CRIST AR BINACL Y DEML gan Hedd Wyn
[an error occurred while processing this directive]

CRIST AR BINACL Y DEML

I Y Grisiau

WELE, mae'r bywyd anfarwol a'i drem
Yn wyneb temtiwr o hyd,
A chreithiog gan olion llawer brwydr lem
Yw'r fraich sy'n deffro y byd.

Tybed a'i cysgod o draffell a ddwg
Yr oed yng Nghaersalem dref,
O'r Duwdod sy fyth yn ymladd â'r drwg,
A'r drwg sy'n ymladd â'r Nef?

Cans erys Crist ar ryw binacl o hyd
Ym mywyd y cread mawr;
A gwybydd fy enaid fod drwg fy myd
Fyth am ei ddymchwel i lawr.

ll Teml Hanes

Meddyliais amdano, Waredwr blin,
Ym meithder yr anial gynt,
Geiriau anghyfiaith y Nef ar ei fin
A'i wallt ar chwâl yn y gwynt.

Meddyliais amdano a'r temtiwr tân
Yn esgyn pinacl teml Dduw,
Lle gynt y canasai'r tadau eu cân
Wrth fflam y Seceina byw.

Tybed a wylodd rhyw un yn y dref
O'i weled Ef, Fab y Dyn,
Yn ymliw â gelyn bywyd y Nef
Ar binacl ei deml ei hun?

Od wyt ti yn Dduw, meddai'r demtiol gri,
Bwrw dy hunan i lawr!
Pand hoffedd yr engyl fai'th dderbyn di
Rhag niwed o'r uchder mawr?

A dywed y Crist: Na themtia fyfi,
A thaw â'th elynol gais,
Cans bradwr fy nheyrnas a fyddwn i
Pe ond ufuddhau i'th lais.

Mae hwnnw, orchfygodd y temtiwr gynt,
Ar binacl ei deml o hyd;
A'i ysbryd fel storm o nefolaidd wynt
Yn nhrinoedd santaidd y byd.

lll Teml Deall

Mae'r temtiwr eto a'i ysbryd yn fyw
Ar briflys deall y byd;
A'i archiad beiddgar yn torri ar glyw
Pob hyder santaidd o hyd.

Heddiw y dywed efe wrth Fab Duw:
Bwrw dy hunan i lawr;
Od ydwyt a ddwedi, cedwir di'n fyw,
Ymhonnwr yr uchder mawr!

Ac o lluniaist ti ddeddfau'r môr a'r tir
A hynt anneall pob byd,
Teg weithian yng ngwyddfod fy rheswm clir
Fai prawf o'th honiadau drud.

Cans p'odd yr addolwn ni'r Duwdod sydd
Yn gwrthod rhoi prawf o'i fri,
Gan drigo mewn niwl a eilw yn ddydd
Tu hwnt i fy neall a mi?

Gan hynny rho brawf i'r ddaear i gyd
Modd delych uwchlaw pob gwarth,
Rhag gweld ohonom mai damwain yw'r byd
A bywyd yn ddim ond tarth.

Trwy bobman daw islef addolgar fyw:
Di, demtiwr, taw, a bydd fud,
Cans nid â'th ddeall y gweli di Dduw
Ar binaclau teml y byd.

Dos hwnt â'th reswm materol amhur,
Na themtia mo'r Ysbryd byw;
Cans enaid di - ddichell, a chalon bur
Yn unig a ddeall Dduw.

IV Teml Adfyd

Mi neithiwr a welwn bererin llesg
Tan bwysau adfyd ei oes;
Ei lafar oedd unfath ag islais yr hesg,
A'i war yn grwm tan y groes.

Fe welodd adfeilion ei freuddwyd brau
A'i fywyd yn fethiant oll;
Fel hyn y llefarai a hi'n hwyrhau
Ar deml ei obeithion coll:

Lluniais fy mywyd â dryswaith pob hud,
Cenais am fwynder a gwawr;
A gwisgais erlant fy ngobaith drud
Ar binacl fy hyder mawr.

Weithiau mae 'mreuddwyd a mi tan ein briw,
A chariad yn adfyd ffrom,
A minnau'n ymliw â Thi sydd yn Dduw
Ar binacl fy nhemlau siom.

Clywais mai cariad wyt Ti oll yn oll
Fel tonnau di - derfyn li;
Eithr onid adferi Di ngwynfyd coll,
Pand twyllwr f' enaid wyt Ti?

Pa raid imi ddioddef penyd a chlwy
A chennyt Ti ras mor fawr?
Di, Deyrn pob addfwynder, ar f'archiad mwy
Bwrw o'th gariad i lawr.

Na themtia yr Arglwydd dy Dduw, dydi,
Medd islais caredig rhydd:
Cans o'th anwybod y cyfyd dy gri,
Bydd fud oni fagech ffydd.

Paid galw ar Dduw er pleser dy fyd,
Bydd dawel a gwna dy ran,
Hyd yma dieithr yw'r bwriad drud,
Daw golau i ti'n y man.

Na thybia mai cymorth i chwerthin yw
Y Nef i'th fyd ac i ti;
Ar briffordd ei wynfyd fe enfyn Duw
I bobman ei Galfari.

V Teml Proffes

Fe dybiodd pob enaid amdano ef,
Weddîwr yr allor sant,
Fod yn ei galon oleuni'r Nef
A nodiadau'r Nef yn ei dant.

Fe safodd ar binacl urddasol bri
Amlycaf eglwys ein Duw;
A mynych ei weddi am Galfari
Dorasai gynt ar ein clyw.

Gofynnodd i'r Nefoedd fendithio hynt
Ei eglwys bob Sul heb daw;
A hithau yn marw fel mwg yn y gwynt
O dan gyffyrddiad ei law.

Fe ganodd am rinwedd y Dwyfol Waed,
A thafod moliannus fflam,
Eithr sathrodd y tlodion o'tan ei draed
Rhag mor ddidostur ei gam.

Ar binacl awdurdod ei eglwys wael
Gofynnwr di dawl oedd ef;
Ond rhyfedd cyn lleied welwyd ei gael
Ac mor dawedog y Nef.

Gwelais ei angladd, ac wylodd ei fro
Fynd proffwyd o dir y byw;
Ond clywais lafar yn dod ar ei dro
Fel gwynt trwy gangau yr yw:

Dos ymaith ragrithiwr; â santaidd wedd
Y temtiaist ti Fab y Dyn;
Mae d'enaid di'n bydredd ddyfned â'r bedd,
A'th dduw, - dy galon dy hun.

Gwybydd mai aflwydd ddilyna y llef
Gwyd o allorau y byd
I ofyn bendith o ddwylo y Nef
A chalon ragrith i gyd.

Dos hwnt yn fy ôl, a choller dydi,
Cans gelyn wyt ti erioed;
Ni lwydd ond a gerddo yn fysbryd i
Ar binacl y santaidd oed.

VI
Ar ôl canrifoedd o demtio a siom,
Gorchfygwr fydd Mab y Dyn,
A chefna pob gelyn ar encil ffrom
O'r pinacl i'w le ei hun.

Ni chyfyd un ysbryd anniwair mwy
I demtio ei fwriad drud;
Cans ar y pinacl 'rôl ympryd a chlwy
Bydd Crist yn arwain y byd.

<<<<<<<<

>>>>>>>>




Hanes Dolgellau
Dolgellau History

Hanes Dolgellau Dolgellau History