Ymddangosodd y llythyr canlynol ynghyd a rhestr o rhyw 160 o enwau ym mhapur lleol "Y Dydd" ym mis Tachwedd 1914.
Annwyl Syr
Yr wyf yn anfon i chwi restr, gyda rhai manylion , o'r gwyr sydd yn awr gyda baner eu gwlad ac yn dal rhyw gysylltiad â thref Dolgellau a'r amgylchoedd. Ceisir cymeryd i mewn holl ddosbarth Ysgol Ganolradd Dolgellau -sef yw hyny, a siarad yn fras, o ochrau Trawsfynydd i Aberangell, ac o'r Bontddu i Drws y Nant. Cynwysa y rhestr enwau rhai fu'n aelodau o'r ysgol hon neu'r hen Ysgol Ramadegol er nad yn frodorion nac yn byw yn y cylch. Gwn nad yw y rhestr yn gyflawn, mewn nac enwau na manylion; a byddaf yn dra diolchgar am bob cymorth i'w chwblhau ymhob ystyr, ac i'w chywiro yn awr ac eto. Dymunaf erfyn am hysbysrwydd prydlon yn nghylch symudiadau a gweithgareddau y rhai sydd a'u henwau arni ac eraill ddylid ychwanegu ati o bryd i bryd.
Teimla bob dyn ystyriol y diddordeb dyfnaf yn y dynion glewion hyn sydd eisioes wedi derbyn alwad i amddiffyn ein hen wlad annwyl sydd a'i thynged unwaith eto yn y glorian; a bydd gwerth mawr ar eu hanes ddyddiau sy'n dod
Gwyn fyd yr ieuanc cryf eleni, os yn fyw i'w ddyletswydd a'i fraint! Anaml yn nhreigliad yr oesau y cyd-gyferfydd gwladgarwch ac egwyddor fel y gwna ym Mhrydain heddyw; a dall yw'r gwr na wel ei gyfle a'r frys i wneud rhywbeth fel nad edifarhao pan yn rhy ddiweddar.
Yr eiddoch, &c.,
J. Griffith
Ysgol Ganolradd Dolgellau
10 Tachwedd, 1914
Cymraeg oedd iaith y llythyr a Saesneg oedd iaith y rhestr.
Prifathro Ysgol Ganolradd Dolgellau oedd John Griffith a thad i Ll. Wyn Griffith (sydd yn ymddangos ar y rhestr) un o'r beirdd rhyfel enwog o'r Rhyfel Byd Cyntaf. Bu fab arall i John Griffith, Watcyn, marw yn ystod y rhyfel ac mae ei fanylion ef ar dudalen y gofeb.
Mae'r rhestr yn rhoi manylion am Enw, Cartrawd, Safle, Cyfeiriad Cartref a Gwaith cyn listio y milwyr ynghyd a nodyn ychwanegol am y rhai a fu farw, eu hanafu ac ati. Yr wyf wedi ategu, er cyfleuster i'r darllenydd, cyswllt i dudalen y gofeb wrth ymyl enwau y sawl a fu farw yn diweddarach yn y rhyfel ar y ffurf [Cofeb Cenotap]. Oni nodir yn gwahanol roedd y gwyr hyn yn fyw ar adeg cynllunio y rhestr gwreiddiol.
Mae'r rhestr mewn pedwar rhan: