up

 

Capel y Baran

 

 

 

 

This is a Welsh only transcript of the booklet produced for the 200th anniversary of the founding of Baran chapel

The photographs which appear throughout are included separately


CAPEL Y BARAN

1805 - 2005

Rhagair

Stori bywyd yn ei amrywiol ddigwyddiadau ac yn ei holl gysylltiadau yw hanes ein stori ni ein hunain fel unigolion, a stori teulu neu gymuned neu fudiad neu gymdeithas neu genedl.

'Does fawr ddim a all fod yn fwy diddorol nag olrhain hanes, na'r un person gwaith difyrrach na'r hanesydd cydwybodol wrth ddilyn trywydd gwrthrych ei ymchwil yn l i'w wraidd. Wrth gwrs gwreiddiau yw prif ddeunydd astudiaeth yr hanesydd ac mae dod o hyd i wreiddiau hanes unigolyn, teulu, mudiad, cymdeithas neu genedl yn golygu dyfal barhad diflino, amynedd di-ben-draw a thrylwyredd yn yr ymchwil am gywirdeb.

Mae pob unigolyn yn rhan o deulu a chynyddu a wna apl a phoblogrwydd olrhain achau teuluol, a gwelir nifer cynyddol yn dysgu crefft yr hanesydd wrth wisgo ei fantell yn ei ymchwil.

I'r mwyafrif ohonom a berthyn i'r genhedlaeth hyn bu cymdeithas Crist yn fagwrfa i ni o'n blynyddoedd ifancaf ac mae stori bywyd cymaint ohonom fel unigolion yng nghlwm 'n cysylltiad ni theulu'r ffydd. 'Does dim modd gwahanu'r naill oddiwrth y Hall. Dyma'r graig ein naddwyd ni ohoni ac mae'r hyn yr ydym wedi ei wreiddio yn y graig - yn rhan o'n hanfod ni.

Ar achlysur dathlu dwy ganrif sefydlu Achos Iesu yma cyhoeddir y llyfryn hwn yn croniclo'r hanes sydd ynghlwm chapel y Baran. Mae cael y manylion wedi eu casglu yn gryno mewn llyfryn y gallwn gyfeirio ato'n gyson yn hwylustod, ac wrth ei ddarllen cael ein hysbrydoli gan ymroddiad a chadernid ffydd y rhai a agorodd ddrws yma gyntaf erioed i addoli Duw yng Nghrist, i dderbyn o'r Sacramentau ac ymdrwytho yn nysgeidiaeth yr Arglwydd.

Yr un cymhwysaf i gasglu deunydd llyfryn felly yw un a fagwyd yn y cylch ac a fu o'i ddyddiau ifancaf yn perthyn yn glos i holl fywyd yr eglwys hon. Ni ellid cael nemor neb yn cwrdd chymhwyster felly yn well na'r brawd Eifion Walters. Magwyd ef yn yr Henryd ond er ymgartrefu ers blynyddoedd yn Rhydyfro a chael ei ethol yn ddiacon ac ysgrifennydd cyhoeddiadau y Tabernacl, Pontardawe mae ei ymlyniad at gapel y Baran a'i gyfraniad i'w bywyd yn parhau.

Mae gair difyr a chymwys gan Eifion yn wastad, ond 'dyw e byth yn ddifyrrach ei sgwrs na phan yn sn am fynydd-dir y Baran gyda'i arferion a'i gymeriadau, a gwn fod casglu ffeithiau'r llyfryn hwn wedi bod yn foddhad iddo.

Fe ddaw boddhad hefyd i bawb 'i darllen ac yn enwedig i aelodau presennol y capel arbennig hwn ac i'r llu sydd chysylltiadau agos ag e' ac atgofion cysegredig amdano.

Diolch am y gwahoddiad i ysgrifennu rhagair iddo a chyfle i gyd lawenhau yn y dathlu.

Watford Llewelyn
Gorffennaf, 2005

1


Y BARAN

Dewch i'r Baran i ganu - dewch a ffrind
A chyffrous bydd dathlu,
A'r floedd wrth orfoleddu
Yma a gawn ger bedd mam-gu.

Nid hanes y ty yno - yn unig
A fynnwn ei gofio,
Er dwy ganrif o rifo,
Mae Un a gawn mwy nag o.

Tua'r Mount troi am antur, - am heddwch
A moddion i'n dolur;
Ac o geisio cawn gysur
I fwynhau y pethau pur.

Cofio'r Mount cofio'r menter - a didwyll
Dadau'n dweud eu pader,
Ac yn lliw y gannwyll wr-
Ysbaid Duw mewn gosber.

I'r Lluest ar frest y fro - ochr y coed,
A Chraig - Cwm o tano,
'Run fydd ein Duw, byw, tra bo
Oes o ddewis weddo.

Cofio'r Tad, nid y tadau - a ddylem,
Nid addoli duwiau,
Llwm yw'r cwm - capeli'n cau
I'n Brenin yn y bryniau.

GWILYM HERBER

3


Capel Paran 1805 - 2005

Braslun yn unig yw'r llyfryn hwn o hanes Eglwys Annibynnol Y Baran. Gwaetha'r modd mae llawer o'r hanes ar goll. Fe fyddai llawer o'r hyn sydd ar gael, sef rhestrau o'r aelodaeth a'u cyfraniadau at yr achos, er yn ddiddorol yn feichus i'w cynnwys yn y llyfryn hwn. Yn sicr i'r ymchwilydd dyfal erys llawer o hanes eto i'w ddarganfod.

Fe wyddom i sicrwydd fod addolwyr cyntaf y Baran wedi ymwahanu o'r hen eglwys ymneillduol yng Ngellionnen, pan ddaeth dysgeidiaeth yr Iseldirwr Jacob Arminius i aflonyddu'r gwersyll tua chwarter ola' y ddeunawfed ganrif, ac oherwydd bod yr eglwys yno, o dan arweiniad y Parchg Josiah Rees, yn tueddu at Arminiaeth neu Undodiaeth a phan ymunodd ei fab y Dr Thomas Rees, a oedd yn proffesi'n agored Undodiaeth, i'w gynorthwyo fe ddaeth pethau i'r pen. Gwrthwynebau carfan o'r addolwyr y syniad o Undodiaeth, ac o dan arweiniad Roger Howell, Nantymoel Uchaf a oedd yn Efengylwr Calfinaidd, ymwahanodd y garfan yma, y Trindodwyr (Trinitarian) o gapel Gellionnen a chwrdd i addoli yn ffermdy Llwynifan ar fynydd Carn Llechart, ac ymhen ychydig amser symudodd y gynulleidfa i addoli yng nghartref Roger Howell yn Nantymoel Uchaf.

Yn fuan wedi hyn fe roddwyd darn o dir ar ffin y ffarm gan John Howell a'i etifedd Roger Howell ar brydles o 999 o flynyddoedd ac ar ardreth o 5 swllt (coron) y flwyddyn i godi capel. Dyddiad y Les yw Hydref 1af, 1805 (gweler y maen a osodwyd tu fewn i'r capel yn cofnodi hyn). Ond fe gredir bod y capel wedi ei agor cyn hynny, oherwydd fe ordeiniwyd Roger Howell yn weinidog ar yr eglwys ar y 14eg o Fawrth, 1805.

Enwau'r ymddiriedolwyr cyntaf oedd -

David Howell, Cwmnant

Hopkin Evan Hopkins, Penlan

John Phillips, Trechwith

Hopkin Harri, Rhydyfro

Rees Thomas, Coedcaemawr

Harri Thomas, Rhydyfro

Phillip John, Trescyrch

Daniel John, Trescyrch

Thomas Thomas, Maestirmawr

Samuel Jones, Llwyndomen

Jenkin Jenkins, Cynghordyfach

Enwau'r diaconiaid cyntaf oedd -

Tomos John, Coedcaemawr

David Jones, Coedcaemawr

David Jones, Nantmelyn

Hopkin Jones, Tresgyrch

Arweinydd y gn cyntaf oedd - Mr Owen, Brynchwith.

Daeth yr addolwyr i'r cwrdd yn y Baran o ardal eang iawn, o Gwm Gerdinen, Llandremoruchaf, (Pontarddulais), Llwyngweno, Penwaunfach, Cynghordyfach, Cefnparc, Llwyndomen, Craig Trebanos, Alltwen, Clydach, Hendregaradog, Ynysmeudwy, Pentwyn, Blaenegel a'r Betws.

Erbyn y flwyddyn 1841 roedd 181 o aelodau yn yr eglwys.

Cyn dyddiau'r car arferai teuluoedd gadw'r gweinidog yn eu tro ar y Sul am fis (Cadw'r Mis). Parhaodd yr arferiad lletygar yma hyd ddiwedd pedwar degau'r ganrif ddiwethaf.

4


Anodd efallai i lawer ohonom gredu heddiw fod y Baran yng nghyfnod Roger Howell yn ganolfan ddysg. Cadwodd ysgol ddiwinyddol yn ei gartref yn Nantymoel Uchaf. Fe welir cyfeiriad at hyn yn llawlyfr yr Annibynwyr am y flwyddyn 1853 lle enwir nifer o weinidogion a hyfforddwyd ganddo, gan gynnwys ei fab yng nghyfraith y Parchg Daniel Evans 1800-1884.

Fe adeiladwyd ysgoldy yng nghefn y capel (y festri heddiw) ac fe symudodd Roger Howell ei ysgol o Nantymoel Uchaf i'r adeilad newydd. Heb os, gwnaeth Roger Howell a'i deulu gyfraniad amhrisiadwy i'r achos yn y Baran. Dywed y Parchg Ddr Thomas Rees hyn amdano yn ei ail gyfrol o 'Hanes Annibynwyr Cymru', a gyhoeddwyd yn y flwyddyn 1870: ''Gadawodd Mr Howell, y gweinidog cyntaf ac un o sylfaenwyr yr achos, argraff ei dymer addfwyn a chariadus ar yr eglwys hon, fel na chlywyd un amser am unrhyw anghydfod na therfysg yma, parhaed yr un dymer Gristnogol i lywodraethu tra bydd carreg ar garreg o'r adeilad yn sefyll a dynion yn ymgynnull i'r lle. Gwnaeth ddaioni dirfawr yn ei ddydd yn ei ardal fynyddig, mae ei goffadwriaeth hyd y dydd heddiw yn barchus gan ugeiniau, ac mae crefydd yn parhau i ddal ei gafael yn ei hiliogaeth. ''

Ar fur allanol y capel gosododd yr Eglwys gofeb i'w dad-cu William John Rhydderch a fu fyw ar hyd ei oes yn Nantymoel Uchaf tan ei farw yn gant oed a fe'i claddwyd ym mynwent Gellionnen.

Preswyliodd teulu Roger Howell yn Nantymoel Uchaf am 274 o flynyddoedd, a phob cenhedlaeth yn ffyddlon i'r achos. Gweler rhestr o achau'r teulu a fu'r ffarm yn eu meddiant.

John William Rhydderch 1684 - 1784
Howell Roger1784 - 1801 (priododd Elisabeth Rhydderch)
Roger Howell (ap Roger) 1801 - 1842 (arweinydd cyntaf yr achos)
John Howell1842 - 1895
John Roberts1895 - 1921 (priododd Mary Jane Howell wyres Roger Howell)
William Price Roberts1921 - 1958
Aeth y ffarm allan o feddiant y teulu ym 1958.

Yn y blynyddoedd cynnar nid oedd harmoniwm yn y capel a phawb yn canu unsain, yn wahanol iawn i Gellionnen lle'r oedd cr a chyfeiliant cerddorfa ffidil a chlarinetau.

Pan ddaeth harmoniwm newydd i'r Baran cyfansoddwyd englyn at yr achlysur gan Ap Perllanog.

Yn y Baran mae'r gan ar gynnydd - yno
Mae harmoniwm newydd,
Wele ffawd i deulu ffydd,
A llais cryf er lles crefydd.

Yn l llyfr cownt am y flwyddyn 1938 fe dalwyd 11.00 am organ newydd. Gwnaeth teulu Hafod y Wennol gyfraniad mawr i gerddoriaeth yn y Baran, bu David Jones (Nantmelyn gynt) yn organydd am flynyddoedd, ac fe olynwyd gan ei chwaer Mrs Mary Jones, Hafod y Wennol, gwraig ffyddlon addfwyn a gyflawnodd ei gwaith gydag urddas am gyfnod o thua deugain mlynedd, a'i mab Mr Cyril Jones .........

5


............. yw'r organydd presennol. Fe brynwyd hefyd ar yr un adeg stove am 5.17s. i wresogi'r capel oddi wrth Tom Williams (yr efail) yn Rhydyfro.

Dros y can mlynedd cyntaf o'i hanes collodd yr Eglwys lawer iawn o'i haelodau wrth i eglwysi newydd gychwyn yn Saron Rhydyfro, Pantycrwys a chwm Clydach. Ond y golled fwyaf oedd yn 1831, pan ymfudodd tua hanner cant o aelodau gyda'i gilydd i Bennsylfania, a sefydlwyd eglwys yno a enwyd ''Carmel''. Galwodd yr eglwys un o ddisgyblion ifanc Roger Howell, sef Daniel Jones, Pentwyn, ar fynydd Y Garth, i fod yn weinidog arnynt, ac fe'i ordeiniwyd yn y Baran cyn iddo ymadael. Codwyd dau bregethwr arall yn ysgol y Baran a aeth i weinidogaethu yn yr Unol Daleithiau.

Yn y flwyddyn 1840 dirywiodd iechyd Roger Howell, ac oherwydd hyn fe roddodd yr eglwys alwad i'r Parchg Rhys Pryce, Cwmllynfell i gydweinidogaethu ag ef. Gwr galluog iawn oedd Mr Pryce, ysgrifennodd lyfr enwog 'Y Llusieiydd Teuluaidd' ac ar l marwolaeth y Parchg RogerHowell ar y nawfed ar hugain o Ebrill 1843, gofalodd am yr achos ei hunan, nes gadawodd, gyda hanner cant o'r aelodau, i ddechrau achos newydd yn Saron Rhydyfro.

Gwasanaethodd Roger Howell y Baran yn ffyddlon am 38 mlynedd, ac fe'i claddwyd ym mynwent y capel. Yr unig un o weinidogion y Baran i'w gladdu yno.

Wedi marw Roger Howell, parhaodd ei fab i addysgu hyd nes agorwyd ysgol newydd yn ysgoldy capel Saron Rhydyfro yn 1844 (The new British School).

Yn y flwyddyn 1844 galwodd yr eglwys y Parchg D. Davies, Cwmaman i weinidogaethu arnynt, a bu ef yno am bymtheg mlynedd, hyd nes iddo dderbyn galwad i ofalaeth yn Cross Inn (Rhydaman) yn 1859.

Dilynwyd D. Davies gan y Parchg T. Davies, Treforus, a ofalodd am yr achos am bron i 30 o flynyddoedd hyd y flwyddyn 1888.

Yn y flwyddyn 1866, fe gollodd yr Eglwys lawer o'i haelodau eto pan sefydlwyd achos newydd ym Mhantycrwys, Craig Cefn Parc, ac ar l colli cymaint o aelodau i achosion newydd, syrthiodd rhif yr aelodau o 181 yn ei anterth i 65.

Ym 1890 derbyniodd y Parchg John Henry Davies alwad ac fe'i llys-enwyd ''Davies bach yr Haleliwia'' oherwydd ei hwyl a'i bregethu cyffrous. Gwasanaethodd Mr Davies yno am 26 o flynyddoedd tan ei farw annhymig yng ngaeaf 1916 mewn storm o eira. Wedi pregethu yn y Baran arhosodd noswaith yn ffarm Penlannau, cyn cychwyn trannoeth i ddal trn yn Rhydaman i fynd adref i Lanelli. Darganfuwyd ei gorff gan William Jones, Penlannau. Rhedodd William i gael cymorth gan Dafydd Jacob y Bryn.

6


Roedd Mr Davies yn 70 mlwydd oed ac fe wnaeth yr eglwys gasgliad i dalu am ei arch a gostiodd 8 10s.

Wedi'r digwyddiad trist yma dilynwyd Henry Davies, ym 1917, i'r ofalaeth gan y Parchg J. R. Price, Saron Rhydyfro. Bu'n weinidog ffyddlon am 14 mlynedd hyd nes i'w iechyd fethu.

Bu'r eglwys heb fugail tan 1940 pan ordeiniwyd Mr John James, o Danygraig, yn weinidog. Brodor o Wernogle, Sir Gaerfyrddin oedd Mr James ac uniaethodd yn hawdd 'r gymdeithas wledig a addolai yn y Baran. Gwasanaethodd yn ffyddlon tan ei farwolaeth sydyn ym 1963. Yn ei arwyl rhoddodd y Parchg E. Curig Davies deyrnged loyw iddo, gan gyfeirio ato fel ''gwron yr unigeddau''.

Wythnos drist iawn oedd hon yn hanes yr achos, oherwydd bu farw hefyd ar yr un diwrnod, Mr Tom Jacob, Twllygwyddil, diacon a thrysorydd ac aelod ffyddlon o'r eglwys, gwr unplyg a wasanaethodd yr achos yn dawel ac a fu fyw ei ffydd. Hefyd bu farw William Jones, Llechart Fawr, gynt o Benlannau, cyn arweinydd y gn a gwr a rhoddai fri ar emyn a phregeth.

Cymerodd y Parchg Robin Williams, Pantycrwys ofal o'r Eglwys am gyfnod, hyd y derbyniodd alwad i fod yn weinidog ar Eglwys Canaan, Maesteg.

Ar y 3ydd o Fedi 1964, sefydlwyd y Parchg Henry Jones, Danygraig, yn weinidog ar Baran. Bu farw Henry Jones yn 1974. Cofia'r Eglwys amdano fel gwr rhadlon a bugail gofalus o'i braidd.

Nid oes gweinidog wedi bod ar yr achos ers 1974, a dibynna'r gynulleidfa yn awr ar weinidogion a lleygwyr i arwain yr addoliad, ac i rannu'r sacrament yn fisol.

Gorwedd y capel nepell o safle neolithig (oes newydd y cerrig), a golygfa odidog yn ymestyn i Ddyfnaint a Chernyw. Nid oes unrhyw amheuaeth mae adeilad gwyngalchog oedd yn wreiddiol, ac mae'r heol sydd yn mynd heibio yn ymddangos ar fap Dr William Rees oddeutu'r flwyddyn 1400. Adeilad unllawr godwyd gyntaf, a llawer o debygrwydd i gapel Gellionnen ynddo, sef pulpud uchel a dwy ffenestr bob ochr, llawr cerrig, drws yn y talcen dwyreiniol, a lle tn yn y talcen gorllewinol, ac fe gofia rhai ohonom yr aelodau hynaf, yn sn am yr arfer o newid lle yn dawel i dwymo, yn ystod y gwasanaeth. Mae sedd arbennig yno a'i chefn at y pulpud yn wynebu'r fan lle'r oedd y tn. Mewn copi o adroddiad y capel yn Ebrill 1881 o dan y pennawd ''Casgliad at y tn'' rhestrir cyfraniadau arbennig yr aelodau i brynu tanwydd. Casglwyd y swm o 1.1s.9c.

Yn adroddiad y capel am y flwyddyn 1869 mae 'na gofnod diddorol sef:

7


Ionawr 1af, 1869

Cydwybod

Sarah Powell2/-
Thos. Davies Smith6c.
Thos. Jones Coedcaemawr 1/-
Wm. Williams Bryncethin 2/6
Wm. Williams Lletycrydd 1/-

Tybed beth oedd baich ''cydwybod'' y saint yma y rhoddwyd y cyfraniadau yma i'w lleddfu?

Roedd stabl yn arfer bod wrth wal orllewinol y capel. Ond cwympodd ers blynyddoedd, ond fe ddal ysgoldy Roger Howell i sefyll yn erbyn cefn yr adeilad, a llawr pridd oedd iddo yn wreiddiol.

Ehangwyd yr adeilad yn 1830, gan roi llofft ynddo, gyda grisiau cerrig allanol yn fynedfa.

Atgyweiriwyd llawer eto ar yr adeilad yn 1894, pan godwyd uchder y to a rhoi llechi newydd arno. Costiodd y gwaith yma 85.10.0d.

Fe atgyweiriwyd y capel yn sylweddol eto yn 1906, ar gost o 184.12.0d. Gosodwyd seddau newydd a rhoi sment ar y welydd allanol.

Bu Ilawer o ddryswch ynghylch enw'r capel. Tybia rhai ei fod wedi ei enwi ar l y mynydd, ond y mynydd a enwyd ar l y capel. Carn Llechart yw enw cywir y mynydd. Tybia eraill ei fod wedi ei enwi ar l ryw foneddiges o'r enw Bougham, o ochr Gwyr, a noddau yn ariannol achosion anghydffurfiol, nid oes unrhyw dystiolaeth o hyn. Mewn diweddariad o Hanes Annibynwyr Cymru a gyhoeddwyd ym 1891 dywed y Parchg Ddr. John Thomas, Lerpwl hyn: ''Paran mae yn debyg yw enw'r capel hwn yn briodol ondBaran y gelwir ef gan bawb''.

Nid oes unrhyw amheuaeth bellach mae ''PARAN'' yw enw'r capel, a'r enw yn treiglo ar lafar i ''Baran''. Mae'r enw yn ymddangos wyth gwaith yn yr Hen Destament, sef darn o'r anialwch lle bu'r Iddewon yn gwersylla ar ei ffordd i wlad yr Addewid, o ystyried rhuddin cymeriad ysbrydol sylfaenwyr yr achos yma, nid gweld y lle fel anialwch wnaethant. Gweld wnaeth y saint yma fel y Proffwyd Habacuc yn ei weddi fod:

Duw yn dyfod o Teman,
A'r sanctaidd o fynydd Paran
Y mae ei ogoniant yn gorchuddio'r nefoedd
A'i fawl yn llenwi'r ddaear
Y mae ei lewyrch fel y wawr,
A phelydrau'n fflachio o'i law
Ac yno y mae cuddfan ei nerth.

Dros gyfnod o tua hanner can mlynedd fe gynhaliwyd Eisteddfodau llwyddiannus iawn yn y capell, ac roedd te parti'r Baran yn enwog drwy'r ardal. Tyrrau pobl yn eu cannoedd o Garnswllt, Rhydaman, Cwmaman, Y Waun a Chwmtawe i fwynhau'r wledd oedd wedi ei pharatoi gan wragedd y ffermydd.

Erbyn heddiw wyth aelod sydd ar restr aelodau yr Eglwys, fe ddaw yn gyson nifer o gyfeillion ffyddlon hefyd i gydaddoli yn yr oedfaon, ac fe brofir o hyd ambell i oedfa ''Pen y Mynydd''.

8


Beth am y dyfodol? Duw a wyr!

Yn ei gerdd ''Aros a Mynd'' dywed Ceiriog:

Aros mae'r mynyddau mawr,
Rhuo trostyn mae y gwynt;
Clywir eto gyda'r wawr
Gn fugeiliaid megis cynt.
Eto tyf y llygad dydd
O gylch traed y graig a'r bryn,
Ond bugeiliaid newydd sydd
Ar yr hen fynyddoedd hyn.

Ar arferion Cymru gynt
Newydd ddaeth o rod i rod;
Mae cenhedlaeth wedi mynd
A chenhedlaeth wedi dod.

Gobeithiwn y daw eto i'r ardal genhedlaeth newydd a fydd yn gweld gwerth eu hetifeddiaeth ac yn barod i gynnal y weledigaeth a ffydd y saint yn y llecyn cysegredig hwn fel: ''Y cadwer i'r oesau a ddl y glendid a fu''.

Diolch i'r Parchg Walford Llewelyn am ei barodrwydd i ysgrifennu rhagair i'r llyfryn yma, hefyd am ei gymorth a'i arweiniad doeth wrth i'r eglwys baratoi ar gyfer y dathliad pwysig yma. Hefyd i'r canlynol: Mr David Jenkins a Mr Islwyn Davies am drosglwyddo llawer o wybodaeth wrth baratoi'r llyfryn hwn. Diolch i Mr Owen Roberts, un o ddisgynyddion Roger Howell am wybodaeth deuluol, ac i'r bardd Gwilym Herber am gyfansoddi englynion ar gyfer y dathliad, hefyd i Mr Gareth Richards, Gwasg Morgannwg am ei hynawsedd a'i gymorth arferol.

9


Photographs

Please click on the page links to see the photograph(s) detailed there


Copyright remains with the publishers of the bookletup

Gareth Hicks Nov 2005