JOHN HUMPHREYS |
Preifat 6037 Bataliwn Cyntaf y Ffiwsilwyr Cymreig
Private 6037 First Battalion Royal Welsh Fusiliers
Ganwyd ym 1874 ym Meudy Newydd y Ganllwyd, yn fab i John a Jane (Williams
gynt) Humphreys. Ymddangosodd y nodyn hwn am ei farwolaeth yn "Y Dydd" Medi 24, 1915: WEDI EI LADD - Mae Mr Griffith Humphreys, Plasbrith Lane, wedi derbyn newydd fod ei frawd, John Humphreys, wedi ei ladd yn Ffrainc bore Sul Mai 16. Yr oedd wedi derbyn newydd ei fod ar goll yn flaenorol, ond yn awr ysgrifena Cymro sydd yn perthyn i'r Royal Warwickshire Rifles ei fod wedi ei ladd. Yr oedd wedi ei saethu yn ei fraich, ac nid oedd y bandages yn ddigon i atal y gwaed. Yr oedd yn amlwg ei fod yn front y charge oddiwrth y lle caed ei gorff. Anfonai lythyr oedd wedi ei gael yn ei boced gartref, a chladdodd ef, gan roddi croes fechan o goed ar ei fedd. Ail fab y diweddar John Humphreys y gwr dall, oedd yn byw yn Well St., Dolgellau, beth amser yn ol ydoedd. |
Born in 1874 at Beudy Newydd Ganllwyd, the son
of John and Jane ( nee Williams) Humphreys. KILLED- Mr Griffith Humphreys, Plasbrith Lane,
has received news that his brother, John Humphreys, was killed in France on
Sunday morning May 16th. He had previously heard that he was missing, but
now a Welsh man serving with the Royal Warwickshire Rifles has written to
say that he has been killed. He was shot in the arm but the bandages could
not stop the bleeding. It was clear that he had been at the front of the
charge from where his body lay. The soldier who found him sent a letter
which was in his pocket home and buried him, leaving a small wooden cross on
his grave. He was the second son of the late John Humphreys the blind man
who use to live in Well St., Dolgellau, some time ago. |
Yr Enw Nesaf Next Name |