Hanes Cymru Owen M Edwards Cyfrol 1 Maelgwn Gwynedd

 Hanes Cymru O. M. Edwards - Cyfrol 1

PENNOD VI - MAELGWN GWYNEDD.

 Llu Maelgun bu yscun y doethan.

LLYFR DU CAERFYRDDIN.

  

TRA'R oedd y Pictiaid yn ymosod ar y mur, yr oedd yr Eingl yn ymosod ar y traeth. Cyn diwedd y chweched ganrif yr oedd Bryneich a Deifr yn eiddo iddynt, holl arfordir y dwyrain, o Gaer Efrog i'r mur. Newidiodd hyn y rhyfel; yn lle Pictiaid ac Eingl yn ymosod ar dalaeth Brydeinig y Cymry, cawn deyrnas Anglaidd yn ymladd yn erbyn Cymry'r gorllewin a Phictiaid y gogledd. Wedi ymsefydlu ym Mryneich, gorfod i'r Eingl ddal pwys ymosodiadau'r Pictiaid, a chafodd y Cymry amser i ymosod ar elyn arall.Yr oedd y Gwyddyl wedi ymsefydlu yng Ngwynedd ac yn Nyfed, wedi ymfudo o'r Iwerddon ac o'r Alban, ac wedi medru ymgartrefu ar hyd traeth gorllewin Cymru tra'r oedd y Gwledig yn ymladd 'u cydgenedl ar y mur. Pan ddaeth yr Eingl rhwng y Cymry a Gwyddyl y gogledd, trodd y Gwledig ar y Gwyddyl oedd yng Nghymru. Yn llyfr Taliesin sonnir am Gunedda, a'r ofn wni Eingl Bryneich yn welw wrth feddwl am dano. Efe yw Cunedda Wledig y traddodiadau Cymreig. Dywed Nennius mai o'r gogledd, o Fanau Gododin, y daeth. Dywed traddodiad ei fod yn fab i ferch Coel, yr hwn oedd yn byw, yn l bob tebyg, yn rhan orllewinol Ystrad Clwyd. Erys enw Coel eto yn enw Kyle, yn sir Ayr; ac y mae wedi aros, heblaw hynny, mewn hwiangerddi. Nid oes ryw lawer o ddadblygiad mewn hwiangerdd, y mae plant pob oes yn debyg iawn i'w gilydd, ac y mae plant y Saeson eto'n clywed,
Old King Cole was a merry old soul,
And a merry old soul was he.

Y mae traddodiadau Rhufeinig yn hanes teulu Cunedda Wledig. Y mae enwau Rhufeinig ymysg ei hynafiaid, gelwid un o honynt yn Beisrudd, yr oedd ganddo osgordd a gwregys aur y Dux Britanniarum. Tra'r oedd Cunedda'n Wledig daeth rhan ddeheuol y dalaeth, ein Cymru ni, yn fwy pwysig na gogledd y dalaeth. Yr oedd yr Eingl wedi mynd darn o'r gogledd; ac nid oedd y mur yn amddiffyn rhag y Pictiaid mwy. Daeth Cunedda Wledig a'i deulu tua'r de, ac yngln Gwynedd a Cheredigion y sn traddodiad fwyaf am dano. Pan ddaeth i gyffiniau Gwynedd y mae'n debyg fod yr holl Gymry, Ordovices y gogledd a Silures y de, wedi ei dderbyn fel eu Gwledig. Ei waith oedd gyrru'r Gwyddyl o Wynedd a Dyfed, neu eu darostwng dan lywodraeth Gwledig y Cymry. Dywed traddodiad mai oddi wrth fab iddo ef, Meirion, y cafodd Meirionnydd ei henw; ac mai oddi wrth fab arall neu frawd, Ceredig, y cafodd Ceredigion ei henw hithau. Y maen debyg mai Ceredigion a Meirionnydd, yr hen Feirionnydd rhwng afon Mawddach ac afon Dyfi, orchfygwyd gan Gunedda a'i deulu ym mhoethder yr ymladd. Gyrasant y Gwyddyl, efallai, o'r parthau hyn; ond, pan oedd nerth ac undeb y Gwyddyl wedi eu torri, gadawyd iddynt aros yng Ngwynedd a Dyfed, naill a'i fel deiliaid i'r Gwledig, neu dan is - frenhinoedd darostyngedig iddo. Gallwn yn hawdd ddyfalu mai'r perygl yr oedd y Cymry ynddo oherwydd ymfudiad parhaus y Gwyddyl i'w gwlad, ymfudiad parhaus wnai'r dyfodiaid yn allu cryfach na hen breswylwyr y tir, gallem feddwl mai'r perygl hwn wnaeth i'r Gwledig ddod o'r gogledd, a gallem feddwl mai'r perygl hwn hefyd wnaeth i holl dywysogion y Cymry ymuno i gynnal breichiau Cunedda Wledig.Nis gellir byth, hwyrach, ddweud achau teulu Cunedda Wledig yn glir. Ond y mae un peth yn sicr am danynt, mai hwy ddarostyngodd allu'r Gwyddyl ac a roddodd unbennaeth Cymru i'r Cymry. Gorchfygasant y dyfodiaid, wedi rhyfel blin am amryw genhedlaethau. Ar yr un pryd, y mae'n sicr fod y rhyfel yn para ar ororau gogleddol y dalaeth, rhwng Cymry, Gwyddyl, ac Eingl. Bu dau ganlyniad, o leiaf, i ryfeloedd a buddugoliaethau Cunedda a'i deulu. Un oedd, bu'r rhyfel, fel bob amser, yn ddinistr i burdeb crefydd a moesoldeb y wlad. A chanlyniad arall oedd hwn, pan aeth y perygl oddi wrth y Gwyddyl heibio, nid oedd y tywysogion eraill mor foddlon i ddisgynyddion Cunedda fwynhau gallu a rhwysg y Gwledig.

Dyma ddau ganlyniad fuasem yn ddisgwyl; ac y mae gennym sicrwydd mai'r ddau ganlyniad hyn fu. Gellir ameu'r traddodiadau gasglwyd gan Nennius, a thraddodiadau loffwyd gan eraill ar ei l; gellir ameu caneuon Llyfr Du Caerfyrddin a Llyfr Coch Hergest a Llyfr Taliesin, wrth gofio mai wedi'r ddeuddegfed ganrif yr ysgrifennwyd y llyfrau hyn. Ond nid oes wiw ameu Gildas. Yr oedd ef yn byw yng nghanol y chweched ganrif, ac y mae'r ffeithiau hanesyddol sydd yn ei gwynfan chwerw, er mor ychydig ydynt, yn werthfawr iawn. Yn ei amser ef, pan oedd y Gwyddyl wedi eu darostwng, a'r Saeson wedi eu gorchfygu yn y dalaeth ddwyreiniol ym mrwydr Mynydd Baddon, yr oedd amryw fn frenhinoedd yng Nghymru. A'i allu'n fwy na'u gallu hwy, yr oedd Maelgwn Gwynedd, pen teulu Cunedda Wledig. Cofier mai mynach oedd Gildas, ac mai ei duedd oedd gwneud ei ddarlun mor ddu ag y medrai, fel pob pregethwr cyfiawnder. Ac yna darllenner ei ddesgrifiad o dywysogion Cymru yn hanner olaf y chweched ganrif,
"Canys i ba beth y celwn ni yr hyn y maer cenhedloedd oddi amgylch, nid yn unig yn ei wybod, ond yn ei ddannod, sef, fod gan Brydain frenhinoedd o dreiswyr, a barnwyr o orthrymwyr, ie, y rhai a ysglyfaethant y gwirion, ac a gadwant yr euog, a chanddynt lawer o wragedd puteinaidd, yn llochesu lladron a godinebwyr, yn anudonwyr, yn cyfodi terfysgodd ym mysg eu gilydd? Megis y darfu i'r gormes-deyrn Cystenyn yleni yn yr eglwys ladd dau o'r had brenhinol, er iddo ymrwymo a lIw cyhoeddus na wnai dwyll i'w bobl; wedi iddo o'r blaen yrru ymaith ei wraig o serch ar buteiniaid. O paham yr wyt ti yn archolli dy enaid dy hun? O paham yr wyt ti yn ennyn y tan i ti dy hun? Edifarha a thyred at Grist. Y tad daionus a wna wledd o gysur nefol i'r dychweiedig, fel y profo mor dda yw'r Arglwydd.

A pheth a wnei dithau, Aurelius Conan, y cenaw llew? Onid wyt ti ar soddi yn yr unrhyw fryntni o fwrdwr a godineb? Oni throi at yr Arglwydd yn fuan, Efe a chwery ar cleddyf atat ti ar fyrder, ac ni bydd a'th waredo di o'i law Ef. A thithau, Vortipor benllwyd, rheolwr Dyfed, tebyg i lewpart amliwiog o anwireddau, mab diras i frenin da, fel Manasse i Hezeciah, beth a wnei di yn cyffio yn dy orseddfainc dwyllodrus, halogedig gan fwrdwr a phuteindra? Na threulia yr ychydig sydd yn l o'th ddyddiau yn digio Duw, canys yn awr y mae'r amser cymeradwy a dydd iechydwriaeth yn tywynnu i'r edifeiriol. A thithau, Cuneglas, paham y gwnei gymaint helbul i ddynion trwy ryfel cartrefol, ac i Dduw trwy aneirif bechodau, yn erbyn y gair syn dywedyd nas gall godinebwyr etifeddu teyrnas nef? Paid 'th ddigofaint tuag at Dduw a'i braidd, newid dy foddion, fel y byddo iddynt hwy weddio drosot ti, y rhai a allant rwymo yr euog ar y ddaear a rhoi gollyngdod i'r edifeiriol?Tithau hefyd, Maglocun, a yrraist gymaint o frenhinoedd gormesol allan o'u teyrngader a'u bywyd, paham yr ymdreigli yn y fath dduon bechodau, megis pe bait wedi meddwi ar win Sodoma? Oni orthrymaist ti, drwy gleddyf a thn, dy ewythr y brenin, a'i filwyr dewr, y rhai oedd mewn brwydr nid anhebyg yr olwg arnynt i genawon llewod? Esgeulusaist eiriau'r proffwyd a ddywed, Gŵyr gwaedlyd a thwyllodrus ni byddant byw hanner eu dyddiau. Gwae di, anrheithiwr, pan ddarffo it anrheithio, y'th anrheithir. Pan addunedaist fyned yn fonach ysgatfydd o ran pigiadau dy gydwybod ac wedi troi o frn yn golomen, ac ehedeg rhag ewinedd creulon y gwalch, i gelloedd diogel y saint, O faint fuasai llawenydd yr Eglwys, oni buasai i elyn dynolryw dy dynnu di allan o'i mynwes hi! O, fel y buasai gobaith nefol yn calonogi yr ysbrydoedd cystuddiedig, pe buasit heb ddychwelyd fel ci at ei chwydfa. Yn awr rhoddi dy aelodau yn arfau anghyfiawnder i bechod a diafol! Ni wrendy dy glustiau hyfrydlais disgyblion Crist yn canu mawl i Dduw, ond dadwrdd gwenieithwyr celwyddog yn canu dy fawl dy hun. Ie, yr wyt ti, fel ebol gwyllt, yn rhedeg trwy faesydd anwiredd, gan dybied fod y fan lle ni bu yn felysach, ac fyth yn myned rhagddo. Canys, gan ddirmygu dy wraig briod, ceraist wraig gŵr arall, ac yntau yn fyw; a hwnnw nid estron oedd, ond mab dy frawd. Ac i soddi dy war galed yn ddyfnach, bwriaist arni ychwaneg o bwys euogrwydd, gan i ti, trwy hoced y butain, ladd dy wraig dy hun a gŵr y llall, i'w chymeryd atat! Pa ŵr duwiol, wrth glywed y fath beth, nad ocheneidia ei ymysgaroedd ynddo? Pa eglwyswr, yr hwn y mae ei galon yn union tuag at Dduw, na ddywed gyda'r proffwyd, Pwy a rydd i'm pen ddwfr, ac i'm llygaid ffynnon o ddagrau, fel y wylwn ddydd a nos am laddedigion fy mhobl! Nid oes diffyg cynghorion arnat ti, gan fod gennyt athraw sydd ddysgawdwr huawdl agos i Brydain oll. O frenin, golch dy galon oddi wrth dy ddrygioni, ac na ddirmyga Dduw sydd yn dywedyd, Pa bryd bynnag y dywedwyf am ddiwreiddio, a thynnu i lawr, a difetha cenedl neu frenhiniaeth, os y genedl honno y dywedais yn ei herbyn a dry oddi wrth ei drygioni, myfi a edifarhaf am y drwg a amcenais ei wneuthur iddi. Hefyd yn Deuteronomium, Cenedl heb gyngor ydynt hwy, ac heb ddeall ynddynt. O na baent ddoethion, na ddeallent hyn, nad ystyrient eu diwedd! Pa fodd yr ymlidiai un fil, ac y gyrrai dau ddeng mil i ffoi? Na fychana'r proffwydi, na ninnau chwaith, er ein gwaeledd, y rhai ydym, mewn mesur o ddiragrith a dwyfolder meddwl, yn dal ar air y proffwydi, rhag ein cael yn gwn mudion."

Y mae Sieffre o Fynwy wedi defnyddio'r hanes hwn, neu draddodiadau am yr un brenhinoedd, ac wedi ychwanegu llawer ato o ryw gyfeiriad neu gilydd. Cynan oedd y Gwledig, ond y mae'n amlwg fod gallu Maelgwn yn cynyddu o hyd. Yr oedd ei dad, Caswallon Law Hir, wedi estyn terfynau Cunedda, trwy ddarostwng holl Wyddyl Gwynedd, neu eu gyrrun l i'r mr. Estynnodd Maelgwn fwy fyth ar derfynau teyrnas ei deulu. Darostyngodd ynys Mn, a daeth yn eiddo iddo; a dyna'r rheswm paham ei gelwir yn ddraig yr ynys. Heblaw hyn, aeth mewn llongau i'r mr, a daeth ynysoedd eraill yn eiddo iddo; hen lochesfeydd y Gwyddyl a mr - ladron eraill. Dywed Sieffre, o ba le bynnag y cafodd y traddodiad, fod Maelgwn wedi cael holl Brydain dan ei lywodraeth, a chwe ynys gyda hi. Ni chafodd Maelgwn unbennaeth yr holl ynys, ac ni ddarostyngodd, o "fynych greulawn ymladdau", yr holl wledydd enwir gan Sieffre, Iwerddon, Ysgotland, Orc, Llychlyn, a Denmarc. Eto i gyd, y mae peth gwirionedd yn y traddodiadau hyn.Yn un peth, y maen sicr fod Maelgwn Gwynedd wedi darostwng Gwyddyl Gwynedd yn hollol, wedi adeiladu llynges, ac wedi ymlid pob mr-ladron i'r Iwerddon ac ynysoedd y gogledd, gan osod ei arswyd arnynt. O'r cyfeiriad hwn nid oedd berygl mwyach.Rhoddodd llwyddiant Maelgwn, maen ddiameu, fri mawr iddo, "tecaf gwas o holl frenhinoedd ynys Prydain, diwreiddiwr llawer o wŷr creulawn Cadarn." Yr oedd y tywysog enwocaf yng Nghymru yn cael enw'r Gwledig, fel yr oedd tywysog enwoca'r Saeson wedi hynny yn cael yr enw Bretwalda. Pan oedd Gildas yn ysgrifennu ei alarnad chwerw, Cynan oedd y Gwledig, ond yr oedd Maelgwn, er ei bechodau, wedi llwyddo. Cynan oedd teyrn Powys, yn ol pob tebyg, ac yr oedd y Saeson i ymosod cyn hir ar ei ochr ef o Gymru, fel yr oedd y Gwyddyl wedi ymosod ar ochr Maelgwn. Gyda glan y mr y cysylltir enw Maelgwn; ond gan mai yn y gorllewin yr oedd mwyaf o berygl ar yr adeg hon, ar lan mr y gorllewin yr oedd lle i ennill brwydrau a chlod.Pan oedd Maelgwn yn anterth ei lwyddiant, yr oedd eisieu Gwledig, ac ymgrymodd tywysogion ereill Cymru i frenin y gorllewin ar mr. Pa un a'i wedi brwydr ynte o'u bodd y rhoddodd y lleill ei goron iddo, nis gallaf ddweyd. Dywed traddodiad fod y tywysogion wedi ymgynnull ar y traeth ger Aber Dyfi, ac wedi eistedd yn eu cadeiriau ar lan y mr, i ddewis brenin ar holl Gymru. Penderfynwyd mai yr hwn fedrai eistedd yn ei gader olaf, heb gilio o flaen y Ilanw, fyddai brenin Cymru. Yr oedd rhyw wr o ran Maelgwn o'r wlad, o Arfon neu Feirionnydd, o'r enw Maeldaf Hen, wedi gwneyd cader o edyn cwyredig i Faelgwn Gwynedd. A nofiodd honno, pan oedd y cadeiriau ereill wedi eu dymchwelyd, ar rhai eisteddai arnynt wedi cilio i fyny'r traeth. Ac am hynny coronwyd Maelgwn yn frenin Cymru. Beth bynnag arall ydyw ystyr yr hen draddodiad hwn, dengys fod Maelgwn wedi ei ddewis yn Wledig. A dengys hefyd, hwyrach, fod a fynno ei lynges rywbeth a'i ddyrchafiad. Ac felly daeth brenin y gorllewin ar mr, yn ei gader nofiadwy, yn Wledig holl Gymru, yn ben ar yr holl fn frenhinoedd ereill. Dywed Gildas mai mynach oedd Maelgwn unwaith, ac mai pechod oedd gadael ei fynachdy. Byddai meibion brenhinoedd yn aml yn cymeryd gwisg a llw'r mynach, gan ddewis tangnefedd y mynachdy yn hytrach na bywyd tymhestlog brenin daearol. I fynach fel Gildas nid oedd ond drygioni ym mywyd y byd, a'r mynachdy oedd unig noddfa crefydd a rhinwedd. Ond gallai fod Maelgwn, yn nhawelwch ei fywyd mynachaidd, wedi meddwl fel arall. Yr oedd y gelyn paganaidd yn bygwth Cymru, a dewisodd adael ei noddfa a'i weddi, i ymladd ag ef. A phan orchfygwyd y gelyn, yr oedd uchelgais a gwladgarwch yn gwneyd iddo feddwl am gader Gwledig ei wlad. Pa fodd bynnag, efe a'i deulu waredodd Gymru oddiwrth y Gwyddyl, efe roddodd arswyd ei enw ar fr-ladron y gogledd, efe unodd frenhinoedd ei wlad dan ei lywodraeth ei hun.Paganiaid oedd y gelynion orchfygasai Maelgwn. Cenhedloedd paganaidd oedd yn bygwth ymdaenu dros Gymru o'r Iwerddon a'r gogledd, yn ogystal ag o for y dwyrain. Wrth gymeryd iau Maelgwn Gwynedd, yr oedd y cenhedloedd paganaidd hyn yn cymeryd iau Cristionogaeth arnynt hefyd. Oes Cunnedda Wledig a'i deulu oedd oes y seintiau Cymreig. Pan ddaeth gallu Maelgwn yn oruchel ym Mr yr Iwerddon, dilynodd cenhadon Cristionogol ol ei longau. Dyma gyfnod effro yng nghenhadaeth Gristionogol Cymru. Tra'r oedd teulu Cunedda mewn awdurdod, daeth y Gwyddyl a'r Pictiaid barbaraidd, fyddai'n arfer anrheithio'r dalaeth, yn Gristionogion. Pregethodd Padrig Sant yr efengyl yn yr Iwerddon, adferodd Cyndeyrn Sant Gristionogaeth y gogledd, a phregethwyd yr efengyl i Wyddyl Dyfed gan Ddewi Sant, yr hwn a wnaeth ei gartref yn Nhyddewi yn eu canol.Derbyniodd Gwyddyl Cymru, felly, lywodraeth a chrefydd teulu Cunedda Wledig; ac ymledodd Cristionogaeth i'r Iwerddon, gan ddofi a gwareiddio'r llwythau oedd yno. O hynny allan, nid oedd berygl o'r gorllewin; o hynny allan yr oedd cysylltiad agos rhwng Cymru ar Iwerddon. Daeth yr Iwerddon yn noddfa ffoaduriaid Cymreig; oddiyno, mewn adeg bwysig yn hanes Cymru, lawer canrif wedyn, y daeth Gruffydd ab Cynan a Rhys ab Tewdwr i Gymru'n l.

Y mae traddodiadau hefyd am deulu Cunedda'n dod i Gymru, ac yn gorffen uno'r trigolion, drwy ddarostwng pob rhan iddynt eu hunain ac i Gristionogaeth. Y mae'r traddodiadau hyn, nid yn y Mabinogion, ond ym Mucheddau'r Saint. Yn hanes y saint, ceir llawer traddodiad am ymdrech Maelgwn i ddarostwng pob rhan o'r deyrnas dan ei gyfraith a than ei dreth. Fel ymhob oes, hawliai gwyr eglwysig ryddid oddiwrth bob treth; a phan ysgrifennwyd y rhan fwyaf o fucheddau'r saint, yr oedd Eglwys Rufain yn gwneyd ymdrech i fod yn rhydd oddiwrth y gallu gwladol.

 Pan drowd Cybi Sant i'r mr terfysglyd gan un o frenhinoedd yr Iwerddon, daeth i Sir Fn, ac yno y gosododd ei babell. Ar amser hwnnw, ebe'r hanes, yr oedd Maelgwn Gwynedd yn teyrnasu ar Ogledd Cymru. Ac ar ryw ddydd ymhlith y dyddiau aeth Maelgwn i'r mynyddoedd i hela. Cododd hydd o flaen y ci, a diangodd am nodded i gell y sant. Dilynodd Maelgwn ar ci ar ei l, ac ebe'r brenin wrth y sant, Gollwng yr hydd allan. Nis gollyngaf ef, ebe Cybi, oni addewi arbed ei fywyd. Os na ollyngi ef, ebe'r brenin yn ddigllon, mi ath symudaf oddi ar y tir yma. Ac ebe Cybi, Ni fedri fy symud oddi ar y tir hwn, y y mae hynny y tu hwnt i dy allu. Duw yn unig fedd y gallu im troi oddi yma. Eto mi addawaf yrru'r hydd allan os aberthi ef ir Hollalluog Dduw, ac os rhoddi i mi y tir y rhedodd dy gi o'i amgylch. Mi a'i haberthaf yn ewyllysgar, ebe'r brenin. Gollyngodd Cybi Sant yr hydd, dilynodd y ci ef, ond daeth yr hydd ir gell yn l. Bu ymdrech wedyn rhwng Maelgwn a Chybi Sant; ond ni fedrair brenin wrthsefyll gwr Duw.Dengys yr hanes hwn fod Maelgwn wedi ennill terfynau eithaf Ynys Mn. Fel brenin y gogledd y sonnir am dano fynychaf, ond dengys y traddodiadau sydd ym mucheddau saint eraill fod ei dreth gasglwyr yng nghymoedd eithaf deheubarthoedd Cymru. Yr oedd Padarn Sant wedi dod o'r mr, ac wedi ymsefydlu yn Llan Badarn Fawr yng Ngheredigion. Ryw dro daeth Maelgwn, brenin y gogledd, a llu mawr i ddarostwng y de. Pan gyrhaeddodd lan afon Clarach, anfonodd ddau gennad i demtio'r sant dwy sachaid o fwswgl a graian, trwy ddweud fod y ddwy sach yn llawn o drysorau brenhinol. Daeth y brenin yn l, wedi llwyddo i ddarostwng y wlad, a haerodd y ddau gennad fod Padarn wedi cymeryd y trysorau o'r ddwy sach, gan roddi mwswgl a graian yn eu lle. Y pryd hwnnw yr oedd y brenin wedi gorchymyn trwy'r deyrnas fod pob lleidr i gael ei brofi trwy roddi ei law mewn dwfr poeth. Rhoddodd Padarn ei law yn y dwfr poeth, a thynnodd hi oddi yno heb fod yn ddim gwaeth; ond llosgwyd dwylaw y ddau gennad celwyddog. A daeth dallineb ar Faelgwn, a saldra, a chryndod gliniau; a chyffesodd ei fod ar farw oherwydd y sant. Aeth at Badarn ar ei liniau, ac am iachad rhoddodd iddo yr holl wlad rhwng Rheidol a Chlarach.Ym muchedd Catwg Ddoeth cawn draddodiadau am Faelgwn, a'i fab Rhun ar ei l, yn teyrnasu ar Forgannwg. Yr oedd Maelgwn, ebe'r hanes, yn teyrnasu ar Brydain i gyd. Anfonodd ei swyddogion i Wynllwg i gasglu'r dreth, a daethant i dŷ gwas Catwg, gan gymeryd merch brydferth y gwas oddi arno. Ymlidiodd gwŷr Gwynllwg ar l y swyddogion, a lladdasant rai o honynt. Yna daeth ofn mawr dros y fro, ofn gwg a dial Maelgwn Gwynedd, a deisyfasant ar Gatwg eu hamddiffyn. Gweddiodd Catwg, ac yn y bore wele golofn niwl yn mynd o'i flaen, ac yn gordroi pebyll a lluoedd Maelgwn fel na fedrid gweled dim. Yn y niwl hwn daeth Catwg at y brenin, a chondemniodd ef i'w wyneb am anrheithio'r wlad yn ddiachos. Cyffesodd Maelgwn ei bechod, a thywynnodd goleuni haf o'i gwmpas, yn lle'r niwl tywyll, pan ddywedodd Catwg fod ei bechodau mawrion wedi eu maddeu iddo. Ac adnewyddodd Maelgwn freintiau Catwg, gan fendithio ei ddisgynyddion os amddiffynnent hwy. Dywedi'r ym muchedd Teilo hefyd fod Maelgwn yn cadarnhau breintiau Llan Daf. Yn llyfr Llandaf y mae buchedd Teilo, a chawn ddesgrifiad ynddo o'r clefyd heintus a dieithr a elwid y Fad Felen. Gelwid ef ar yr enw hwnnw oherwydd fod croen pawb a syrthiai i'w afael yn melynu ac yn sychu. Gwelid ef gan ddychymyg dychrynedig y bobl yn ymdeithio drwy'r wlad. Colofn o gwmwl dyfrllyd oedd, gydag un pen ar y ddaear ac un yn y nefoedd, yn tramwy dros ddyffrynnoedd Cymru. Pwy bynnag ddelai i'w anadl heintus, byddai farw ar unwaith neu byddai'n dihoeni ychydig cyn marw. Ni thyciai meddyg ddim, aberthai pob meddyg ei fywyd wrth fynd i gyrraedd y Fad Felen. Ac anadlodd hwn ar Faelgwn Gwynedd, a bu'r brenin farw tra'r oedd yr haint yn anrheithio ei wlad.Yn l traddodiad arall, ni fu Maelgwn Gwynedd farw'n ddirybudd. Rhybuddiasid ef gan fardd rhyfedd ddaethai i'w lys unwaith. O'r mr y daethai hwn, mewn rhwyd bysgota y cafwyd ef ar draeth Cors Fochno, rhwng y Ddyfi ac Aber Ystwyth. Trwy ei hud ef, distawyd cerdd beirdd Maelgwn Gwynedd, trwy ei hud ef enillodd march ei feistr Elffin yr yrfa yn erbyn meirch buanaf Maelgwn Gwynedd. Gyda'i hud a'i fedr i ganu, y maen anodd peidio meddwl mai'r Iberiad ydyw, yn nerthu'r Gwyddel yn erbyn teulu Cunedda. Yr oedd ganddo ddawn proffwyd, a rhagfynegodd, wedi gweled cadwen arian am draed ei feistr, fod gelyn y byddai raid i hyd yn oed Maelgwn Gwynedd blygu o'i flaen, Mi a ryddhaf Elffin o fol twr meinin,
Ac y ddyweda i'ch brenin bethe i gyffrin,
Fe ddaw pryf rhyfedd 'iar Forfa Rhianedd,
I ddial anwiredd ar Faelgwn Gwynedd,
A'i flew a'i ddannedd a'i lygad yn eurwedd,
A hwnnw a wna ddial ar Faelgwn Gwynedd.

Medrwn edrych ar yr ymdrech rhwng Maelgwn ac Elffin fel yr ymdrech rhwng y Brythoniaid a Gwyddyl traeth y gorllewin, cyn iddynt ymdoddi'n un bobl. A medrwn, hwyrach, edrych ar yr ymdrech rhwng beirdd Maelgwn a'r dewin Taliesin fel yr ymdrech olaf rhwng Cristionogaeth a Phaganiaeth am Gymru. Gwelwn yn eglur, oddi wrth y traddodiadau, fod Maelgwn Gwynedd wedi uno Cymru dan ei deyrnwialen ef. Yr oedd y Gwyddyl wedi eu gorchfygu, yr oedd ei longau'n gwylio'r moroedd, yr oedd ei glod a'i dreth-gasglydd ymhob rhan o Gymru. Enillodd Cristionogaeth bob congl, y mae sant ym mhob man braidd, a daeth Cymru'n un. Mewn oesoedd i ddod, edrychid yn l, dros gyfnod o ryfel ac anrhaith, ar deyrnasiad Maelgwn Gwynedd fel oes heddwch, oes y bardd ar delyn. Ac yn eglwys ger llaw Deganwy yn ei gastell ei hun y bu farw, ebe Sieffre o Fynwy. Dywedai prydyddion oesoedd wedyn am y brenin yn ymguddio mewn eglwys rhag y Fad Felen, ac yn marw wedi edrych arni drwy dwll y clo. Ond nid oedd elyn arall fedrodd ei orchfygu, ac er nad oedd yn hollol wrth fodd y saint bob amser, y mae traddodiad yn rhoddi darlun euraidd o'i lys, "A oes yn yr holl fyd frenin mor gyfoethog a Maelgwn? Rhoddodd y Tad o'r nef roddion ysbrydol iddo,pryd a gwedd, ac addfwynder,nerth, heblaw pob gallu enaid. Ac heblaw hyn, pwy ddewrach ei wr, pwy decach a buanach ei feirch, pwy gyfarwyddach a doethach ei feirdd na Maelgwn Gwynedd?" Dau fab a fu i Faelgwn, Rhun ac Einawn. I Run y bu fab Beli. I Feli y bu fab Iago. I Iago y bu fab Cadfan. Nid oes le i ameu gwirionedd y tipyn hanes hwn, er mai Sieffre o Fynwy a'i dywed, mor bell ag y mae a fynno a lle Rhun yn y gadwen achau.

Yn y traddodiadau darlunir Rhun fel brenin tebyg Faelgwn, ac y maen bur sicr yr adroddir am dano ystoriau adroddir am Faelgwn ac am Arthur hefyd. Fel Arthur ym Mreuddwyd Rhonabwy ac ym Muchedd Cadog, cawn Run yn eistedd yn ei babell ar ochr rhyw fynydd, ac yn chware gwyddbwyll gyda'i weision. Yr oedd wedi dod i ddeheudir Cymru, ac i gyffinau tir Cadog Sant. Yr oedd yn boeth yn yr haf, a daeth syched ar rai o'i wr wrth dramwyo drwy'r gwres. Cofiasant am ysgubor Cadog, ac am y gwartheg blithion oedd yno, ac am y llawnder o laeth. Pan gyrhaeddasant yr ysgubor, ni fynnai gwas y sant roddi llaeth iddynt; eithr ymesgusododd trwy ddweyd faint o glerigwyr a milwyr ei feistr fyddai raid sychedu, os rhoddai ef y llaeth i dorri syched pobl ddieithr. Diwedd hyn oll fu rhoddir ysgubor ar dn. Yr oedd Rhun yn chware gwyddbwyll o hyd. Ond daeth mwg ysgubor y sant, ni wnai ond mygu, ni losgai, dros babell y brenin. Ac er fod llygaid Rhun yn agored, ni welai ddim. Cofiodd am ddallineb ei dad flynyddoedd cynt, ac ymholodd a oedd rhywun wedi ymyrryd 'r sant. Wedi chwilio, cafwyd y gwir. Ac anfonodd Rhun am Gadog, a dywedodd wrtho, Bendigedig wyt ti gan yr Arglwydd, bydded dy ddyfodiad yn heddychlawn, pechais yn erbyn Duw ac yn dy erbyn dithau. Holodd y sant beth oedd, ac wedi clywed yr hanes, gweddiodd ar i ddallineb Rhun gilio, a chilio a wnaeth wrth ei weddi. Yna cynyddodd Rhun ei freintiau, y breintiau roddasid iddo gan Arthur a chan Faelgwn ei dad, gan ddymuno bendith ar ei gymhwynaswyr a melldith esgymundod ar y rhai a'i drygai.Sonnir am allu Maelgwn, ac am ei lwyddiant, gŵr garw ydyw yn y traddodiadau, yn meddu syniad am gyfiawnder, ond wedi penderfynu bod a'i air yn air ar bawb. Sonnir am ardderchowgrwydd ymddanghosiad Rhun, ac am ei hoffter o bleser, gwr moesgar ond aniwair ydyw, wedi etifeddu llwyddiant. Ym Mreuddwyd Rhonabwy ceir yr ymgom hon, Pwy yw y gwr gwinneu y daethpwyd ato gynneu?

Rhun fab Maelgwn Gwynedd, gwr y mae o fraint iddaw ddyfod pawb i ymgyngor ag ef.

Yn hanes Taliesin y mae traddodiad am ei fuchedd, a'i rodiad, un o'r gŵyr anllataf o'r byd oedd Rhun, canys nid a'i na gwraig na morwyn yn ddiogan ar ei caffai ef ennyd i ymddiddan hi. Ond tra mae'r rhamant yn darlunio Rhun yn dyfod ar frys at y castell lle'r oedd gwraig Elffin, i amcanu llygru ei diweirdeb hi, y mae cyfreithiau Hywel Dda yn ei ddarlunio'n ymlid gelynion ei wlad, ac yn ymddangos gyda'i lu wrth fur y gogledd. 

Blaenorol Cynwys y llyfr hwn Adran Cymru Hafan Nesaf
Hanes Dolgellau
Dolgellau History

Hanes Dolgellau Dolgellau History