nifer eraill ar wahanol lechweddau y bryniau sydd yn amgylchynu y Ddôl.

Yn y dref ar un cyfnod y bu Owen Glyndw^r yn cadw ei Senedd, ond y mae olion yr adeilad hwnnw bron wedi diflannu.

Adeilad pwysig ynddo yn awr, ac a welir yn ein darlun o'r dref, ydyw Ysgol Dr Williams, sefydliad addysgol i enethod, a godwyd o arian a ewyllysiodd Dr Williams yn gyntaf i dref Caernarfon, ond oherwydd claearineb y trefwyr yno a gymerwyd i fyny yn eiddgar gan drigolion sir Feirionydd, ac a sefydlwyd ar lan yr Wnion.

Gallwn sicrhau ein darllenwyr nad oes anad le yng Nghymru mor doreithiog mewn golygfeydd rhamantus, hanesyddiaeth diddorol, a swyngyfaredd - canys onid yn yr ardal hon y mae lle yr aur? Na'r doldir hyfryd ar ba un y saif Tref y Cyll.

Gwnaed atgyweiriadau pwysig yn y lle Mehefin, 1830, gan Syr R. Vaughan, gydag adeiladu heol o'r enw Eldon Terrace, ac y mae eraill wedi codi'r cynllun, a mynnu heolydd o dai annedd lanwedd a theg, â syn addurn gan gelf a gwybodaeth.

Ceir dwy farchnad wythnosol yma ar ddyddiau Mawrth a Sadwrn, a chynhelir 14 o ffeiriau, dyddiadau pa rai, a chyfnewidiadau y rhai hyn, os digwydda hynny, a chwilia'r ymwelwr yn dra buan o'n Halmanaciau. Cynhelir Sesiwn yr haf, Chwarter Sesiwn y Pasg, a Gw^yl Mihangel, tros y sir, yn y lle, ond fel rheol, ychydig a fydd nifer y rhai a brofir, ac aml heb un i'w ddwyn ger bron, yn y Sesiwn wag am drosedd o unrhyw fath.

Ymlapia'r dref o dan fynyddoedd uchel a bryniau ban; ar lethrau y rhai hyn y ceir coedwigoedd helaeth, yn llawn o adar gwylltion yn cadw'r cyngherddau gorau a fedd ein byd. Dyfrhei'r godre pob coedfa gan yr Wnion, yr hon a chwardd wrth daflu ei phen ar fynwes ei chwaer-afon Maw, yn ymyl Llanelltyd, ar hon afon eto sydd y darlun cywiraf o sarff, yn ei cham-ystum a'i throadau aml a sydyn. Naid hon allan trwy groen daear Trawsfynydd, ac a ymwylltia i lawr trwy'r Ganllwyd. Oddi tan y Pistylloedd ymferwa'r Cain iddi. Yn narnau ucha'r Ganllwyd, yng Nglyn Eden, neidia'r Eden i'w mynwes, yna rhed yn llawn gwenau trwy Waelod y Glyn, pan cofleidir hi wrth Llanelltyd gan yr Wnion. Am brydferthwch hyhi a'i gororau ystyrir y cyfryw yn nesaf at lennydd y Rhine, o un lle ym Mhrydain, a geiriau Syr R. C. Hoare am danynt yw, eu bod "yn anarluniadwy o arddunol a thlws".

Mae pentref Llanelltyd fel ar haner tyfu, - fel plentyn a'r rickets arno, heb nemor i alw sylw namyn ysgol ddyddiol ar yr ochr ddeheu i'r bont, siop a'r Eglwys blwyfol, ac i'w mynwent yr "hidlwyd llawer cenhedlaeth", a bu llawer o'i dyddiau yn cydredeg â eiddo'r hen Fynachlog hybarch ac unig a gorffwys draw ar ei chyfer, oddi wrth ddyddiau ei gweinidogaeth.

Mae'r Eglwys yn gysegredig i Illtyd Farchog (Iltutus), fab Bicanys, o chwaer Emyr Llydaw, ac un a wnaeth enw iddo ei hun ym moreau oes am ei orchestion milwraidd. Brodor o Lydaw ydoedd, a daeth efo Garmon hyd Lys Arthur Frenin, ac yn fuan perswadiwyd ef gan Catwg Ddoeth i arwedd buchedd grefyddol. Bu'n bennaeth ganddo ar athrofa Côr Tewdws, yr hon a sylfaenwyd gan yr Ymerawdwr Tewdws (Theodosius). Dinistriwyd athrofa Llanelltyd Fawr (Caerworgorn) gan y Gwyddelod paganaidd, a dygasant Padrig gyda hwynt i'r Iwerddon, a dyma eu hapostol wedi hynny.

Dygodd Illtyd welliant mewn garddio, - yn lle ceibiau a'r aradr orsang dygodd gyfryngau mwy pwrpasol i aredig. Ystyrid ef yn noddwr pymtheg o eglwysi a chapeli. Yn ôl y Cambrian Biography, gan Dr. W. Owain Puw, bu farw yn y flwyddyn 480 O.C., a chladdwyd ef, medd traddodiad, yn Bedd Gw^yl Illtyd, yn sir Frycheiniog. Choffeir ei w^yl, yn ôl Cressy, Chwef. 7.

Mae golygfeydd teg ac amrywiaethol Llanelltyd hyd y Bermo yn brydferthwch byw - dolydd, dyffrynnoedd, y mân fryniau bân, a'r creigiau crog y'nt mewn cystadleuaeth beunydd i ryfeddu'r ymwelydd o chwaeth bur.

Mae dyffryn Dolgellau yn un o'r rhai glanaf a phrydferthaf ag y gellir meddwl am dano, yn meddu ar olygfeydd ar ardaloedd pell hyd gyflawnder, yn eu cyfoeth, mawredd ac amrywiaeth. Mae rhodfeydd y fangre swynol yn rhamantus a niferog, a dyma a rydd gyfrif, yn ddiau, am y lliaws ymwelwyr a ddaw yma bob haf o wahanol mannau o'r deyrnas.

Ystyrir plwyf Dolgellau yn 16 milltir o hyd a 4 o led; gwelir felly mai rhimyn cul ydyw, a llawer ohonon fynyddig a bryniog, yn llawn o lwybrau defaid ac ebolion, a nifer helaeth o fân lynau ynddo, o ba rai y caiff y bobl dlodion gymeryd tân-mawn a choed.

A'r weithred Seneddol, yn 1811, enillwyd chwe mil o aceri o dir gwael ac ysgymun: ac y mae Dolgellau wedi cael y blaen ar bob lle arall am ei brethyn a'i gwlanen, neu y Wê Gymreig, a bu cynifer a 1400 o ddynion mewn cyflawn waith â'r gorchwyl hwn.

Cychwynnwyd y gweithfaoedd yma cyn teyrnasiad Iago I., a daeth eu rheoleiddiad i gyfrif pwysig yn nheyrnasiad Siarl I. Gwelwyd 130,000 o ysgubau, neu fwrneli (bundles), yn cynnwys 110 o lathenni mewn hyd, ar loriau y gweithfaoedd hyn, y rhai a ddanfonid mewn llongau i Lerpwl, Carolina Ddeheuol, Charleston, a rhannau eraill ; eithr daeth y dyddiau hyn i lwyr derfyniad oddeutu y fl. 1793, pryd yr ail-gychwynwyd y fasnach ag Amwythig, gyda chario'r brethyn yno mewn pedrolfeni.

Y mae crwynyddiaeth yn fasnach bwysig yma hefyd, mwynyddiaeth mewn plwm, efydd ac aur - (Gwynfynydd, cofier), eithr mae'r draul o agor coffrau y trysorau wedi llesteirio yr anturiaethydd ers llawer dydd, fel nad oes sôn mwyach am ail gynnig am y buddiannau cuddiedig, oddieithr am Waith Aur nodedig Llanfachreth.

Yn 1862 dyry Mynydd y Clogau, a saif cydrhwng Dolgellau a'r Bermo, aur a chopr i logellau yr anturiaethwyr; gwerthwyd gwerth oddeutu £70,000 o'i aur i Ariandy Lloegr.

Tybir, ar adeg gwrthryfel fawr 1642 -46, i'r gronfa Gymreig uchod mewn aur gyfrannu lawer o'i darganfyddiad gwerthfawr i Siarl I., tra na sonnir am hyn ond mewn traddodiad, eithr Sir Aberteifi a gaiff y clod am hynny, ac am y talpiau euraidd a ddygid i fathdy Aberystwyth i wneud penaduriaid o'r teyrn a enwyd. Dygid darnau teir-punt allan a bwysent 411 o ronynnau, ar ddyddiad 1644 arnynt. Dygai dair pluen ar un wyneb, a'r plu a nod y bathdy ar y llall. Yr argraff yn llawn ydoedd :- CAROLVS D:G:M. AC: BRI: FRA: ET HIBER: REX. Yna ardeb o ran uchaf o'r brenin, a'i ochrau yn troi i'r de, wedi ei goroni â arfogaeth. Yn ei law ddehau y mae cleddyf, a changen olewydden yn ei aswy. Ar yr wyneb arall ceir-o EXVRGAI. DEVS. DISSIPENTVRFNI MICI. Yn llinellau ar y canol ceir- RELIG: PRO: LEG : ANG: LIBER. PAR. Yna y rhif 111, a'r plu uwch ben, a'r dyddiad 1644 oddidanodd. Credaf fod llawer o'r bathau hyn yn gadwedig ynghudd yn Nolgellau a'r cylchoedd.

Wedi trem frysiog fel yna ar y dref yn rhannol, cymeraf yr ymwelydd yn erbyn ei law i weled disgrifiad Fuller o Ddolgellau yn ei Worthies in Wales :

1.The walls thereof are three miles high.

2.Men go into it over the water; but

3.Go out of it under the water.

4.The steeple thereof doth grow therein.

5.There are more ale-houses than houses.

Y modd yr eglurir y pum dychymyg (enigmas) uchod ydyw fel hyn :- The first is explained by the mountains which surround the place; the second implies that on one side of the town there was a bridge, over which all travellers must pass; and the third, that on the other side they had to go under a wooden trough, which conveyed water from a rock, at a mile distant, to an over-shot mill. For the fourth he says, the bells, if plural, hung in a yew tree; and for the last, that tenements were divided into two or more tippling-houses, and that even chimneyless barns were used often for the same purpose.

Pellter Dolgellau o'r . Bala 18 milltir.

"

Abermaw 10

 "

Caerlleon 57

 "

Machynlleth 15

"

Maentwrog 18

 "

Towyn 16

Yn ôl Cary Itenarary of the Great and Cross Roads in England and Wales, 1798, trafaela'r stage coaches fel y canlyn o Ddolgellau i Lundain a Manceinion: a'r hen ffordd heibio capel Bethel (A.), Dwyryd, ac oddi dan Rhug, a Chorwen :

nifer y milltiroedd o Ddolgellau i Lundain

Llwybr y Llythyr-gerbyd o'r Brifddinas hyd Ddolgellau a olygid uchod, a'r pellter o'r lleoedd a nodir mewn milltiroedd a ffyrlongau. Wele'n canlyn eto groesffyrdd y goach fawr o Fanchester i Ddolgellau..

 Your ALT-Text here

A'r tafarnau y byddys yn aros ynddynt er diwallu'r teithwyr, a newid ceffylau oeddynt :-Dolgellau: Golden Lion. Drws y Nant:Hywel Dda. Bala: Bull. Corwen : Owen Glen-dwr. Llangollen: Hand. O'r ochr arall: Cannon Office Inn ; Caernarfon: Hotel.

Yn awr galwaf sylw'r ymwelydd at y gwrthddrychau canlynol :-

YR WNION  (GWYNION).

Ar faes llên a barddas arddela beirdd o fry eu hunain ar enw'r afon brydferth hon, nid amgen Glan Wnion, Dolgellau, a'r Parch. E. Wnion Evans, Derwenlas, Machynlleth.

Dyfrheir coedwigoedd a dyffryn y dref gan yr afon dlos hon, ag sydd fâs a llydan, ac a red oddi dan Ddolgellau, tros ba un y ceir pont o saith-bwa-maen, a sylfaenwyd yn 1638, ond yn ddiweddar a helaethwyd, ac a ehangwyd. Una â'r afon Mawddach yn ymyl Llanelltyd, oddeutu dwy filltir islaw. Rhed y Maw, neu'r Fawddach, o'r mynyddoedd, yn y gogledd-ddwyrain, gan gyfeirio a rhedeg hyd Llanelltyd, ac y mae hi a'r Wnion yn gyfoethog o eogiaid a brithylliaid.

Medi 8fed ar 9fed, 1903, trwy dymestl enfawr o wynt a glaw, bu i'r Wnion a'r Aran neidio dros eu herchwynion a haner boddi'r dref. Yn Heol-y-bont mesurwyd y dyfroedd yn yr annedd-dai yn chwe throedfedd. Nofiai counters y maeldai a dodrefn y tai, a gwelwyd yr Aran yn gwneud llwybr newydd iddi ei hun ger Swyddfa'r Goleuad. Cyfrifid dyfnder y dyfroedd cythryblus ger Pont y dref yn 15 troedfedd, a bu i'r genllif ddinistriol torri'r bont yn ddwy. Y grôg-bont newydd o haearn, a godwyd ar draul o £100 gan y dref, a gariwyd oll ymaith, a chwalwyd oddeutu 150 o lathenni o Reilffordd Cwmni'r Great Western cydrhwng Dolgellau a Drws y Nant.

Ger pont yr Wnion saif Gorsaf Rheilffordd Cwmni y Great Western o Gaerlleon i'r Bermo, lle ei chysylltir â'r Cambrian. Agorwyd y darn rheilffordd o'r Bala i Ddolgellau oddeutu 34 mlynedd yn ôl.

LLYS Y DREF.

Cyfodwyd yr adeilad rhagorol hwn yn 1825, gyda'r draul o £3000. Mae'r oll o'r ystafelloedd wedi eu trefnu allan yn y modd gorau gogyfer a'r oll o'r hedd-swyddogion. Ceir yn y brif-ystafell ddarlun godidog o Syr R. W. Vaughan, o waith brws a phaent y talentog Syr M. A. Shee, R.A., gynt Llywydd yn yr Athrofa Frenhinol. Hyd y Llysdy ar ei wyneb yw 72 tr. ac 8 mod., a saif yng nghyrraedd murmuron di-baid yr Wnion. Ceir yr hen Lysdy, dan nodau trymion henaint, ger porthi dwyreiniol y corfflan, yn Lombard Street, ai wasanaeth heddyw yw bod yn swyddfa cyfreithwyr.

Y CARCHAR,

A'i ystafelloedd aml ac eang, a adeiladwyd yn 1811, gyda'r draul o £5000. Bu i'r carchar hwn gael ei hynodi trwy ddienyddiad yr Hwntw Mawr, am ladd lodes, forwyn, ger Talysarnau, oddeutu 90 mlynedd yn ôl; yna Cadwaladr Jones, am lofruddio a darnio Sarah Hughes, oed 37, morwyn i'w dad, yn Nghefnmwsoglog, Meh. 4, 1877. Dienyddiwyd ef ar ddydd Gwener, Tach. 23, a'r croeso a gadd y crogwr (Marwood) gan y dosbarth isaf o'r trefwyr ydoedd, ei hwtio, a'i ddilyn â chawod o dywyrch, pa un wedi ei ddiogelu gan yr heddgeidwaid a chael i'r trên, a'u llongyfarchai â Dydd da, a gobeithio y câi ddyfod i ymweled â hwy oll yn fuan drachefn.

Bu y diweddar Ieuan Ionawr yn turnkey yma am hir flynyddau. Gwr sarrug, ac o dymherau blinion ydoedd Ieuan, a phan garcharwyd y diweddar Dewi Hafhesb am adael ei wraig a'i blant, yn ddiamddiffyn, disgwyliai'r englynydd medrus fwy o diriondeb ganddo nag i eraill o'i gyd-garcharorion, yng nghysgod llên a barddas, ond yn hyn fei siomwyd ef. Gwneuthum englyn iddo, meddai Dewi, ac adroddais ef wrth y cythraul yn y drws wrth ymadael, a diau yr ysgyrnygai'r hen warder hynny o ddannedd oedd ganddo ar yr englynydd pert. Weler englyn :-

Hen wyneb Ieuan Ionawr.- o'm blaen
Saif i'm blino'n, ddirfawr
O'r hen dennyn melynwawr,
Gwag ei fol, efo'i hen geg fawr.

Nid gwiw i'r ymwelydd ddisgwyl taro'i lygaid ar unrhyw droseddwr o fewn i'r adail enfawr hon heddyw, na chlywed sw^n troed torrwr deddf yn myned i mewn na dyfod allan, oblegid y mae hen garchar Dolgellau, wedi ei hir wasanaeth, yn cyfrannu rhyddid, anrhydedd a mwynhad cyfreithiau Prydain Fawr, fel ag y gellid ei osod i lawr ar fap Meirion a'r byd.

Y Crocbren o'r nennawr a dynnwyd i lawr
Fe'i gwnaed gynt i grogi; yr - hen Hwntw Mawr,-
A weithian heb arswyd fe'i Codwyd mewn cell
Swydd newydd roed iddo, ddiguro, ddau well
Ni chrogir ym Meirion ddim lladron rhag llaw -
Na chreulon, annhirion lofruddion dan fraw
Alltudir hwy bellach fel bawiach y byd.
I ganol gwlad estron, yn gaethion i gyd.

Y PERIGLOR DY

A genfydd y teithydd am yr afon Wnion a'i phont, ar lethr chwith y ffordd a arweinia am y Bala. Mae'n dy^ cryf a rhagorol ei olwg, ac y mae wedi newid preswylwyr yn lled aml yn y blynyddoedd diweddaf.

Yr un a fywiai ynddo yn ystod helynt y Parc ydoedd y diweddar Hybarch Canon E. Lewis (Deon Bangor, wedi hyn), ac efe oedd cysurydd ysbrydol Cadwalader Jones. Meddai Mr Lewis ar ysbryd lletygarol, a throdd allan draethawd ar yr Olyniaeth Apostolaidd, yn y fl. 1869, ond ei arddelwad wrtho ydyw "Offeiriad Cymreig" yr hyn i'm tyb i, a arwyddai nad oedd gan yr awdur fawr o gred yn ei nerth ei hun. Ceir rhifires fawr o esgobion, &c.yn ffurfio'r gadwyn, ond ugeiniau ohonynt yn bydredig trwyddynt. Cynnyrch y ddadl frwd a fu cydrhwng y Deon a'r diweddar Dr W. Davies (W.), Bangor, ar faes yr Herald Cymraeg, ym 1859, ar Uchel-Eglwysyddiaeth yw y llyfr uchod, a'r ddarlith ar y testun uchod a draddodwyd ym Methesda gan Mr Davies, ac a gyhoeddwyd yn llyfryn 6ch.

Perigloriaeth yw y fywoliaeth, yn Archddeoniaeth Meirionydd, ac esgobaeth Bangor, ac yn nhadogaeth y Goron. Neilltuwyd tua phum erw o dir, a achubwyd oddi ar afradlonedd yn y fl. 1811, o gylch tair milltir i'r dref, at wasanaeth gweinidogion yr Eglwys Wladol.

Y periglor presennol yw J. Lloyd.

EGLWYS ST. MAIR

Sydd adail brydferth, ac wedi ei gwneud o galchfeini amrywiol, o gynllun Groegaidd, ar uchaf y tir, yng nghanol y dref, yn helaeth gyda thwr ysgwâr, clychau, ond heb addurniadau mewnol nac allanol.

Ym mynwent hon tery'r ymchwilydd â chofadail hen a hynod, yn dwyn ardeb (portrait) o fonheddwr mewn arfogaeth a chi yn ei ymyl, yn coffáu teulu henafol Fychaniaid o Nannau, sef Meurig ap Fychan ab Ynyr Fychan, y pumed mewn achau o Cadwgan ap Bleddyn ap Cynfyn, preswylydd Nannau, a disgynnydd o honno ef yw boneddigion y lle hwn heddiw. Darlinir ef mewn gwisg fail (holow dress), cledd yn ei law, arf-dariain yn cario llew, ac yn drwyn yr arwyddair, Hic JACET Mauric Filius Ynyr Fychan, hynny yw Yma gorwedd Meurig fab Ynyr Fychan.

Y mae parwydydd yr eglwys yn orlawn o dabledi, rhy luosog i'w gosod yma, o un i un am wahanol foneddigion, hen a diweddar, o'r plastai a geir yn britho cymoedd y dref, ac yn eu plith feddargraff helaeth yn y Lladin,i'r Parch. J. Jones, Archddeon Meirionnydd. At yr oll cyfeiriaf Ymwelydd â Dolgellau, er diddori ei feddwl a meddiannu rhagor o gyfoeth i'w ben, i'r cysegr hwn, i'w darllen oll yn ystyriol

YR YSGOL RAMADEGOL.

Saif yr ysgol hon yn Penbryn, a sylfaenwyd yn 1665, gan y Parch. John EIlis, D.D., periglor y plwyf, gan roddi cymynrodd o dyddyn o enw y Penrhyn yn Llanaber, er addysgu 12 o fechgyn tlodion : gadawodd Y Parch Ellis Lewis waddol, a gyfrifir yn ddyddiedig Awst 21ain, 1727, yr hwn ficer hefyd a roddodd dyddyn a elwir Cilgwyn, yn Llandrillo - yn - Rhos, a £50 at adeiladu ysgoldy. Ychwanegwyd drachefn £300 gan yr Hybarch Tamerlain, y periglor diweddar. Eglwyswr a benodir Swydd hon gan offeiriaid Dolgellau, a gofynnir iddo raddio yn Rhydychen neu Gaergrawnt, ac nid all dderbyn swydd Eglwysig ar wahân i'w alwedigaeth. Gwnaed atgyweiriad cyflawn ar yr ysgol hon yn 1852.

CWRT PLAS YN Y DREF

Sef gweddillion hen Senedd-dy Owain Glyndw^r, a erys ym mhlith siopau eang, ger gwesty'r Ship. Cynhaliodd Owain ei Senedd yma yn 1404, wedi iddo syrthio i gynghrair gyda Siarl I, brenin Ffrainc. Yn ystod y rhyfeloedd cartrefol, pa rai a fu'n achos, neu achlysur i farwolaeth Siarl, ymgymerodd dosbarth neilltuol, oddeutu 100 o'r milwyr brenhinol, âr gorchwyl o godi gwarchae'r dref, er ei amddiffyn oddi wrth y galluoedd Seneddol, ond hyn a rwystrwyd gan Ed. Fychan, yr hwn oedd arweinydd ei restr ymosodol, ar un hefyd a chwalodd y terfysgwyr, gan gymeryd eu blaenor yn garcharor.

Gair am Owen Glyndw^r. Ganwyd yr arwr byd enwog hwn Mai 28ain, 1349. Hanai o du ei dad, Gruffudd Fychan, o Bleddyn ab Cynfyn, tywysog Powys, ac o du ei fam, Elin, ferch Tomos ab Hywel, o Llewelyn, tywysog olaf Cymru. Talfyriad yw Glyndw^r o Glyn Dyfrdwy, a cheir ei dreftadaeth ac olion ei balas yn aros eto ger Llansantffraid-Glyndyfrdwy; ond ei brif balas ydoedd Sycharth, wrth Lansilin.

Ei wraig oedd Margaret, merch i Syr Dafydd Hamner, o Sir Fflint, un o farnwyr ieuainc Rhisiart II. Dengys wrhydri dihafal fel cynghorydd mewn câd, ac fel cyfaill i'w gydgenedl, dros ei hiawnderau cynhenid, a'i hannibyniaeth genedlaethol. Anfonodd ei Ganghellydd, Gruffydd Younge, LL.D., Archddeon Meirionydd, a Syr John Hanmer, ei garennydd, yn llysgenhadon drosto i Baris at Siarl, a ffurfiwyd cynghrair rhyfel, ym mha un yr ymgyfenwai yn Dywysog Cymru.

Dechreuai ei gylchlythyr o *Senedd-dy Dolgellau fel hyn :- Owinus Dei gratia Princeps Walce. Datum apud Doleguelli 10 die mensis Maii, MCCCC., quarto, et principatus nostri quarto. Arwyddwyd eu papyrau yn Nolgellau, a chadarnhawyd hwy gan Glyndw^r yn nghastell Llanbadarn, Ion. 12fed, 1405, a chawsant y derbyniad mwyaf brwdfrydig gan y Canghellydd Ffrengig ai gyd? swyddogion. Wedi hyn, safodd Ffrainc o'i blaid fel y graig ddiysgog, a bu iddynt daflu y cynorthwyon gorau iddo ef ai gydgenedl orthrymedig, mewn gwahanol gadau o'r pwys mwyaf mewn buddugoliaeth.

Dangosodd y gwroldeb uchaf ar y cadfaes efo Rhisiart II. a Harri IV., ac nad dyn ydoedd i chware ag ef, pan roddid rhyddid gwlad ac iawnder cenedl gyfan yn y clorian, er - gwaethaf y ddau frenin a nodwyd, a Reginald de Grey, Ieuan ab Meredydd o Gefn y Fan, a Hwlcyn Llwyd o Lynllifon, dau elyn calon iddo. Gwnaeth "Y Croesau", dernyn o dir gerllaw Rhuthun, yn asgwrn y gynnen i dynnu gorsedd Prydain a'i phenaduriaid yn ei ben, er amddiffyn ei wlad, a tharo traha y Saeson i'r llawr, a bu llwyddiannus am flynyddau i dorfynyglu anghyfiawnder estroniaid, ac i dynnu gyddfau yr hen genedl o iau caethiwed. Llosgodd Rhuthun,---lladdodd ugeiniau o Saeson o gylch mynydd Pumlumon. Dioddefodd swydd Drefaldwyn yn enbyd ganddo; llosgodd y brif dref ar Trallwm, a lladdodd 60 o geidwaid Castell Maesyfed, - chwalodd y Saeson ar lannau'r Hafren,-lladdodd 2000 o Saeson o dan Grey ar lannau'r Fyrnwy,- cymerodd Grey yn garcharor a deolodd ef yn garcharor i Eryri, llosgodd Gefn y Fan, a Glynllifon, a mynachlogydd Bangor a Llanelwy,-gorchfygodd Syr Edm. Mortimer,-daliodd Syr Dafydd Gam, ei fradwr ai frawd - yn - nghyfraith, a chaethiwodd ef am 10 mlynedd, - bu'n ymguddio'n min môr wrth Langelynin, yn Ogof Owen, lle porthid gan gyfaill o fonheddig o'r enw Ednyfed ab Aron, a chanodd Iolo Goch, ei fardd, Gywydd i Owen Glyndw^r wedi ei,fyned ar ddifancoll.

Gwersyllodd ar Woodbury Hill, naw milltir o Worcester, gan gael ei gynorthwyo gan y Ffrancod, i wrthladd y Saeson, yn 1405 (Awst 7fed), a daliodd ei dir i wrthsefyll holl allu Lloegr gydag arfau Ffrainc (yn achlysurol), a gwenau'r Ysbaeniaid, hyd 1415. Bu Glyndw^r farw yn nhy^ ei ferch yn Monington, Medi 20fed, 1415, yn 61 mlwydd oed, a'r holl genedl a alarodd am dano Dechreua cywydd Iolo Goch i Glyndw^r fel hyn :-

Y gwr hir, nith gâr Harri,
Adfyd aeth, a wyd fyw di ?

Ceid cywyddau eraill iddo gan yr un awdur-y naill cyn iddo godi mewn rhwysg yn erbyn Harri, ar llall pan oedd ef fwyaf ei ddylanwad. Lloegr Gorchestion Beirdd Cymru, tud. 1 14-7-9, Arg. H. Humphreys. Ni chaniatâ gofod i ni gyfleu ei Lythyrau ef a H. Percy oddi yma at Frenin Ffrainc, er cystal eu diddordeb, - - eithr ymofynned y darllenydd am danynt yn yr hen Wladgarwr, Cantref Meirionydd, a llyfrau eraill. Methai y diweddar Mr - - Wynne, Peniarth, a chael y Cwrt yn foreuach na'r 16eg ganrif, na Mr A. B. Phipson ef tros y 15fed ganrif, ond adnabyddid ef o hynny i lawr gan y bobl â'r enw Senedd?dy Owain Glyndw^r; ond, modd bynnag, tynnodd y Bwrdd lleol ef i lawr yn 1881. Pe trosid ef yn gywreinaf, buasai'n gaffaeliad gwerthfawr i'r dref.

* Am hanes diddorol a darlun o'r Senedd-dy (gweddillion yr hwn a erys eto) ym Machynlleth, Lloegr Y Gwladgarwr, 1836, tud. 37; ar un yn Nolgellau yn Ngweithiau Glasynys, 1898, casgledig gan Mr O. M. Edwards, M.A

YR ADDOLDAI YMNEILLTUOL.

Y METHODISTIAID CALFINAIDDIDD

Saif Bethel, capel prydferth a helaeth y Methodistiaid Calfinaidd, yn Smithfleld Street, ac a adeiladwyd yn y flwyddyn 1877, gyda'r gost o £2500. Deil gynulleidfa o 2000. Rhif yr eglwys yw 260, a'r gweinidog yw y Parch. R. Morris, M.A., B.D.

Ymddengys i'r Methodistiaid Calfinaidd bregethu eu hathrawiaeth gyntaf yn Nolgellau yn 1766, a phan ymwelodd y cenhadon cyntaf cawsant y dref mewn cyflwr ysbrydol tra isel, ac felly y parhaodd - hyd y Diwygiad Methodistaidd. Dywed Methodistiaeth Cymru na chafwyd hanes gymaint ag un offeiriad duwiol a glân ei foes wedi bod yn gweinyddu yn y dref, ond fod yr oll yn treulio bywyd anllad a phenrhydd! Bu y llafurus ar hynod Hugh Owen, Bronyclydwr, a Mr Kenrick yma yn pregethu yn y Ty^ Cyfarfod, fel ei gelwir hyd heddyw; ond er eu hymdrechion a'u diwydrwydd ni chaed yr ysgogiad cyffredinol: achubwyd ambell un trwy eu gweinidogaeth, eithr yr un oedd ansawdd foesol y dref hyd ddechrau'r 18fed ganrif.

Bu Hywel Harris, Daniel Rowlands (lletyai ef mewn siop yn ymyl y Liverpool Arms), Vavasor Powel, Peter Williams, Mr Ffoulkes (o'r Bala), Mr Evans (Llanuwchllyn), Mr Jones (Llangan), Lewis Evan (Llanllugan), a John Owen (Berthengron), yn cynnig y newyddion da i'r trefwyr. Danfonwyd yr olaf allan o'r dref heb gymaint â chael rhoi gair o gyngor i'r ychydig saint a'r pagan erlidwyr, a dywedir mai mewn corlan defaid ar Fryniau'r Eglwys, yn Llanelltyd, y bu ef a nifer fach o frodyr yn cynal cwrdd eglwysig, gan ddechrau oddeutu haner nos.

Bu i ymyriad deddf gwlad leddfu gryn lawer ar fôr tonnog erledigaeth, a chawn i'r Efengyl daflu ei dylanwad ar galonnau a phennau y bobl, fel ag y bu i erlidwyr crefydd ddyfod i ganmol goruchwyliaeth gras a gweinidogion y Testament Newydd. Hefyd, mae gan yr enwad hwn ei Salem, ar ffordd y Gader, dan ofal ei gweinidog llafurus, y Parch. R. Ernest Jones - eglwys amlwg mewn gweithgarwch a rhif.

Y TREFNYDDION WESLEAIDD.

Cenfydd yr ymwelydd gapel tlws a gwerthfawr yr enwad hwn yn Wesley Street. Addoldy mor ddiweddar ar fl. 1880 ydyw; gwariwyd £3000 arno, a chynhwysa 600 o eisteddleoedd, a rhifa'r eglwys 160. Y gweinidogion ydynt y Parchn. D. Thomas, Dolgellau; J. Cadfan Davies, Bermo, &c., a nifer o bregethwyr cynorthwyol. Cylchdaith Dolgellau, a gweinidogaeth symudol.

Yn y fl. 1802, daeth y Parchn. O. Davies, Wrecsam, a J. Hughes, Aberhonddu, i'r dref, a phregethodd Mr Hughes oddi ar y garreg farch ger y Plas?newydd, oddi wrth Ioan iii. 16. Pregethodd yn gryf ar Gariad Duw. Wedi hyn ymwelodd y Parch. E. Jones, Bathafarn, a Mr W. Parry, Landegái, â'r lle, a phregethodd y naill oddi wrth Actau xxviii. 22, ar llall oddi wrth Jona xi. 9. Pregethasant drachefn gerllaw y Plas-isa, ar nos Sul ar Llun canlynol yng nghapel y Crynwyr, yr hwn oedd ddwy filltir yn y wlad.

Yr ymweliad nesaf ydoedd eiddo'r Parchn. J. Maurice a G. Owen, a phregethasant ill dau yn y PIas-isa, ac yn fuan drachefn daeth Mr E. Jones, a nodwyd, a phregethodd gydag arddeliad mawr. Pregethodd drachefn wrth y Bont?fawr, yn nhy^ Hywel Jones, lle buwyd yn cynal oedfeuon gras am 25 mlynedd; yna symudwyd i Fron heulog, a Mr Jones oedd y cyntaf i sefydlu y gyfeillach eglwysig, ar noson y'i galwyd gyntaf ymunodd 52, ac yma buwyd yn pregethu am ddwy flynedd, sef hyd y cafwyd y capel cyntaf, yn 1806. O hynny hyd yn awr bu llawer codiad a chwymp yng nglyn â'r enwad hwn; profodd aml un o'r aelodau yn anffyddlon, daliodd eraill eu tir yn rhagorol.

Bu baich o ddyledion a chyfrifoldeb yn drwm ar ysgwyddau'r brodyr ffyddlon, ond trwy ras ac amynedd lloriwyd y pethau hyn gan gariad Duw, fel ag y daeth yr Arch i orffwys yn ysgafnach ar feddyliau a chydwybodau y rhai ffyddlon a selog, fel y gallasent lawenhau a dywed, O'r Arglwydd y mae hyn oll, a rhyfedd yw yn ein golwg ni.,

YR ANNIBYNWYR.

Yn ôl Annibyniaeth Cymru, tud. 452, ceid Dolgellau yn un o orsafoedd arbennig yr hyglodus H. Owen, Bronydydwr, bob tri mis, yn y Ty^ Cyfarfod. Bu gweinidogaeth yr Annibynwyr yn absennol yma am gan mlynedd wedi marwolaeth Mr Owen, ond wedi ymsefydlu o Mr Pugh yn weinidog yn y Brithdir, pregethid ganddo ef a gweinidogion y cylchoedd yn y dref. Pregethid yn Llanelltyd cyn dechrau yma, a deuai aelodau oddi yno i gynorthwyo'r brodyr.

Yn Mhenbrynglas y dechreuwyd pregethu gyntaf (Ebrill, 1808), pryd y prynodd Mr Pugh addoldy'r Methodistiaid Calfinaidd yn y dref, a'r tai perthynol am £500, a bu'r ddwy blaid yn pregethu yn yr un lle, hyd nes yr oedd capel y M. C. yn barod. Evan Jones, tad Ieuan Gwynedd, oedd y cyntaf i ddechrau'r aelodaeth eglwysig.

Gwelodd yr achos aml chwyldroad chwerw, rhai aelodau brwdfrydig ar y cychwyn, ond yn flin â'u gilydd, ac yn cefnu ar eu Duw a'u haddoldy, ond eraill yn dal y ddrycin fel y derw diysgog ar lawr dôl. Bu ymdrechion Mr Pugh yn rhagorol ym mhlaid yr achos: talodd £60 trwy gasgliad yn Llundain. Bu Mr Pugh farw Hydref 28ain, 1809. Ymledai darn o wlad 18 milltir o hyd, a 12 o led, o Ddrws-y-nant i'r Abermaw, ac o Fwlch oerddrws i'r Ganllwyd heb weinidog i'r achos hwn ar y cyntaf, ar holl eglwysi dan ddyled, oddigerth Rhydymain: £230 ar gapel Brithdir, trwy'r ty^ newydd a adeiladwyd gan Mr Pugh; £20 ar Lanelltyd; £160 ar gapel y Cutiau, a £300 ar gapel Dolgellau. Casglodd Mr W. Hughes, Dinas Mawddwy, £100 yn Neheudir Cymru; Parch. J. Roberts, Llanbrynmair, £20 yn yr Amwythig; Parch. W. Williams, y Wern, £40 mewn gwahanol leoedd.

Mr Cadwaladr Jones, myfyriwr yn Athrofa Wrecsam, - ydoedd y gweinidog cyntaf yma, yr hwn a fu'n haul a thad i'r achos yn ei holl rannau, a than ei weinidogaeth ef y cychwynnodd y Mri. O. Owen, Rhesycar, ac E. Evans, o Langollen, i feysydd eu gweinidogaeth. Y diweddar Mr Thomas Davies, o'r Green, a gyfrifid yn Apostol yr Ysgol Sabothol. Gwr o'r Castell march, Llanrhaeadr Ym Mochant, ydoedd, ac awdur Hyfforddwr yr Ysgol Sul, o'r hwn yr argraffwyd gwerth £100 o gopïau. Ei olynydd ffyddlon oedd Mr, Thos. Davies, o Athrofa Aberhonddu, a urddwyd Gorffennaf 21, 22, 1858. Symudodd ef ym mhen pedair blynedd i eglwys Saesneg Painswick, Caerloyw, a bu'r eglwys heb weinidog am flynyddau.

Caed addoldy newydd prydferth ar ffordd Penbryn, o werth £2000, trwy'r tir, ac agorwyd ef Meh. 4ydd ar 5ed, 1868, a'r flwyddyn ganlynol daeth Mr E. A. Jones, Llangadog, yn weinidog iddo, yr hwn a urddwyd gan y Parchn. J. Williams, Castell mawr; J. M. Davies, Maescwnwr; J. Jones, Machynlleth; W. Griffith, Caergybi; J. Roberts, Llundain; W. Roberts, Aberhonddu; N. Stephens, Sirhowy, a W. Rees (Gwilym Hiraethog) Ganwyd Cadwaladr Jones yn Deildreuchaf, Llanuwchllyn, Mai, 1783, a bu farw Rhagfyr 5ed, 1867, yn 85 mlwydd oed. Cyhoeddwyd cofiant diddorol am dano gan y diweddar Barch. R. Thomas (Ap Fychan).

Y gweinidog presennol-Parch. W. Parri Huws, B.D., er y flwyddyn 1896.

 

Y BEDYDDWYR.

Saif eu capel yn Heol y Gader, o'r brif-ffordd, ychydig lathenni ar y chwith. Dwg y dystiolaeth ganlynol :-

Capel Juda,
A adeiladwyd A.D. 1800.
A ailadeiladwyd 1839.
 O Arglwydd ein Duw,
yr holl amlder hyn a barotoisom ni i adeiladu i ti dy^ i'th enw sanctaidd;
o'th law di y mae, ac eiddo ti ydyw oll.

Agos ar ei gyfer, ar y chwith, fel yr eir i'r dref, ceir capel Seisnig yr Annibynwyr (Rev. H. N. Henderson).

Y SWYDDFEYDD ARGRAFFU.

Saif Swyddfa Y Goleuad (perchennog, Mr E. W. Evans) yn Smithfield Lane, ar gyfer gorsaf rheilffordd y Great Western, er y fI. 1877; a Swyddfa Y Dysgedydd a'r Dydd, yn Heol Meurig: perchenogion, Mri. W. Hughes ai Fab. Dyma hen argraffdy R. Jones, John Pugh, tad y diweddar Mr D. Pugh, cyfreithiwr, Treffynnon; Evan Jones, ar argraffydd presennol yn gwneud y pedwerydd. Troi'r o'r Swyddfeydd hyn weithiau safonol, mewn arddull ragorol, ac nid oes yng Nghymru weithfaoedd i argraffu llyfrau o nodwedd uwch gan un cyhoeddwr nac anturiaethwr.

Y LLWYN.

Saif y palasdy henafol ac adfeiliedig hwn ar fin y dref, o fewn ergyd dryll i Ddolgellau, ac yn y darn gogleddol o honni, a ger y ffordd a arweinia y teithydd i ac o'r dref i'r Bala. Y trigiannydd yw John Evans.

Y mae i'r ty^ hwn ei hanes hynod a ganlyn :-Yn nheyrnasiad Harri'r VIII. preswylid y Llwyn gan Lewis Owen, neu y Barwn Owen, fab Owen ab Hywel ab Llewelyn, Ysw. Hanai o'r cyff anrhydeddusaf yng Nghymru. Meddai ar etifeddiaeth o £300 y flwyddyn, yr hyn y pryd hynny oedd yn swm gwych ac uchel. Am y naill gyfrif a'r llall, penodwyd ef gan Harri'r VIII. yn Is-ystafellydd a Barwn-Ganghellydd Gwynedd. Bu'n Sirydd Meirionydd o 1546 hyd 1555, ac yn Aelod Seneddol o 1547 hyd 1552 a 54.

Ceid cymdogaeth Llanymawddwy, y pryd hwn, yn llawn o wehilion cymdeithas, dihirwyr lladronllyd, yn cael eu gwneud i fyny o herwhelwyr (poachers) ac ysbeilwyr wedi ffoi i'r parth hwn o'r wlad, i ddilyn eu harferion drygionus, trwy ladrata neu ladd; a'u bod ar waith, yn ôl y Brut, yn amser Cadwgan ab Bleddyn ab Cynfyn, ac Owain ei fab, yr hwn a elwid Owain Fradwr, a Syr Owain, oblegid iddo fyned i Lys Lloegr a chael parch ac urddas. Ar ôl dianc oddi yno, a gwneud llawer byd o ystrywiau anfad, efe a ddechreuodd y Gwylliaid; a bernir i epil ei garennydd Gwilym Goch, Arglwydd Mawddwy, fod yn cadw i fyny'r ysbeiliaeth am oesoedd. Bernir mai cwlion anfad Rhyfeloedd y Rhosynnau oedd y ffoaduriaid hyn, wedi taro ar fangre dawel ac unig i fanteisio ar eu harferion drwg. Ai y rhai hyn i faes ffermwr a dygent oddi yno fuwch, neu ddafad, ac ni feiddiai neb eu beio, ac yr oedd y parth hwn wedi ei droi yn lloches lladron, ac yn encilfa ysbeilwyr o'r fath waethaf.

Wedi hir gwyno a dioddef, anfonodd y Llywodraeth orchymyn i'r Barwn Owen, a Siôn Wyn ab Meredydd o'r Gwedir, i wneud cais at lanhau y wlad oddi wrth y giward ysgymun hyn, a'u chwalu, bob copa walltog, yn hen ac yn ieuanc, trwy rym deddf, a gorchymyn y brenin. Gorchymynnod L. Owen i fagad o wy^r arfog wneud eu hymddangosiad ger ffeuau'r drwgweithredwyr, a rhuthro ar Wylliaid Cochion Mawddwy, ar y 25ain o Ragfyr-nos Nadolig; a'r canlyniad fu i 80 ohonynt, ar lanerchau Mawddwy, y Dugoed, a Mallwyd, gael eu cymeryd yn garcharorion, a chael eu cosbi yn ôl eu haeddiant. Y rhai a ddihangodd a benderfynasant ymddial o'u cuddfannau yn y Dugoed.

Ym mhen ychydig amser wedi'r rhuthr hwn, bu raid i'r Barwn fyned i Frawdlys Maldwyn (i'r Amwythig, neu Drallwm, meddid), ac i aflwyddo ei ffordd taflodd y mileiniaid ddarnau o goed ar draws y fynedfa mewn glyn coediog, er manteisio ei ddyfodiad ef a'i osgordd a'u gwyliadwriaeth ddyfal. Pan wnaethant eu hymddangosiad, danfonodd y gwaed-gwn gawod o saethau atynt, un o ba rai a aethai trwy ben Lewis Owen, fel ag y bu farw'n ddi-oed.

Ffodd pawb am eu bywydau oddigerth câr iddo, John Lloyd o Geiswyn, gan amddiffyn y corff, ac ni chadd ef un niwed nac anhap. Dyddiad yr anffawd farwol ydoedd Hyd. 11, 1555. Wedi hyn, cododd y wlad oll yn eu herbyn, a mynnwyd eu diwreiddio oll, wreiddyn a changen; lladdwyd llawer ohonynt fel creaduriaid direswm, a gweddillion angau ohonynt a ddihangasant i Wanas, at gâr iddynt o'r enw Siôn Rhydderch, yr hwn a'u cuddiodd mewn tas wair, dros ysbaid, ond a'u bradychodd wedyn i law deddf, eithr eraill a adawsant y wlad, ac ni  chlywyd gair amdanynt mwyach.

Dywed Gwilym Berwyn yn Y Perl, Awst, 1901, fod Mr O. Owen, Hendre, Abergynolwyn, a brodor o Dalyllyn, Meirion, ac a anwyd yn 1812, yn ddisgynnydd o'r Barwn Owen, ac y gall olrhain llinach ei henafiaid rhai cannoedd o flynyddau yn ôl; ac y medr iacháu dyn ac anifail, asio esgyrn, trwsio briwiau, a thynnu dannedd cystal â nemawr feddyg.

Fel y canlyn yr englynodd Meurig Ebrill i'r plas uchod :

Llwyn eirian, gwiwlan, golau,- Llwyn siriol,
       Llawn o sawrus flodau:
   Llwyn enwog gerllaw Nannau,
   Llwyn y beirdd a'u llawen bau.

Llwyn hen ydyw'n llawn hynodion-llachai,
       A lloches cantorion:
   Llwyn deiliog dan frigog fron,
   Llwyn eurawg yn llawn aeron.

Llwyn prydferth, mawrwerth i Meurig-nesu
       Bob noswyl arbennig;
   Llwyn destlus, trefnus, lle trig
   Difalch a rhydd bendefig

.

Man annwyl yw'n min Wnion,-y ffriwdeg
       Loyw ffrydiawl afon:
   Canfyddi'r mewn cain foddion
   Lwyni heirdd hyd lannau hon

Gerddi rhosynog urddawl,-a llawnion
       Berllenydd cynyrchiawl,
   Pêr ffrwythau, llysiau llesawl,
   Dillynion gwychion mewn gwawl.

Da adail pur odidog-yw'r annedd
       Gywreinwych a chaerog;
   Mae coed fyrdd, mewn glaswyrdd glog,
   O'i gwmpas yn dia gwempog.

 

   

HAFAN

 

>>>>>>>>>>>

Hanes Dolgellau
Dolgellau History

Hanes Dolgellau Dolgellau History