MARW YN IEUANC
[an error occurred while processing this directive]

MARW YN IEUANC

BU farw yn ieuanc, a'r hafddydd
Yn crwydro ar ddôl, ac ar fryn;
Aeth ymaith i'r tiroedd tragywydd
Fel deilen ar wyntoedd y glyn.

Hi garodd gynefin bugeiliaid
A chwmni'r mynyddoedd mawr;
A llanw meddyliau ei henaid
Wnâi miwsig yr awel ar wawr.

Bu fyw yn ddirodres a thawel,
Yn brydferth, yn bur, ac yn lân;
Ac eto mor syml ar awel
Sy'n canu trwyr cymoedd ei chân.

Fei magwyd ym murmur y nentydd
Ar fryniau diarffordd Twr Maen;
Nid rhyfedd i'w bywyd ysblennydd
Flaguro mor bur a di-staen.

Mor ddiwyd oedd hi gyda'i gorchwyl,
Mor drylwyr cyflawnai ei gwaith,-
Roedd delw gonestrwydd di-noswyl
Yn llanw ei bywyd di-graith;

Bu farw yn nyddiau ieuenctid
A'i heinioes ar hanner ei byw;
Bu farw a'r haf yn ei bywyd,
Bu farw yn blentyn i Dduw.

Fei gwelsom hi'n gwywo ir beddrod
A'i haul tros y ffin yn pellhau;
A hithau, y Nefoedd ddi-ddarfod,
I'w chyfwrdd ir glyn yn nesáu.

Daw atgof ei bywyd a'i geiriau
Yn ôl i'n calonnau fel cynt,
Fel arogl mil myrdd o lilïau,
Fel miwsig perorol o glychau
Y nefoedd, ar lanw y gwynt.

<<<<<<<<

>>>>>>>>




Hanes Dolgellau
Dolgellau History

Hanes Dolgellau Dolgellau History