up

 

Pontardawe  10

 

   Olivia Gwilym and family

 

These photographs were contributed by Mrs Helen McDuff of Pontardawe - Olivia Gwilym was her paternal grandmother (Nov 2004)

 

Olivia was one of five siblings - shown here with 'Aunty Lloyd', Ellen  and brothers Morgan and Rhys.

Taken from Edwards Street, Alltwen looking towards Pontardawe with  some industries being visible in the background.

Family group

 

This 1885 group of boys shows brother Rhys in the centre and Morgan on the left of the front row

School group

 

Dr Dan Protheroe

Olivia's cousin, who was a famous Conductor, Composer and Hymn Writer
who lived in Milwaukee, USA where this photo was taken

(See also the text below photograph)

Dan Prothero

 

 

PAMPHLED 1

DATHLU CANMLWYDDIANT DOCTOR DANIEL PROTHEROE

1866 - 1954

CERDDOR

EISTEDDFODWR

GWLAD GARWR

   YSGOL GYMRAG YNYSGEDWYN

YSTRADGYNLAIS.

D. Gwenallt Rees,

BORE OES

I blant a phobi Ystradgynlais,

Bydd y pumed o Dachwedd eleni yn rhywbeth pwysicach na NosonTan Gwyllt. Gan mynedd yn ol i'r diwrnod sef Tachwedd 5ed 1866, fe aned Daniel Protheroe mewn ty bach yn y Rhestr Fawr yn Ystradgynlais. Daeth hwn yn ddyn enwog iawn fel cerddor ac eisteddfodwr, ac er mwyn dangos eu gwerthfawrogiad ohono mae pobl Ystradgynlais eleni yn dathlu ei ganmlwyddiant,

Mae'r ty lle ganed ef i'w weld o hyd, set rhif 6 yn Gough Buildings, ac y mae carreg goffa iddo uwch ben y drws. Er mai "dyn dwad" o Lanwrtyd oedd ei dad, yr oedd gwreiddiau Daniel Protheroe yn ddwfn iawn yn Ystradgynlais,

Yr oedd ei famgu, mam ei fam, yn uno dair chwaer oedd yn byw yng nghyffiniau Bryngroes, Yr oedd gan ddwy ohonynt bobo bymtheg o blant ao una-rbymtheg gan y llall.   'Does ryfedd yn y byd i'r "teulu hwn ennill yr enw "Y Wythien Pawr".

Yr oedd gan Daniel Potheroe dair chwaer, Sara, Betsi a Jennet, ac un brawd, David.   'Roedd David Protheroe yn hen dadcu I Wyn, lan a Gary Alexander ac i Sali Griffiths, cyn-ddisgybl yn yr ysgol hon,

Wel-dyna ddigon o son am y teulu.Yn ein cyfnod ni heddiw y mae Cor Meibion Ystradgynlais a Chantorion Gurlias yn gwneud enw da iddynt eu hunain, ond nid peth newydd yw corau da ag enwog 'yng Nghwm Tawe,  Bron ganrif yn ol, pan oedd Daniel Protheroe ei hun yn blentyn, perthynai ei rieni i gor mawr Ifander, a chorau Morgans Cwmtawe a Seilas Evans.

Er iddo golli ei rieni cyn ei fod yn wyth mlwydd oed, mae 'n sior bod eu diddordeb hwy mewn canu. wedi dylanwadu'n fawr arno. Yna, pan gollodd ei rieni, "bu ei ewythr, Thomas Williams, Cloth Hall, mor garedig a'i gymeryd i'w ofal a'i godi fel ei fab ei hun.   Dyma gam pwysig yn ei hanes.

Roedd Thorns Williams yn godwr canu pen i gamp yng nghapel Yorath, Cwmgiedd, ac yno, yn y dosbarthiadau solffa dan gyfarwyddyd Philip Thorns a J.T.Rees y cafod Daniel Protheroe ei wersi cyntaf mewn cerddoriaeth.

Ysgwn i sawl un ohonoch chi sydd wedi sylweddoli mai J.T.Rees a gyfansoddodd y gan i'r emynnau "Pendigedig lesu", a "O'. Mae'r Byd Yn Llawn o Fiwsig" ?  'Roedd gan Daniel Protheroe athro cerdd da on'd oedd? Mae rhagor o'i ganeuon yn ein  Llyfr Gwasanaeth. Chwiliwch chi amdanynt.

Dafblygodd Daniel Protheroe lais alto neilltuol o gyfoethog ac enillai wobrau dirif yn yr eisteddfodau lleol a'r cyfarfodydd llenyddol, Yn bedair ar ddeg oed, enillodd y wefr gyntaf ar yr unawd alto yn Eisteddfod Genedlaethol Abertawe, 1880, ac wedyn yn Merthyr, 1881. Yn y cyfnod hwn yr oedd galw rnawr amdano i ganu mewn cyngherddau yn y cylch a chan fod cyfleuaterau teithio mor wael byddai dynion yn ei gario ar eu cefn i'r fan lle'r oedd i ganu.

Anrhydedd fawr I grwt mor ifanc oedd cael canu o flaen Madam Patti, y gantores fydenwog, yng Nghraig y NIos,   Gwnaeth ei waith mor dda nes iddi hi ei hun ei longyfarch a rhoi cusan iddo,

Adroddir un hanesyn doniol amdano'n grwt yn eistedd ar lan nant gyferbyn a ca-pel Yorath a'i draed yn y dwr,   Gofynnwyd iddo beth oedd ystyr y fath stumiau, a'i ateb parod oedd - "Rwy'n trio dala amiwyd er mwyn cael canu "bas" .

Er hynny, nid fel canwr y cofir aodano'n fwyaf arbennigin ond fel arweinydd corau. Mae'n amlwg fod yr elfen hon ynddo pan yn grotyn oherwydd fe ddaliodd y forwyn ef unwaith wedi camglu'r holl esgidiau oedd yn y ty a'u gosod yn rhes ar y wall yn y cefn. Esboniodd i'r forwyn mai cor plant oedd y rhes ysgidiau ac mai ef oedd yr arweinydd.. Wel, fe ddatblygodd yn arweinydd corau iawn mewn byr amser. Pan yn ddim ond deunaw oed, arweiniodd gor Ystradgynlais i fuddugoliaeth yn eisteddfod Llandeilo 1884.

Yn y flwyddyn ganlynol, 1885, cefnodd ar Gwm Tawe a Chymru ac ymfudodd i'r Unol Daleithiau, i Ie o 'r enw Scranton.

YN AMERICA

Dyma ddechrau cyfnod newydd yn hanes Daniel Erotheroe, y cerddor o Gymru At ei ewythr yr aeth i fynd  ar y dechrau, ac fel yr oedd yn digwydd bod, yr oedd hwnnw yn arweinydd cor yn Scranton, Un tro, pan drawyd ei ewythr yn vvael fe lanwyd y bwlch yn llwyddianus iawn gan Daniel Protheroe. Yn  wir, yr oedd mor llwyddiannus a'r cor yn ei hoffi gymaint nes iddynt ofyn iddo fe eu harwain yn lle ei ewythr, Wrth gwrs,nid oedd ei ewythr yn hoffi'r syniad o gwbl, a phan gyrhaeddodd Daniel Protheroe adre un noson fe gafodd ei fagiau i gyd ar garreg y drws. Yr oedd yr ewytlir hwn yn genfigennus iawn o Iwyddiant ei nai.

Yr oedd miloedd o Gymry Cymraeg yn byw yn U,D.A. y pryd hwnnw, ao fe gafodd Daniel Protheroe ddylenwad mawr ar y canu Cymreig yno, Bu'n astudio cerddoriaeth o dan hyfforddiant cerddorion fel C.Emery, J.W.Parson Price, Hugo Karn a Dudley Buck, ao yn 1890, cyn ei fod yn bedair ar hugain mlwydd oed, enillodd radd Mus.Bac.. (Toronto). Yn 1910, graddiodd yn Ddoethor Cerddorol ym Mrifysgol Efrog Newydd

Tra yn Scranton, datblygodd yn arweinydd corawl pobologaidd iawn, ac yn Milwaukee, lie y symudodd yn 1894, fe lanwodd nifer o swyddi cerddorol pwysig. Daeth yn enwog fel athro cerdd a beirniad yn eisteddfodau'r cylch hwnnw.

Wedi'r Rhyfel Byd gyntaf symudodd i Chicago le treuliodd weddill ei oes yn athro yn Ysgol Gerdd Sherwood ac yn arweinydd y "Central Church Choir". Yn ei ymddangosiad cyhoeddus olaf, yn arwain Gwyl Gerddorol Harlech ym mis Hydref 1933, fe' I trawyd yn wael yn ddisymwth, ac er iddo wella digon i ddychwelyd adref i Chicago, gwaethygodd yn gyflym yno a bu farw ar y 25ain o Chwefror 1934.

EI ENW DA

Ym mlynyddoedd olaf ei oes talodd ymweliad blynyddol a hen wlad ei dadau, gan ennill enwogrwydd fel BEIRNIAD yn yr  Eisteddfod Genedlaethol a phoblogrwydd fel ARWEINYDD CYMANFAOEDD.

Atgof yn unig yw 'r pethau hyn mwyach; eithr rhywbeth mwy arhosol yw ei waith fel CYFANSODDWR. Mae eu emyn-donau fel 'Cwmgiedd', 'Hiraeth','Wilkesbarre' a 'Milwaukee' yn boblogedd o hyd ynghyd a llawer o garolau ac unawdau. Ymhlith ei gerddi mawr ceir "Lleian Nidaros", "Castella","0 Mor Ber", "Bryn Calfaria'', a "Drentheim" a ystyrir y mwyaf ohonynt i gyd.

YR OEDD Y DOCTOR DANIEL PROTHEROE YN GYMRO I'R CARN CARODD Y GENEDL A'I HIAITHA'I DIWYLLIANT AC YN BENAF OLL EI CHAN.

          Yr oedd yn GERDDOR, yn EISTEDDFODWR ac yn WLADGARWR.

BRIWSI0N DIDDOROL

1.Mae'n debyg "bod llyfr emynau personol Dr. Daniel Protheroe I'w weld o hyd yng nghapel Yorath.

2. Pan ymadawodd Dr.Daniel Protheroe a Scranton, cyflwynwyd iddo ffon o eboni du a'i charn yn aur. M'ae 'r ffon ynghadw gan deulu Sali Griffiths, Nythfa, Heol y Gwynt, sef gorwyres i frawd Dr.Protheroe, David Protneroe.

3. Er mai Americanes oedd gwraig Dr.Protheroe, diddorol yw nodi mai o Ferthyr y daethai ei theulu hithai yn wreiddiol. 'Roedd ganddynt dri o 'blant - Daniel, Ann a Helen.

4. Byddai Dr.Daniel Protheroe yn danfon carden Nadolig i'r "bardd Wil Ifan bob blwyddyn, a thu mewn i bob un byddai carol newydd sbon  o'i waith ef ei hun.

5. Cymraeg oedd iaith ei lythyron i gyd* Mae'n debyg bod ei deulu yn cymryd wythnos i ateb ei Iythyron gan y mynnai gael hanes pob un a phob peth yn yr ardal.

GANED YN YSTRADGYNLAIS 1866 BU FARW YN CHICAGO 1934

Diolch I'r rhai a fu wrthy'n casglu rhai o'r hanesion a'r manylion uchod.

Diolch hefyd I Mrs Hannah Griffiths a Mr William Alexander am fod mor barod I helpu.

  up

Gareth Hicks © Copyright notice