DIWRNOD YN NOLGELLAU -Arweiniad i mewn

DIWRNOD YN NOLGELLAU.

LLYS BRADWEN.

I henafiaethydd byddai gweled gweddillion hen balas Ednowain Bendew, ger Dolgellau yn wledd a difyrwaith. Mab i Bradwen oedd Ednywain, a phenaeth un o Bymtheg Llwyth Gwynedd ac yn ei flodeu yn y l2fed ganrif, neu yn nheyrnasiad Llewelyn ab Iorwerth o gylch 1194, a meddai lawer iawn o feddianau. yn sir Feirionydd. Ceir gweddillion yr hen Lys hwn ger glan ogleddol afon Pant y Llan, a'r lle a elwid "Maes Pant y Llan," ond yn amser Bradwen gelwid y fangre Maes Crygenan, oddiwrth (a pherthynai gynt i) dyddyndy o'r enw hwn. Yr oedd y Llys yn un ang ac yn arrddangos adeilad dwbl, yr adran fwyaf, yn y pen lletaf yn 100 tr., a'r pen arall yn 91 tr. Yr adran arall a fesura ffordd arall oddeutu 96 tr., ac ar yr ochr gyferbyniol oddeutu 92 tr. Saif y ddosran arall mewn un pcn iddi 38 tr., neu efallai ychydig lai. Ceir ei hyd oll yn 44 tr., ac oddifewn y mesirir fel uchod Pan ymwelodd T. Pennant ( tours in Wales) 'r lle safai, meddai, ddwy garreg ar bob tu i'r fynedfa ond erbyn heddyw d904) y maent wedi eu dymchwel o'u safle henafol, - syrthiodd y naill yn 1863, a'r llall yn 1876 Dywed traddodiad a hanes y byddai'r hen L Morris yn cymeryd yr ail faen i orphwyso ei fraich pan fyddai, yn 1808 yn pregethu'r Efengyl i'r lluaws yn y lle. Rhoddi'r ar ddeall mai yn y darn helaethaf o'r palas y bywiai'r penaeth, ac mai llys barn yddd y gyfran arall o hono. Gelwir Bradwen yn Arglwydd Dolgellau ond a ydyw yn rhywbeth oddieithr dynodiant Llys hwn ? Ychydig, os nad dim, a geir am Bradwcn mewn hancs, - ei enw sydd fwyaf adnabyddus, ac ymwthia felly ger bron fel person ffugiol, eto gelwir y LIys ar ei enw, a cheir rhifires helaeth o bersonnau yn perthyn i'w achau, mal y gwelir ar y terfyn. Ceid Bradwen yn ŵr o urddas mawr, yn ol yr achau serch fod henafiaethwyr yn gwahaniaethu ychydig parthed y llinellau. Y mae'r Parch. Ed. Jones, Llandegai, yn ei alw'n Arglwydd Llys Bradwen, ac yn Arglwydd Meirionnydd tra y ceisia Robert Fychan o Hengwrt, ei wneyd yn ddim ond Arglwydd Llys Bradwen yn unig, tra y ceid y tywysogion a'u disgynyddion, meddai, yn arglwyddi Meirionnydd yn olynol a rheolaidd, serch y perchenogai yr oll o Dal y Bont a rhai tiroedd yn Nghantref Ystumaner

Achau Llys Dolgellau: Ednowain ab Bradwen, ab Indnerth ab Dafydd Esgid Aur ab Owain Aurdorchog, ab LIewelyn Aurdorchog ab Cocl, ab Gweryd ab Cynddelw Gam, ab Elgyd ab Gwerysnadd ab Dwywe Lythyr Aur, ab Tegog, ab Dyfnarth ab Madog Madogion ab Sandde Bryd Angel ab LIywarth Hen ab Ednowain oedd dan Gruffydd ab Cynan, tywysog Aherffraw, ym Mn

Yn ol y Cam. Regis., dyma arf-bais Ednowain :- "Gules three snakes enowed in a triangular kuot argent" Tair neidr arianaidd mewn cwlwm trionglog yn y maes rhuddgoch Yn ol Gwilym Lleyn ar Achau Arglwydd Mostyn, deillia y pendefig hwn o Ednowain ab Bradwen (Golud yr Oes, tud. 459).

LLETY'R LLADRON.

Ar ochr ddeheuol Bwlch Oerddrws caiff y teithydd fangre fechan o ymgudd, lle'r arferai haid o ddrwgweithiedwyr ymguddio, er manteisio ar ddiniweidrwydd ac eiddo'r sawl a elai heibio, mewn cyfnodau pell yn ol. Cyfeiriai eu ffau at dri phwynt: Dolgellau, Rhydymain a Dinas Mawddwy, a gwae'r bobl hynny a ddelid ganddynt. Yr oeddynt o wehelyth "Gwylliaid Cochion Mawddwy."

CAERYNWCH.

Yn ddiau, cara'r ymwelydd gael cipolwg ar y palasdy prydferth uchod, a saif ar esgynlawr dg, ac yn cael ei gysgodi gan wigfa urddasol, uwchlaw rheilorsaf fechan Bont-newydd. Yn hen ddeddfau'r Cymry sonir am Maeldaf ap Ynhwch Unarchen ap Ysbwys ap Ysbwch, ac mai tramoriaid oeddynt, a'u dyfod yma gydag Uthr ac Emrys, gan ymsefydlu ohonynt yn Moel Esgidion (Esgityawn), gan awgrymu "Moel Caerynwch." Dywed traddodiad y byddai marchnadoedd Dolgellau yn cael eu cynal ger y Foel hon: yma ceir y "Farchnad Fawr," a'r "Farchnad Fach."

Caerynwch ydoedd breswylfod y Barwn Richards, y cyfreithiwr enwog a anwyd yn nghymdogaeth y Brithdir, Tachwedd, 1752. Addysgwyd ef yn Rhuthyn; aeth i Rhydychen, a dringodd risiau llwydd hyd ei etholiad i Gymrodoriaeth Michael yn Ngholeg y Frenhines. Cyn hir sangodd ddadleufa Cymdeithas Anrhydeddus y Deml Fewnol. Bu'n brif ynad Caerlleon yn 1813, ac yn y flwyddyn ganlynol yn un o Farwniaid yr Argedlys, a bu i farwolaeth Syr Alexander Thompson ym 1814 fod yn achlysur i'w dderchafu'n Arglwydd Brif Farwn y lIys dywededig. Ei wraig

ydoedd Catherine, merch ac etifeddes R. Vaughan Humphreys Caer Ynwch, a breintiwyd hwy deg o blant. Bu farw'n Llundain Tachwedd lleg, 1823, yn 71 mlwydd oed, a chladdwyd ef yn Eglwys y Deml. Fel cyfreithydd a barnwr ceid ei benderfyniadau yn ddiysgog, ac fel cyfaill safai'n uchel yn ngolwg yr holl wlad. Y Barwn Richards oedd prif destyn Cymreigyddion Caernarfon Mawrth laf, 1824, pan yr enillodd y diweddar henafiaethydd a bardd, Mr. Owain Williams o'r Waunfawr y wobr am yr AwdlFarwnad oreu iddo, ar ei gydymgeiswyr - Gwilym Cawrdaf o Dolgellau Robert Owen Caernarfon. a W. Williams, Dinbych.

Y PARC

Ceir yr - annedd-dy diaddurn hwn mewn llanerch anghysbell a rhamantus, uwchlaw'r afon Arran, lle tyf llawer o goed; ac os bydd i'r teithydd gymeryd dyddordeb yn y llofruddiaeth a fu yma, tros 20 mlynedd yn ol, fe fwria ymaith yr helbul a gaiff wrth ddringo'r llwybr budr a charegog a'i harweinia hyd ato. Oni bai am yr amgylchiad hwn ni ddodasid enw'r Parc ar lechres hanesiaeth i geisio hudo'r ymwelydd tuag ato, ar a ddaw i Ddolgellau a'r cylch.

Cadwaladr Jones oedd ŵr ieuanc tua 25 mlwydd oed, ac ymddengys oddiwrth amryw dystiolaethau a ddygwyd o'i blaid ar y prawf, gan feistriaid a chydweithwyr iddo, ei fod yn gymeriad eithaf dymunol ar y cyfan - yn ŵr ieuanc o dymher hynaws, ac o duedd ewyllysgar i wneud cymwynas pan ofynid hynny oddiar ei law. Tua blwyddyn cyn y llofruddiaeth ymbriododd C. Jones, a chymerodd fferm fechan a elwir y Parc, yr hon a saif mewn mangre wyllt a mynyddig uwch Dolgellau, a'r hwn lecyn sydd wedi ei ddu-nodi am oesau a chenedlaethau i ddyfod. Yn gwasanaethu gyda thad y carcharor yn Coedmwsoglog, yr oedd dynes o'r enw Sarah Hughes, tua 37 mlwydd oed, yr hon, yn ol addefiad ei chwaer, Margart Hughes ar y prawf, oedd yn fam i ddau o blant anghyfreithlon, y rhai ni thadogodd ar neb. Dydd Sadwrn, yr 2il o Fehefin, 1877, ymadawodd S. Hughes o'r Coed-mwsoglog, a daeth i dŷ ei chwaer grybwylledig, M. Hughes, lle yr arhosodd hyd ddydd Llun, ar yr hwn ddydd yr aeth ar ryw negeseuon ir dref: a dyna y dydd diweddaf y gwelwyd hi yn fyw: a thestyn y siarad drwy. yr holl gymydogaeth, y dyddiau dilynol, oedd S. Hughes ar goll. Ac er dyfal a manwl chwilio y glynoedd, yr afonydd, a'r coedwigoedd, tywyllwch a orchudiai'r amgylchiad. Ond fel y dywed yr hen air, Llofruidiaeth a fyn ddyfod i'r amlwg. Yn mhen tua chwech wythnos, sef ar yr 16ed o Orffennaf, canfyddwyd rhanau o gorph dynol yn nofio mewn gwahanoi fanau o'r afon Arran, y rhai a adnabyddwyd fel gweddillion corph y ddynes golledig, Sarah Hughes ; ac nis arighof'r y rhawg y cyffro a'r arswyd a syrthiasai ar drigolion hen gwmwd tawel Dolgellau wrth weled y naill ran ar oI y IlalI o gorph y lofruddiedig yn cael eu hestyn o'r afon, llifeiriant yr hon a ymddangosai fel yn anfoddog i guddio y llofruddiaeth yn nyfnder y mr. Bellach, clyma sicrwydd fod llofruddiaeth wedi ei gyflawni, ond pwy oedd y llofrudd ? Oherwydd rhesymau neillduol, wele weision cyfiawnder, yn foreu ar y 18fed o Orffenaf, yn nesau at Y Parc, cartrefle fyrbarhaol C. Jones. Haws yw ir darllenydd ddychymygu nag i ni ddysgrifio y teimladau a raid fod yn meddianu y gŵr ieuanc pan edrychodd drwy y ffenestr, a gweled y swyddogion yn sefyll yn wyliadwrus o flaen ei anneddle. Mae yn ddiameu iddo glywed llais croch cyfiawnder yn taranu drwy ei gydwybod euog, Ti yw y dyn! oblegid cawn ef yn ebrwydd yn cyffesu, gan ddywetyd wrth y swyddwyr, Waeth i chwi heb thafferthu ym mhellach yr ydw i yn dymuno dyweitd mai fi ddaru! A chan arwain y swyddogion i ardd fechan gerllaw ei dŷ-, dangosodd iddynt y llecyn y bu gweddillion y druanes Iofruddiedig yn gladdedig am tua chwech wythnos; ac yn y fan wele fedd yn agoryd ei safn ac yn cyd-dystiolaetllu chyffesiad y carcharor.

A dyna olygfa gwerth i ieuengctud i fyfyrio am dani yw meddwl am y gwr ieuanc, C. Jones, yn cefnu am byth ar ei gartref, priod ieuanc ei fynwes, a'i blentyn bach diniwed ; yn cael ei gymeryd i'r carchar, a'r Llyfr ddiystyrasai, sef Gair Duw, yn ei logell. Da genym ddeall mai ei brif waith yn ystod y pedwar mis y bu yn. aros ei brawf ydoedd darllen y Beibl, a gwrandaw ar weinyddiadau ei gynghorwyr crefyddol.

Yn ystod ei brawf yn Mrawdlys Caerlleon, ymddygodd C. Jones yn yr un dull tawel a Hunan-feddianol ag ai hynododd o'r dechreu. Cafodd brawf teg ac anrhydeddus; rheithwyr di-duaedd a deallus amddiffynydd galluog, Barnwr doeth a chymedrol ; yn ynghyd a chyfieithydd medrus yn mherson y diweddar Mr. Pugh, cyfreithiwr Treffynnon, ond brodor o Ddolgellau, yr hwn a wnai yr holl weithredoedd yn ddealladwy i'r carcharor. Eithr, er pob ymdrech galluadwy oeiddo ei ddadleuydd dysgdig dros yr amddiffynia, a chrynhoad cymedrol y Barnwr, nis gallodd y rheithwyr gonest yn amgen na dychwelyd rheithfarn o EUOG yn erbyn y carcharor anffodys. Yr oedd cadwen y tystiolaethau, yn nglyn i hunan-gondemniad, mor orthrechol fel nad oedd modd osgoi y canlyniad. A chyda theimladau dwysion - y cyfryw a ddadguddiai y dyn yn gystal ar barnwr cyhoeddwyd dedfryd marwolaeth ar y truan C. Joncs.

Prin y gallaf feddwl i ddyn o demliadau tyner, ac o arwedd Gristionogol fel C. Jones, fwriadu y llpifruddiaeth hwn; ond iddo, trwy gael ei ddigio aii chythruddo, ar funyd gyffrous daraw Sarah Hughes chareg yn ei phen, a'i lladd_ Pe biuasai C. Jones wedi rhoi ei hun i fyny a chyfaddef ei drosedd, credaf y daethai trwyddi yn lled ysgafn. Gwnaed deisebau at ei ran gan tri lle--Dolgellau, Un tros wyth mil o enwau : a Chaerlleon ac Aberystwyth, yn cynwys eu hedd ynadon a'u maerod.

Y VIA OCCIDENTALIS RUFEINIG.

Wrth sylly yn fanwl cenfydd yr ymwelydd ddarnau o'r uchod yn rhedeg trwy y dref, o'i gorsaf ym Menapiae (Ty Ddewi) i Segontium (Caerynarfon) : rhed ger Trawsfynydd, ac mewn lle a elwid Pen y-stryd, gwelir dernyn ohoni'n lled blaen. Rhedai y ffordd uchod ar hyd yr holl siroedd, o gyfeiriad y De, o orsaf Loventinum, yn sir Aberteifi, gan redeg 'r Gogleddheibio gwersyll mawr Pennal a gorsaf Hereri Mons, hyd Segontium, a chyn cyraedd yno ceir darnau eraill ohoni. Ond ymdngys imi fod dwy sarn Rhufeinig yn rhedeg trwy gantref Meirionnydd, ac un ohonynt wedi ei gwneu mor foreu a'r ganrif gyntaf o'r cyfnod Cristionogol, h.y. wedi dyfodiad Agricola yma yn 78 O.C

Rhd y Via Occidentalis ar lan Fawddach, trwy blwyfi Llanfachreth a Thrawsfynydd, hyd i afael a Dyfi ym Mhennal, ac y mae'n hawdd i lygaid yr hynafieithwr ei dilyn yn y lleoedd hyn.. Rhd y sarnau gyda'u gilydd am rai milltiroedd o Gastell Tomen y Mr (Heriri Mons), yn nghyfeiriad Pen-y-stryd, ac un arall ymganghena trwy Gwm Prysor, tros y mynydd i Gaer Gai*, hyd Lanuwchllyn, ac yma ymwahana 'r lleilI.

Ond y ddwy gyntaf. Yn Pen-y-stryd yr ymwahana y rhai hyn, neu efallai ger Dolgain ; yna cyfeiria trwy goed Cefndeuddwr, hyd Rhyd Meirion, ac a heibio'n orllewinol i Gadair Idris. Yna a trwy Drawsfynydd hyd Lan Fachraith, tros fynydd Bwlchrhoswen, tua Nannau tros yr Wnion, tros Lwybr Cam Redynen am fynydd Gwastadfryn. Wedi hyn ceir hi ar Ffridd Nancaw Fawr, ger Nancaw Bach; yna croesa Gwm Llanfihangel, Cwm yr Aber, a thrwy Daran yr Hendre a'r Daran Fach, i ochr tir Pennal. Yna cyfeiria am afon Dyfi hyd Gefn Cader, lle yr oedd gorsaf Rufeinig

Yr ail Sarn o Domen y Mr a rd trwy Gae Mawr, trwy Drawsfynydd, trwy fangre y saif gorsaf y G. W. yn y Bala, trwy Gae Deintur, trwy Rhos Ucha, y Tyddyn Bach, Gilfach Wen, Pen-y-stryd; o'r lle olaf am Gwm Dolgain, ger Bedd Porus a Maen-hir (Llech Idris), gan groesi y Cain i dir Dol y Mynach. Yna cerdd heibio Pistyll Cain hyd Fryn y Gd, trwy dir Pant-glas a Brynllin, gan groesi y Fawddach i Lan Fachraith, hyd fynydd Rhiwfelen. Wedyn gwelir darnau ar fynydd Dolcynafon, Cefn yr Eryr, ac yn Rhyd-y-main. Yr ochr arall i Rhyd Wnion, enwir hi'n Ffordd Elen, ac trwy Gotres Lwyd, Pantpanel, hyd Ty'n-y-coed heibio Ty Newydd Ucha, trwy Bwlch Oerddrws.

Croesa un arall Gwm Prysor, ac aiff dan yr enw Ffordd Elen, trwy Goed Cae Du trwy Gae Eithin, Pant-seler, Dola-dinas, Nant Bwlch, Nant Moel Croeso, tros fynydd-dir Bryn Du, trwy ffridd Naid Filltir heibio i Lyn Aethlun a Bryn Clynog. Cyn yma ond yn y man cyfeiria at afon Prysor, a Chastell Bryn Clynog. Gwelir darn ohoni wrth Foel Dl Haidd, Moel yr Wden a chroesa Foelydd y Tŵr a'r Geifr, gan redeg i blwyfi Trawsfynydd a llanuwchllyn Rheda drachefn heibio Gwter Ddu, uwchlaw Cors Moel Llechi, trwy sarn y Frenhines, Cefn Amnodd trwy Ffridd Castell, Hendre Blaenlliw, Ffridd Bach, LIiw a Buarth y Meini tros Fanciau Beddau y Cawri, Castell y Waen, hyd Gae'r Gai - hen orsaf y Rhufeinwyr,-hyd ben Llyn Tegid (Ab Baran), trwy Dyddyn y Gyrn &c., &c.

Yn fwy o gywreinrwydd y dodais y llinellau henafol uchod i fewn, nag o feddwl y cymer unrhyw ymwelydd y drafferth i ganlyn un droedfedd o'r ffordd, oddieithr na byddo yn henafaethydd brwd o galon a phen.

*Placed on an eminence. Camden says it was a castle built by onc Caius, a Roman. The Britons ascribe it to Gai, foster brother to King Arthur. It probably was Roman, for multitudes of coins have been found in the neighhourhood, and it is certain that it has been a fortress to defend this pass. Row. Fychan, Ysw., boneddwr a llenor, a chyfieithydd Ymarfer o Dduwioldeb, &c., a fywiai yma'n amser Siarl I.

FFYNON FAIR.

Perthynai i bob plwyf a llan eu ffynnonau cysegredig gynt: pa le bynag y byddai sant yn cyhoeddi ei fendith a'i rd byddai ffynon yn bwrw ei dyfroedd bendithiol i iachau anhwylderau amrywiol yr ardal ; ac i wneud pethau yn well enwid yr unrhyw ar enw y sant a fyddai yn gosod i lawr sylfeini yr Eglwys, a byddai hyn yn sicr o asio Crd y lluaws ofergoelus ynddi yn well fyth. Ac ond i'r teithydd sylwi, gelwid hon ar enw y Wyryf Santaidd, mam ein Gwaredwr a dyna enw hefyd hen Eglwys y plwyf, St. Mair, ac nid oes odid Lan yn Nghymru na cheir ffynon sanctaidd gan y saint hynny a fu'n gosod i lawr grd a bedydd, fel ag y tueddir f i gredu weithiau fod cymaint o rwymau ar ddyn i gerdded at ffynon am fendith corph ag a fyddai cychwyn am y Llan am amgeledd ysbrydol! Er yr ofergoel ynglŷn hon, bu ei dwfr pur yn feddyginiaeth at wahanol afiiechydon a thrachefn ni fu namyn "Ystn Duw i estyn dŵr" Rai blynyddau'n ol cafwyd amryw fathodau ynddi, a rhai yn dwyn delw ac argraff o Trajan ac Hadrian, Ymerhawdwyr Rhufain Ar y naill ceid y geiriau hyn :-

IMP. TRAIANO AVG. GER DAC. P.M.TR.P COS.

V.P.P.S.P.O.R. OPTIMO PRINC.

Acar y llall y llythyrenau canlynol :

IMP. CAESAR TRAIAN. HADRIANVS AVG.P.M. TR.

P. COS' 111.

Gwnaed maenwaith i ddiogelu y ffynon, ac i hwyluso y ffordd i ymwelwyr hon, yn y blynyddau 1838-50, trwy arian y cyhoedd, ond er hynny y mae Ffynon Fair wedi syrthio i annhrefn, ac yn ddiwerth yn nghyfrif y trigolion ac ereill.

FFYNON Y GRO.

Rhd y ffynon hon yn ffrwd loew ar wastadedd tir y Llwyn, gan daflu ei dwfr yn gawodau i'r Wnion, ger y Bont Fawr, ar y tu gogleddol iddi. Bu i'r ffordd haiarn newid gwely y darddell hon, fel nad ymddengys fel yn y dyddiau o'r blaen Bu Dafydd Ionawr awdwr hyglod cywyddau y Drindod, yn nyfroedd rhedegog ffynon, ar gyfer y Llwyn, ac oddiwrth ei englynion canmawl yn Ngwaith y bardd a gyhoeddwyd gan Mr. R. O. Rees, ymddengys i'r awenydd gael meddyginiaeth oddiwrth rhyw afiechyd anhysbys i ni, ac mai ger gwyneb yr hen blasdy a nodwyd y chwarddai ei dyfroedd tan wenau haul. Dyfynaf ei englynion :

O flin haint ac o aflan hwyl - farwol
        Adferodd fi eilchwyl:
    Cefais iechyd, hyfryd hwyl
    Yn y ffynon hoff anwyl.
Yn min dwyffordd mewn dyffryn - gwyrdd y tardd
        Gerddi teg gyferbyn;
    I fardd ac i oferddyn
    Yn gan' gwell nag yw gwin gwyn.
Brenhinbren derwen sydd dyst - haul eurwawr
        Sydd laraidd oleudyst
    D'wedant (a digon deudyst)
    Ewch i hon a dim ni chyst

Ffynon Y FFRIDD ARW

Mae y darddell lygadlon hon i'w chael ar graig, ar fin y ffordd, yn nghyfeiriad Pont yr Aran, tua milltir o'r Bont Fawr. Ac os gwnai dwfr Ffynon Fair iachau y gewynwst, byddai i hon gryfhau yr holl gyfansoddiad dynol. Sonid am "Ffynon Rydd" a "Ffynon Lygaid," mangre y naill yn mynyddau "Cymru Fu" ydoedd mewn clawdd yn muarth Brynmair a'r llall ger plasdy o'r enw The Rock Cottage.

LLETY'R MWRDRWR

Ceir yr annedd adfeiledig hon ar lethr y mynydd, uwchlaw ffordd yr hen stage coach o Ddolgellau i'r BaIa, ac ar gyfer Y Llwyn a gorsaf y rheilffordd. Ca'dd yr enw uchod, medd traddodiad, am i'r "Hwntw Mawr" ddianc o gell ei garchar, lle saif Gwesty'r "Einion" hyd yma a chysgu noswaith ynddo cyn ei ddienyddiad. Dywed yr hen Bobl fod gweddillion o'r trawst crogi yn aros eto yn neu odeuty adfeilion yr hen garchar

Y FARCHNADLE

Fel mynychwyr lluosog trefi eraill Cymru cyrchai lluaws gwlad a gwerthai y maelwyr eu nwyddau amrywiol - ymenyn, cigau, dofednod, &c. - ar yr heol a lleoedd anghyfleus ereill, yn nghanol gwynt a gwlaw, cyn y fl. 1870, pryd yr agorwyd y marchnad-dy chiniaw cyhoeddus yn ei phrif lofft - 76 tr. wrth 39 tr. Dyddiau ei marchnad ydynt Mawrth a Sadwrn

<<<<<<<<<<<  

HAFAN

 

>>>>>>>>>>>

Hanes Dolgellau
Dolgellau History

Hanes Dolgellau Dolgellau History