FY NGWYNFA GOLL gan Hedd Wyn
[an error occurred while processing this directive]

FY NGWYNFA GOLL

I
MAE fy nghalon yn nharthiau briglwyd y pellter
Fel lleuad bryd-welw rhwng tywyll a gwawr
A'm henaid yn rhwyfo yng ngobaith di-bryder,
A'i wyneb ar chwerthin diderfyn ehangder
Tros wendonnau'r moroedd a'r meithder mawr.

A phan fo fy henfro yn yr oriau llwydion,
A'r dyfnlliw damasg ym mro y gyhudd,
Mi a ganaf fod gennyf ddau lygaid duon
A sylla trwy dawchiau y ceyrydd a'r wendon
Hyd fro y dyhewyd lle'r ery fy nydd.

A'r dryswaith o dân yn fy ngwaedlif a'm gruddiau
Mi ganaf fy hyder dan asur y nos;
A chaf drwy ddewiniaeth y sêr a'r lloergannau
Droi i anneall sagrafen y duwiau,
At offeiriaid huodl ac allorau rhos.

Tragywydd fy ing am y wenfro nas cefais,
Ac alltud digartref wyf byth hebddi hi;
Tragywydd fy ngwae am y wynfa a deimlais
Yng nghuriad fy ngwaed, a fforestydd pereiddlais
A chwerthin pellterau diarffordd y lli.

Canfyddaf ei llewych hi, dlos Eldorado,
Ym mwrlwm ffynhonnau yng nghysgod y coed,
Mewn rhwydwaith o fanddail yng ngwyntoedd yn siglo,
Ac yn llewin yr hwyr urddasol ban gilio
I diroedd anghyffwrdd ynysoedd yr oed.

A chlywaf ym myfyr lawer min-nos tawel
Gefnforoedd y wenlloer yn murmur ymhell,
A llwydni bro cwsg a dihun ar yr anwel;
A'm calon a grwydra o orwel i orwel
I geisio porthladdoedd ardaloedd sydd well.

A mynych yr ery fy enaid ym mynydd,
Rhwng creigiau a ffriwiau, ymhenyd yr hud;
Ei fantell fel cwmwl yng nghyhwrdd ystormydd,
A'i lygaid yn dymestl o lesni dihenydd,
Wrth geisio'i Nirvana ar ei hyntoedd drud.

A deuaf ar hyntoedd i finion pob glaslyn
I wrando breuddwydion yr elyrch a'r don;
I wrando a ddwedont am diroedd pellfelyn,
Cans clywais eu bod gan lilïau ac ewyn
A chan ddychlam tanlli y gwaed yn fy mron.

Ban gyffyrddo fy rhiain â thannau yr organ
Fy enaid o'r gwyllnos ddaw ati'n wrandawr;
A chenir fy myfyr hyd orwel o arian
A bro lle mae pali ysgawnlliw y lloergan
Dros goed y pomgranad, y nentydd, a'r pawr.


A mynych wrth rodio ym meysydd y bryniau,
Ban sangaf yn nhrothwy eglwysi yr y^d,
Caf deimlo fy enaid fel angof a tharthiau,
A'r eurgrawn fel milmyrdd o saint yng ngweddïau
Ac ymson bonheddig am brydferthach byd.

Felysed ei swynion hi, dlos Ddeffrobani,
Sy nghudd yn y coedydd, sy mhell tros y lli;
Bu farw yr oesau i chwilio amdani,
A dihenydd y bywyd a drigo ynddi,
A chlaf o'i breuddwydion yw'm henaid a mi.

Mwy gwisgaf fy nghalon a chwerthin hudolus,
A golchaf fy llygaid yn nwyre y wawr,
A rhwyfaf yn nylif y gwyntoedd soniarus
Am dir y fioled, yr oren a'r lotus,
Tros wendonnau'r moroedd, a'r meithder mawr.

II
A mi ar fy hyntoedd daeth tynged fu greulon
I lwydo y llygaid o "wydr a thân,"
A throes y cymylau fel fforestydd crinion,
A thawodd perori y moroedd fermilion,
A niwl yr anwybod fu drwm ar fy ngrân.

O ddeall im chwennych y fro ddidymhestloedd
Daeth imi watwargerdd o dduwch fy oes:
Pand lledrith o darthiau canwelw yw'th nefoedd?
A gwybydd y ceffi yn nherfyn blynyddoedd
Weld lludw'th freuddwydion wrth droed dy groes

Cest chwerthin dy freuddwyd am fro Ddeffrobani,
Cei eto ei wylo yn llwydni y parth,
A rhoi'r iti dalaith o welwder a thlodi
A chei am dy ymchwil anwybod a dellni
A chrïo'n dragywydd ag enaid o darth.

A gwyw yw dy wynfa di, welwaf freuddwydiwr,
A'i lludw sy 'ngwlad yr ieuenctid a'r crud,
A bro mabinogi yr Iddew a'r Groegwr;
Ni cheffi di mwy onid gwyntoedd a chynnwr'
A marw fel niwl ar fynyddoedd y byd.

A minnau a ddwedais: Nid tlodi a'm gorthrech
Na chyhwrdd corwyntoedd y moroedd maith pell;
Cans cenais i'm henaid ganiadau yr ymdrech
A theg orohïan yr hewyd anorthrech,
A gwn wedi'r herw daw'r tiroedd sy well.

Di, ysbryd anobaith, cei ddallu fy llygaid,
A diffodd y golau fioled o'm grudd,
Ond ni phaid y wenlloer â thramwy fy enaid
Ac ni phaid fy nghalon â'i lliwiau gogonaid
Ac ery 'm hanwybod yn obaith a ffydd.

Ac er gwybod fynd ymaith ddyddiau fy chwerthin
Ban welais lwyd yrroedd y crinddail ar ddôl,
A cholli fy ngerlant o wyddfid fy nrycin,
Mi a wn nad gwynfa ddidostur fy hefin
A charlam y dymestl a'i dug hi yn ôl

A phe drylliai'r gwyntoedd linynnau fy nhelyn
Bydd deufwy y gân ar y tannau fo'n friw;
A phe'r awn mor dlawd a digartre â'r ewyn,
Mi ganwn a süwn o draethell i benrhyn
Am orwelion disglair a thymhestloedd lliw.

Bid greithiog fy mynwes gan drymder yr henfyd,
Bid gymhleth fy ngwallt ag ystormydd y gwynt,
A disgynned y mellt o'r asur gadduglyd,
Fel cawod o wreichion ar lwybrau fy ngwynfyd,
Cans nid oes a etyl ryferthwy fy hynt.

Ni'm temti, O ddrycin, cans prynaf y wenfro
A thelyn ysgyrion a chleddyf fo ddellt;
Mi a wn mai chwerw yw ffordd Eldorado,
A gwybydd fy enaid yn llwydni y brwydro,
Nad Prometheus nebun onis prawf y mellt.

Er wylo mewn glynnoedd prydwelw gan dlodi
Mi glywaf ddyrifau ysbrydion y wawr
Yn canu o lwybrau'r dihenydd felyni,
Yn canu im wybod a swyn digreuloni,
A'm calon sy'n chwerthin ar y pellter mawr.

Fel eraill fe'm ganwyd i'r Wynfa nas gwelais
Onid ym melys orohïan fy ffydd,-
Y Wynfa a ery 'n dragywydd i'm goglais
A'i milfil o belydr ysgawnlliw ac islais,
Cans hi yw dewiniaeth ddrud y gyhudd.

Ac yno ni theimlir na gormes na dagrau,
Ebr gwefus o dân yng ngwleidyddiaeth dydd,
'Rol cyhwrdd y cleddyf ceir myfyr lilïau
Dan gangau y gwinwydd a choed pomgranadau,
A chalendr pob enaid yn chwerthin a fydd.

Anorthrech yw hewyd fy enaid amdani;
Mi welais ei chysgod yng Ngroeg a bro hud;
Fe'i teimlais ym mreuddwyd addolgar y lili;
Ac ar fin pob gwybod mae clodydd ei thlysni;
A chlaf o'i dyhewyd yw gwerin y byd.

hynny gwybydd di, nwyd y tymhestloedd,
Mai fi ydwyf Brometheus prydwelw ei fin;
Fy nghleddyf a dery ddolefau o'r gwyntoedd
A'm henaid fel marchog adeiniog ar hyntoedd
A lama yng nghyfwrdd y bore o win. III

Daeth angau, frawd anghred, a'r coed yn adfeilio,
Hyd ataf yng ngyrroedd crinddeilios yr allt;
'Roedd gwisg o eiddiorwg a mwswg amdano,
A thrwm oedd ei eiriau yn nydd yr edwino,
Ac i faner ridyll tebygid ei wallt.

A dywawd: Di, grwydrad y Wynfa anneallt,
Mwy gwybydd ofered dy hyntoedd a'th gri;
Cans eraill a ganodd i'r tiroedd o emrallt,
Ban oeddynt facwyaid is gerlant o eurwallt;
Gwêl yma eu beddau, ac wyla, dydi.


Ni fedd neb ym mywyd awdurdod i ganu,
Eithr tonnau y moroedd, y glasgoed, a'r gwynt;
A thithau a anwyd, O ddyn, i alaru;
A rhagrith dy obaith ni phair dy ddiddanu,
Cans lledrith y breuddwyd a genaist ti gynt.

Pob gwenllong a welaist yn croesi Iwerydd
Ddiflannodd ac nid oes a wybydd ei hynt,
Eithr onid a ddywaid y dymestl aflonydd
Ban gludo hi estyll dichwerthin i'r glennydd
I ymson am bellter digariad a gwynt.

A minnau atebais i'r angau canwelw,
A'r crinddail porfforlliw yn hedfan o'r coed:
Er llwyted fy wyneb a chrymed fy nelw,
Mae'r môr a'r mynyddoedd o hyd yn fy ngalw,
A myfyr fy enaid sydd orlawn o'r oed.

Di, angau, rho'th glust ar fy nwyfron i heno
A gwybydd na chiliodd fy ienctid na'm dydd;
A chlywi obeithion fy ngwaedlif yn curo,
A theimli fod actau fy enaid yn teithio
Am y tiroedd sanct o Bantheon fy ffydd.

Cerdd ymaith, amheuaeth, ni'm temtir â'th stormydd,
Cans gwahawdd fy enaid mae'r fro tros y lli;
Nid lledrith mo'i swynion, gwn gaffael o'i glennydd Ddyhewyd a cherddi ac asbri dragywydd,
A phob dyfnfor a fforest a gân iddi hi.


Ba waeth am y beddau? mae Dafydd a'i Forfudd,
phennaf rianedd y dyddiau fu gynt,
A phawb ar a feddai ar nwyd y dihenydd
Yn crwydro o hyd tan fedw 'i fforestydd
A'u hirwallt aflonydd fel y mynnor gwynt.

A chlywaf lais Islwyn, a chân Pantycelyn,
A mun Dolwar Fechan, o'r tarthiau dihedd;

Ac weithian y deffry o dannau fy nhelyn
Arwyrain ysgawnllais y broydd pell-felyn,
A chyd y gwrandawaf ni'm cuddir â bedd.

Rhag llwyted y niwloedd ar ffenestr fy mwthyn
Mi gaeaf fy llygaid ym myfyr yr hud,
Fel y teimlwyf y llanw, ei furmur a'i ewyn,
Yn dod ar fy enaid, a'r huan mawr melyn
Yng ngorwel ar encil i'r prydferth bell fyd.

Ac odid, O angau, y gweli fy ngwisgoedd
Yfory ar lannau wylofus y lli;
Ond gwybydd, bydd ysbryd ymhell ar y moroedd,
hwyliau aflonydd yn ceisio ei nefoedd,
Ac ni bydd nac amur na gwae ynddi hi.

<<<<<<<<

>>>>>>>>




Hanes Dolgellau
Dolgellau History

Hanes Dolgellau Dolgellau History